Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWE. Rhif. 135. HYDREF, 1846. Cyf. XI. ADDOLIAD TEULUAIDD. GAN Y PAItCII. J. II. MERLE D'AUBIGNE, D. D., GENEFA. CYFIEITHIEDIG GAN Y PARCH. T. REES, SILOA. Addoltad Teuluaidd yw y gosodiad cre- fyddol mwyaf hen, yn gystal â'r mwyaf pwysig. Nid un o'r pethau newydd hyny ydyw, yn erbyn y rhai y mae yn hawdd ein llanw o ragfarn, ond peth a ddecbreu- odd gyda y byd ei hun. Mae yn amlwg nas trallasai yr adduliad cyntaf a roddwyd i Dduw, gan y dyn cyn- taf,gyda ei blant, fod yn ddim ond Addoliad Teuluaidd, gan nad oedd ond un teulu ar y ddaear y pryd hwnw. " Yna (medd yr ysgrythyr) y dechreuwyd galw ar enw yr Arglwydd." Mae yn rhaid mai Addoliad Teuluaidd, am amser maith, oedd yr unig addoliad a roddid i Dduw ; canys gan fod y ddaear heb eî phoblogi y pryd hwnw, sefydlai pob pen-teulu ar wahan oddiwrth ereill, ac fel offeiriad Duw yn y gymydog- aeth a syrtbiai i'w ran, cyflwynai i Argl- wydd yr holl ddaear, mewn cysylltiad â'i wraig, ei feibion, ei ferched, ei weîsion, a'i forwynion, yr addoliad a berthyn iddo Ef. Yn raddol, pan ddechreuodd dyniun liosogi yn fawr, sefydlai gwahanol deuluoedd yn agos i'w gilydd ; yna dechreuasant feddwl am roddi addoliad cymdeitbasol i Dduw ; ac felly dechreuwyd yr arferiad o addoli yn gynulleidfaol, Ond yr oedd Addoliad Teu- hiaìdd wedi dyfod yn beth rhy werthfawr yn ngolwg teuluoedd plant Duw iddynt allu ei roddi heibio; ot dechreuasant addoli Duw mewn cysylltiad â theuluoedd ereill, oni welent yn awr gryfach rheswm byth dros barhau i'w addoli gyda eu teulu- °edd eu hunain? Fel hyn, os gadawn fabandod yr hil ddynol, a myned rhagom i bebyll y patriarchiaid, cawn Addoliad Teuluaidd yno hefyd. Awn gyda'r angel- ion i wastadedd Mamre, pryd yr eistedda Abraham yn nrws ei babell ar wres y dydd, awn i mewn iddi gyda hwynt, a chawn weled y patriarch, a'i holl deulu gydag ef, yn rhoddi addoliad unol i Dduw. " Mi a'i hadwaen ef, (medd yr Arglwydd wrth son am dad y flỳddloniaid,) y gorchymyn efe i'w blant, ac i'w dylwyth ar ei ol, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd, gan wneuthur cyfiawnder a barn." Sefydlir addoliad cyhoedd gan Moses; rhydd ef lawer o orchymynion achyfarwyddiadau i'wddwyn yn mlaen, ac y mae teml orwych i gael ei hadeiladu. OnichaifT Addoliad Teuluaidd ei ddileu yn awr ? Na chaiff: yn yml y deml a'i holl wychder, y mae anedd y cred- adyn iselaf ei amgylchiadau i'w llenwi â gair Duw. " Bydded i'r geîriau hyn yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw, (medd yr Arglwydd trwy Moses,) yn dy galon ; a hygbysahwynt i'th blant; achry- bwylla am danynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fynu." Mynega Joshua i'r bobl, y gallant hwy, 08 dewisant, addoli eilunod, ond na una efe â hwynt yn eu gwasanaeth halog- edig, eithr y bydd iddo ef yn ei dý ei hun, a'i dylwyth gydag ef, wasanaethu yr Argl- wydd. Cyfodai Job yu foreu, ac offrymai boeth-offrymau, yn ol rhifedi ei blant, gan ddweyd, " Fy meibion ond odid a bechas- ant." Nid oedd Dafydd, yr hwn a dreuliai ei holl fywyd i addoli a molianu Duw, a'r hwn a ddywedai fod un diwrnod yn ngbyn- teddau yr Arglwydd, yn well nâ mil a dreulid mewn lleoedd ereill; nid oedd ef yn esgeulusoyrallordeuluaidd. Ond gwaeddai allan, "Ypetbau a fynegodd ein tadau i ni, ni chêlwn hwynt oddiwrth ein meibiun " 38