Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 131.] MEHEFIN, 1846. [Cyf. XI. DIRWEST. GAN Y PARCH. W. EDWARDS, A B E R D A R E. ' Pob peth sydd gyfreithlon i mi, ond nid yw pob peth yn llesàu; pob petb sydd gyfreithlon i mi, eithr ni'm dygir dan awdurdod gan ddim."—Patjl. Mae rhyw ymarferiadau yn mhob oes a gwlad ag sydd yn destun dadl gan y byd ; yr oedd bwydydd felly yn eglwys Coriníh, yn nyddiau Paul. Y prif anhawsder i benderfynu y ddadl ydyw, cael gafael ar safon cyfreithlondeb neu anghyfreithlnn- deb y cyfryw ymarferiadau. Mae safon Paul wedi ei gosod i fynu yn yr ymadrodd- ion uchod : " Pob peth sydd gyfreithlon i mi, ond nid yw pob peth yn llesíìu." Dyna yr haner cyntaf o'r safon ; hyny yw, pa morgyfreithlon bynag ydyw yr ymarferiad ynddoei hun,eto, os nad yw yn tueddu at lesâu, neu at sicrhau lles y cyffredin, ei fod yn aníhyfreithlon. " Pob peth sydd gyf- reithlon i mi, eithr ni'm dygir dan awdur- dod gan ddim." Dyna yr haner arall; hyny yw, er fod ymarferiad ac unrbyw beth yn eithaf cyfreithlon ynddo ei hun, eto, 08 oes tuedd yn y peth a arferir i'n dwyn dan ei awdurdod, ei fod yn anjrhyf- reithlon. Nid oes eisieu gwell safon ; nid oes raodd cael ei swell i brofi cyfreithlon- deb neu anghyfreithlondeb pobymarferiad. Gan hyny, cymhwyswn hi at yr ymarferiad o ddiodydd meddwol; oblegid dyma y prif heth y dadleuir yn ei gylch yn y dyddiau hyn. Dadleuir dros eu cyfreithlnndeb gan un blaid, a dywedir eabod yn anghyíreith- lon gan y blaid arall. Ni fynem well safon i'w profi nageiddo Paul; oblegid, a chan- iatau eu bod yn gyfreithlon ynddynt eu hunain, eto, os gellir profi nad ydynt yn tueddu at lesâu y cyffredin, maent yn ansthyfreithlon. Gan hyny, y gofyniad ddy- lai fod, nid yngymaint, paun a ydyw yrym- arferiad â hwy ntyn dda neu ddr wg y nddo ei hun, ond,paun fwyafodda neuddrwgmaent yn gynyrchu yn y byd? Neu, yn ol haner arall y safon : er fod yroarferiad cyrohedrol ohonynt yneithnf diniwed,neu ynüyfreitb- lon ynddo ei hun, eto, os gellir profi fod y» eu nhatur i'n dwyn dan eu hawdurdod, ei fod yn antíhyfreithlon, ac feüy yn bechad- urus, am ei fod yn troseddu yn erbyn safon Cristionogaeth ; gan hyny, yr ydym yn ar- gymhell Dirwest ar y byd yn ol y safon hon. I. Dylìd Htcyr-ymwrthod á phob tr.ath o ddiodydd meddwol, hyd yn nod a chaniatau eu bod yn gtjfreithlon ynddynt eu hunain, am nad yro eu hurferyd yn ilesâu; hyny yu\ yn tueddu at les y cyffredin. Ië, maent mor bell oddiwrth ddwyn lles i'r byd, fel y gellir dwyn siaroplau fyrdd, eu bnd yn dryi?u y byd, a'r holl fyd. Mne dyn yn aelod o gyrodeithas, ac fel y cyfryw, nid yw yn eiddo iddo ei hun ; nid yw i sreisio ei les ei hun, ond üesllaweroedd. Hunan- oliaeth o'r fath waethaf, ac unffyddiaeth o'r fath dywylluf ydyw yr hen ddadl yn erbyn Dirwest, a thros yr yfed : " f^aicb drosto ei hun." Na, os ydym yn oelodau o gymdeithas, dylem gadw Bt ei rheolau; ac ni bu cymdeithas erioed yn raniatau i neb sicrhau ei les ei hun or draul niweidio y gymdeithas. Byddai hyny yn aberthu y llawer i'r ychydig; yn aberthu'r byd i'r dyn. " Wel 'ie, yr wyf fi yn cael lles oddiwrth y ddiod." Nid dyna y pwnc; ond, pa faint o les gaiff y byd oddiwith dy yfed? " Ni theimlais i ei bod yn fy nrygu erioed." Dos uam yn mhellach, ac ym- ofyn, a ydyw dy sianipl wrth yfed yn peidíô 22