Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 127.] CHWEFROR, 1846. [Cyf. XI. ADDYSGIAETH GYFFREDINOL. Hysbysir i ni gan awdurdod ddiameth, ddiamheuol, ac anwrthwynebadwy, fod " Yr enaid heb wybodaeth, nid yw dda." Gadawodd y doethaf o ddynion, dan ysbryd- oliaeth Duw, i ni i lanw y gwagle fel y gwelom oreu: " nid ywdda" i Dduw, "nid yw dda" ì'r byd, i'r gymmydograeth, i'r eglwys, i'w deulu, nac iddo ei hun—nid yw addas i ddim yn un lle, yn y nefoedd, nac ar y ddaear. Ond y mae genym oracl arall, o ddyddiad diweddarach, ac awdur- dod amheusach, yn haeru gyda mwy o an- fethiantrwydd, a pherffaith haerllugrwydd, " yn ngwyneb haul a liygad goleuni," taw "anwybodaeth ydyw mamaeth duwioldeb a threfn." Ac o herwydd unrywiaeth y dyb ddinysti iul bon, a thueddiadau dioglyd a llygredig ein nhatur bechadurus, mae miliynau a gredant ei fod yn becbod i gyr- haedd unrhyw wybodaeth eu bunain, neu i ddysçu ereill; goddefant eu hunain i gael eu tilinaw, a'u llanio yn ol tynged damwain ddall, neu yn ol mympwy ac elw offeiritd- yddiaeth grafangawg. Miliynau mwy a broffesant ymwadu â'r athrawiaeth wen- wynig hon, ond a ymarferol gadambant yr egwyddor yn eu hymddygiad a'u gweithred- oedd ; o ba herwydd mae y rhan fwyaf o'r byd yn ddall, yn anianol, yn anifeilaidd, a pheryglng. Qnd yn yr oes fadiadol, a'r adeg gynhyrfus hon, y mae miliynaa hefyd yn rhy oleu a synwyrgall i sîoelio y fath ffwlbri, ac i danysgrifio y fath arwydd-uir hocedus a dinystriol i «orff ac enaid, a niweidiol i amgylchiadaa presennol a dys- gwyliadau dyfodol y teulu dynol. Onid y^ym weithian wedi dysgu trwy brôflad trist, asylw manylaidd, nadyw anwybod- aeth yn cenedlu parch, nac yn creu dihe- jyd tuag at neb, na dim, ond offeiriaid a defodau? Oni wyddom taw ei bilìogaetb yw pechod, annedwyddwch, tlodi, an* nhrefn, ac aflywodraeth. Yn ei theuiu y cawn bob ameer, y cwnstab, yr hualau, y neuadd, y bar, y crogbren, ac y mae uffern yn dilyn ar eu hol ? Mae ystadegau drygau (statistics of crime) yn ein hysbysu, taw ychydig mewn cymhariaeth o'r rbai allent ddarllen ac yegrifenu, neu mewn un wedd a oleuwyd, ydynt yn troi yn ein carcbarau» yn poblogi ein trefedigaetbau, nac yn marw yn waradwyddus ar y crogbrenau. A phe byddem i gerdded yn fanylaidd trwy un- rhyw dref neu bentref poblogaidd, nì byddai raid wrth sylw manylgraff a threiddgar anghyffredin, er gwelfcd drych, meddyliau, a theimladau moesol ei thrigolion. Gydag yehydig eithriadaa caem weled fod yr heolanau brwntaf, y cynteddau aflanaf, a'r heolydd enwocaf am ymrysonau, ymladdau, a phob rhyw ddrygau yn cael ea trigiannu gan fôdau nad y'nt ond prin un ruudiad oddiwrth yr aoifail, ac na wyddant am un mwyniant, amgen nâ'r eiddo ef; mae duwch eu calonao,athywyllwch eu mhedd- yliau, yn argruffèdig ar eu crwyn melynion, bryntion—eu dillad bratiog, bawlyd—eu dodrefn darniog—eu tai anmbarus, a'u heolydd llawn o ffieidd-dra a halogrwydd. Wrth hyn gellid gweled yn amlwg fod gradd o addysgiaeth yn anghenrheidiol i gysur persouol, i ddedwyddwch teuluol, ac yn hanfodol i ddefnyddioldeb gwladol, cym- mydogaetbol, a chrefyddol. A chan fod y Duw mawr yn ymbyfrydu yn mwyniantau rhesymol, ac yn ymbleseru yn nefnyddiol- deb ei greaduriaid, y mae wedi bwriadu bod yr hyn yn unig a'u dwg i'r sefyllfa.hyny yn enedigaeth-fraint i bawb, ac nas gellir ei Uattal heb wneyd cam â chenedlaeth plant ein Tad cyffredinol. Heb radd o addysg, ni allem wybod beth,