Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 126.] IONAWR, 1846. [Cyf. XI. ARAETH Y PARCH. HENRY GllíFFITHS, COLEG ABEllIION'DDI, Yn Nghyfarfod Addysgol Abertawe, Medi 30, 1815. Ymddangoswyf o'ch blaen heno gyda chryn wyleidd-dra, o herwydd bod fy nghyfaill, Mr. Itees, o Lanelli, yraa yn cynnrychioli yr enwad y perthynwyf iddo; ac felly, gellir meddwl mai gorwaith ydyw i minnau gymmeryd unrhyw ran yn y cyfarfod. Gwir fy mod yn dwys deimlo o barth i'r mudiad hwn, hwyrach na theimlais yn ddwysach am ddim erioed o'r blaen. Hyderaf, er hyny, na chyfrifir hyny i unrhyw deimlad na dyben anghyfreithlon a phleidiol. Meddyliwyf mai sectyddiaeth ydyw y peth diweddaf sydd debyg o dder- byn lles oddiwrtho. Yr ydym wedi cael digon, a mwy ná digon o hyny. Rhy hir y cafodd ein cyd-wladwyr eu rhanu i bleidian gelynol ; ac nid arwydd bach er daioni ydyw ein bod o'r diwedd wedi cael rhywbeth cenedlaethol i ymdrechu drosto, yn mha un y gallwn gladdu ein hamryw- iaethau, a thrwy ba un y gallwn ymlenwi ag ymwybodolrwydd gwerthfawr a ded- wydd o frawdoliaeth gyffredinol ? Byddai ymhelaethu ar bwys dysgeidiaetb yn ananghenrheidiol yn y cyfarfod hwn. Ni wnaf eich sarhau trwy dybio fod yma un gymmaint ar ol yr oes, á theimlo amheuaeth mewn perthynas i hyn. Gan nad pa faint a wahanìaethwn mewn pethau dadleuyddol, neu pa beth bynag a ystyrir yn anmhrofedig mewn Agweddiad Gwlad- wriaethol, (Political Economy,) cyduna pob plaid ar hyn, mai pan wedi eì wrteithio yn y modd mwyaf gofalus yn yr oll a berthyn i'r deall a'r chwaeth, i'r serchiadau a'r gydwybod, y mae dyn fwyaf o ddyn, ac felly, yn ateb dyben ei fodoliaeth oreu. Gan hyny, nid yw y gofyniad, " Pa ddyben ydywdysg?" ond dull arall o ofyn, ''Pa ddyben ydyw dedwyddwch ?" Deng mil o ffynnonellau mwynhad a agorir i ni pan unwaith ein coder i allu dal cymdeithas â llyfrau ; adeng mil yn rhagor pan ein bywheir i deimlo gwyn prydferth- wch natur a chelfyddyd. Dywedwch i mi paham y mae yn well bod yn ddedwydd nâ bod yn atmedwydd ; nid oes ychwaneg yn anghenrheidiol er profì nad da bod yr eaaid heb wybodaeth ; ac nid oes cyfrifiadau doeth-gall (prudential calculations) yn eisiau er dangos bod gan y tlawd hawl neillduol i sylw yn y mater hwn; ac ni raid i mi dreulio amser i ddangos, gan nad ydyw eu cysuron corfforol ond ychydig, ei bi>d yn fwy rhwyraedig arnom ni i geisio lluosogi eu mwynhadau meddyliol. Mae hyny yn amlwggynnwysedigyn yrarwiredd (axiom) o wneuthur i ereill fel yr ewyllys- iem i ereill wneuthur i ni ein hunain. Etto, nis gallaf lai nâ sylwi, yn nhrefniadau Iluosog a chymblethedig cymdeithaa yn awr, bod addygg ddiwygiedig i'r lluaws, yn anhebgorol anghenrheidiol i ddiogelwch cyhoeddus. Cawsom brofìon diymwad o hyn ac nad doeth fyddai eu hanghob'o. Chwi wyddoch bod pentyriad cyfoeth, dyfeisiad a defnyddiad peirian-waith, a llynciad i fynu o fàn fanteision gan rai mwy, yn codi cwestiynau i'r anllythyrenog ac •ydd yn llawn o auhawsdra, ac yn fynych o beryglon. Yn anffodus, mae y tlawd yn ddosbarth mawr, ac, ef allai, yn ddosbarth sydd yn cynnyddu bob dydd. Nig gellir eu cadẃ i lawr yn hir trwy oríbdiaeth. Ein hunig ddiogelwch ydyw rhoddi iddynt wybodaeth o egwyddorion. Caniatäer iddynt unwaith i eglur ddeall eu sefyllfa