Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 125.] RHAGFYR, 1845. [Cyf. X. YR ANERCHIAD. Anwyl Frodyr a Chyd-wladwyr,— Gyda y rhifyn hwn yr ydym yn terfynn ein degfed gyfrol, ac yn anfon ein degfed anerchiad i'n gohebwyr, ein darllenwyr, a'n cyd-genedl yn gyffredinol. Wrth wneuthnr hyn, gwyddom y goddefìr genym i fyned heibio i-bawb at Dad y dylanwadau daionus a gyffrodd bob calon, a ysgogodd bob meddwl, ac a gynhyrfodd bob llaw fu yn gynnorthwyol i'r Diwygiwr oddiar ei ymddangosiad cyntafhyd yr awrhon. Y dylanwadau dymnnol hyn roddodd ffafr iddo yn ngolwg pleidwyr llëenyddiaeth Gymraeg, dysgawdwyr gwybodaeth gre- fyddol, a noddwyr rhyddid a rhinwedd, a. dýnodd sylw y werin ato, ac a'n galluogodd felly i wneyd mwy o wasanâeth i'n cenedl yn gyffredinol yn ysbaid y deng mlynedd diweddaf, nag a allasem obeithio wneyd mewn sefyllfa fwy anghyhoedd mewn deg ar hngain. Yn oes y Diwygiwr y mae chwaeth y lliaws wedi ei diwyllo, eu deall wedi ei oleuo, a'u meddwl wedi ei ëangu. Mae gwybodaeth wedi amlbau—teimladau rhydd a chrefyddol wedi ymledu—golyg- iadau gwleidiadol wedi eu cywiru—y dys- tawrwydd mynwentaidd a ddëorai ar y wlad wedi ei droi yn gynnwrf—ajchryn- swth o feddyliao oeddynt syrthion a lleban- aidd, ydynt yn awr wedi eu tânio a'u hys- gogi, a'u codi i gymdeitbasllyfraucrefyddol a chelfyddydol; a chredwn yn ẃylaidd a gostyngedig, i'r Diwygiwr fod mor offerynol, os nad yn fwy felly, yn y cylch mae yn troi ynddo, nag unrhyw beth arall, i ddwyn hyn oll oddiamgylch. A phan y meddyliom am y cyfanswm o ddaioni am- serol a thragywyddol sydd wedi ei wneyd a'r cyfnewidiadau dymunol ydynt wedi eu heffeithio, nis gallwn mewn un modd, gael lle i edifeirwch, am i ni, ar gais y Corff parchus y perthynwn íddo, i ymaflyd yn y gorchwyl gymmerasom roewn Ilaw. Gwnaeth y deng mlynedd diweddaf ddat- guddio meddyliau Hawer o galonau tuag atom, a thuapr at yr egwyddorion a broffes- wn, ac a bleidiwn yn onest a dirodres, er yn eiddiledd, na chawsid byth eu gweled, na'u gwybod. Derbyniasom garedigrwydd na ddysgwyliasom, ac na haeddasom. Cawsom ein noddi yn fynwesol, a'n cyn- northwyo yn egniol gan ein brodyr dysg- edig, medrusgall, ac hyawdl, i anfon allan y Diwygiwr yn deilwng o'r enwad y per- thyna iddo, ac o'r cylcb pwysig mae yn troi ynddo; ac ni bu y cyhoedd yn ol o gydnabod ei deilyngdod, o ganmol ei onest- rwydd, ac o werthfawrogi ei anmhleidgar- wch a'i foneddigrwydd. Ond tra y canmolwn ein ffawd, rhydd ydyw hefyd i ni ddweyd ein hanffawd. Nid gwyn i gyd fu ein byd—nid llyfn hollawl y bu ein 11 wybr—nid sirioldeb i gyd a gawsom ; ac oddiwrth y driniaeth a gawsom, ac a gawn yn barhaus gan rai, yr ydym yn lled sicr nad oes un cyfnewidiad yn y galon ddynol oddiwrth yr hyn oedd yn nyddian Paul; a sicr iawn ydym, pe buasai amgylchiadau yn caniatâu, a phe buasem ni mor dduwiol, mor ddefnyddiol, mor onest, mor llafurus, mor elynol i aefydliadau gwladol a chref- yddol, ac mor anghymmodlon â phechod ag oedd ef, y gallasem ddweyd ei gyffes yn 2Cor. 11, 25, bob gair; ond fel y mae, gallwn ddywedyd Uawer o honi. Curwyd ni â gwiail enllib, llabyddiwyd ni â chèryg athrod, buom yn mheryglon gan ein cenedl eia hun—yn mheryglon gan eítroniaid— 46