Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 124.] TACHWEDD, 1845. [Cyf. X. WROTH, 0 LANFACHES, A'í AISERAl. GAN MR.D.SEYS LEWIS, GLYN, NANTYGLO. Wedi adsefydlu Esgobyddiaeth yn nheyrn- asiad angoddefol Elizabeth, buan y rhanwyd yr Eglwyayn ddwy blaid ; un blaid oeddynt Arminiaid mewn barn, ac yn ymlynwyr diyggon wrth amry wiol o ddefodau pei thyn- ol i'r Eglwys Babaidd ; y lleill oeddynt yn Galfinaidd eu golygiadau, ac yo bleidwyr gwresog o burdëb dysgyblaethol, ac o herwydd hyny, gelwid hwynt yn Buritan- iaid. Yr oedd Elizabeth yn draws- lywodraethol a gorniesol, fel ei chwaer Mari, ae yn falch a rhwysgfawr fel ei thad Harri yr Wythfed: o ganlyniad, yr oedd defodau coegaidd yr Eglwys Babaidd yn fwy unol â'i harchwaeth a'i golyjfindau, nâ dull syml ac ymddygiad gostyngediy; y Puritaniaid; a dyoddefasaut y dynion da hyny lawer oddiwrth y Frenines a'i Hes- gobion erlidigaethus, ac yn mhlith ereill cawn y Cymro dysgedisf ac enwog hwnw, Ioan ab Henri, neu John Penry. Ganwyd ef yn Swydd Frycheiniopr, dygwyd ef' i fynu yn Rhydychen a Chaeriîrawnt; yr oedd yn aelod o Euiwys y Brownîaid, y rhai a gyfarfyddeut â'u giiydd yn, ac oddi- amgylch Caerludd.yn y caeau a'r coedydd ; cybuddid ef o fod yn awdwr, neu o fod â llaw yn nghyfansoddiad llyfr a elwid " Martín—Mar—Prelate." Barnwyd efyn euog, a chrogwyd ei'Mai 29, 1593, yn 34 oed. Dywed Mr. Penry am dano ei hun yn ei lytbyr at yr Arglwydd Trysorydd Burleigb,—"Dyn ieuanc ydwyf fi, wedi fy mieni a'm magu rhwng mynyddau Cymru. Myfi yw y cyntaf, wedi yr adfyw- iad diweddar ar ach<>g yr efengyl, a lafur- iodd i bau yr liâd gwertbfawr ar y mynyddau liwydion hyriy."—-Oddiwrth hyn, gallwn farnu íddo bregethu am beth amser yn Nghymru, ond nid yn hir ; ysgrif- eundd amryw lyfrau—aa ystyrid ef yn ddyn dysgedig a duwiol.—Er cymmaint y canmolir y Frenines Elizabeth, ei hymddyg- iadau erlidi£nethus a brofant ei bod yn greulon a rhagfarnllyd ; ac ymddengys nad oedd hi yn ymẅrthod â dim mewn Pab- yddiaeth, ond ymostyngiad i awdurdod uwcii ná'r eiddo ei hun: ac nad oedd yn proffesu mwy o Brotestaniaeth nag oedd yn anghenrheidiol i wneuthur ei hun yn Bab; bu farw yn 1603.—Ei chanlyniedydd Iaao y Cyntaf, oedd yn meddiannu meddwl gwan, ac ansefydlosr, a braidd ua ellir dywedyd nad oedd—" yn ei ben ffydd yn y byd."—Yr oedd yn berffaith dan Iywod- raeth yr Esgobion, ac amlygodd yr un egwyddorion g.-.rmesol ag Elizabeth ; yr oedd hefyd yrt hollol ymddifad o deimladau crefyddol, fel y dengys ei gyhoeddiad er annog chwareoyddiaethau ar y Sabbothan, a'i ymddygiadau gelyniaethol at y Puritan- iaid.—Ymddengys yn debygol, mae yn y teyrnasiad hwn y dechreuodd Mr» Wroth ei weinido^afth ddeffrous ac argyhoedd- iadol, a gellir yn briodol ei alw yn Dad Ymneiüdutieth yn Nrjhymru. Nid oes sicrwydd pa le y ganwyd ef, ond dywed rhai mae i Lanelen, gery Fenni, y perthyn yr anrbydedd hyny ; dygwyd ef i fynu yn RhydycheD, urddwyd ef gan Esgob Llan- daf yn y teyrnaBÌad hwn, neu yn hytrach yn eiddo Elizabeth, ac oddeutu y flwyddyn 1620, cafodd Berigloriaeth Llanfaches, ger Brynbiga, swydd Fynwy, trwy ddoniad Syr W. Lewis, o'r Fan, ger Caerffili; yr oedd hefyd yn Gaplan Teuluaidd i'r Arglwyddes B-----. Yn neehreuad ei weinidogaeth yr oedd yn falch ac anystyriol, ond yn fuan 42