Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 123.] HYDREF, 1845. [Cyf. X. Y JUBILI. JüBILI FTDD HI I CIIW 1."—Mü S ES. YRoeddyrholloruchwyliaethau seremoniol yr. fath o Fibl darluniadol yn llaw plant, er argraffu yn fwy trwyadl ar eu meddyliau y pethau ddylasent wybod. Yn eu gosodiad- au yr oedd darluniau i greu diolchtfarwch, i gynbyrfu teimlad o rwymedigaeth i Dduw, o barch i'w ddeddfaa a'i farnedigaethau, ae o ymlyniad diysgog wrth ei addoliud ; ac yr oedd ynddynt befyd arddangosiadau eglurlawn o'r daionus bethau i ddyfod trwy ymgnawdoliad, dyoddefaint, marwolaeth, buddugoliaetliau, ac adgyfodiad Tywysog ein hiechydwriaeth, a'r gogoniant oedd i fod ar ol hyny. Yr oedd ganddynt eu haberthau a'u gweddiau dyddiol, yn mha rai yr addefent eu hymddibyniad ar Dduw, a'o bod yn derbyn en holl drugareddau trwy aberth ; Ecsod. 29, 38—45, yr hwn oedd i gael ei wneyd gan Oen Duw. Yn ea Sabbothau wythnosol cyfeirid hwy yn ol i edrych ar y Duw a addoler.t, yn goaod i lawr fraisg golofnau y byd, ac yn gosod cylch ar wyneb y dyfnder ; Ecsod. 31, 17 ; ac yn mlaen ar yr orphwysfa " sydd etto yn ol i bobl Dduw ;" goruchwyliaeth efen- gyl ar y ddaear yn ei gogoniant, a llwyr ryddid yn y nef oddiwrth bob poen a chlwyf. Yn eu gwyliau gosodedig yr oedd pob peth i gynhyrfu eu diolchgarwch gwres- ocaf, ac i gynhyrfu eu dysgwyliadau mwyaf ffyddiawg. Gŵyl y pasg a'u hadgofiai am galedi a chaethiwed yr Äitft, am yr iau drom fu ar eu gwarau gyda y pridd-feini dan law Pharao, yr hyn nad oedd wedi y ewbl ond drych aneglur i ganfod caledwch ffordd tro»eddwr anedifeiriol, ac erchylldod sefyllfa yr hil ddynol wrth natur. Ond yma hefyd y gwelent eu gwaredigaeth yn yr«Aifft, ac allun o dŷ y caethiwed, trwy dywalltiad gwaed yr oen blwydd, perffaith gwbl, yr hyn a'u cyfeiriai i edrych trwy ffydd ar Oen Duw, yr hwn oedd i'w ladd yn nghyf'nos yr oruchwyliaeth Sinäaidd, er tynu ymaith bechodau y byd. Gŵyl y pebyll a'u cyfeiriai i edrych arddaioni Duw tung atynt pan y cysgodai hwynt rhag y gwres, a'r golofn gwmwl, ar eu taith o'r Aifft i Ganaan, pan y trigent mewn pebyll yn yr anialwch, Lef. 23, 43; ac i gadarn- hau eu ffydd yn Nuw, a'u hyder y buasai y Duw hwn fod yn Dduw iddynt byth ac yn dragywydd, ac y buasai iddo eu tywys hyd angeu. Yn ngẃyl y cymmod, Lef. 13; sef yr ẃyl nesaf at gyhoeddiad y Jubili; dysgid hwy ì edrych arnynt eu hunain yn eu halogrwydd, eu tlodi, a'ti haflendid, ac i godi eu golwg hefyd at yr Iawn mawr am waredigaeth. Yr archoffeiriad a'r holi bobl a gylchynent ddrws pabeîl y cyfarfod, offrymai yr arch-offeiriad fustàch yn bech- aberth drosto ei hun, a thros ei dŷ ; yna cymmerai gau gynnulleidfa meibion Isiael ddau Iwdn gafr yn bech-abertb, a rhoddai goelbren arnynt, y naill i'w ladd, a'r llall i fod yn ddiangol; yna elai i mewn â gwaed, gan ei daenellu o fewn y wahan-len yn y cyssegr santeiddiolaf, o flaen y drugareddfa, Lef. 16. Ac ar dderbyniad yr aberth, mawr orfoleddai holl gynnulleidfa meibion Israel wrth glywed swn y clych wrth odrea gwisg yr arch-offeiriad. Ar ddiwedd yr ŵyl hon buasai y flwyddyn Sabbothaidd yn dechreu; ac ar ddiwedd y seithfed saith mlynedd y dechreuasai y flwyddyn Jubil- iaidd, pan yr oedd nid yn unig orphwysfa gyffredinol yn cael ei chyhoeddi, ond rhyddid a maddeaant trwyadl i bawb mewn dyled, ac tnewn carcharau. 38