Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 122.] MEDI, 1845. [Cyf. X. DWYFOLDEB YR YSGRYTHYRAU. GAN Y PARCH. B. OWEN, SOAR, MERTHYR. Dwtpoldeb yr Ysgrythyrau yw y pwnc mwyaf'ei bwys o bob pwne, obleiîid efe yw sylfaen yr oll a wneir, a gredir, ac a obeithir am dano yn y byd hwn, a'r hwn a ddaw. Nid yw Dwyfoldeb yr Ÿssrrythyrau yn ymddibynu dim ar un rheswm neu regymau a ddyuir er profi eu dwyfoldeb, ac nid yw Duw wedi addaw llwyddiant neillduol ar ddim er argyhoeddi pechadur- iaid, ond " pregethu y gair." Ac nid oedd taenwyr cyntaf Cristionogaeth yn defnyddio " doethineb ddynol," na " geiriau denu," wrth " draethu holl gynghor Duw," " heb attal dim o'r pethau buddiol." Pan y mae dyn yn gofyn am reswm dros ddioyfoldeb y Bibî, y mae yn hanner In- fidel yn barod, ffydd ac nid rheswm sydd yn achub—credu a gyfnewidia y galon, ac a ddylanwada ar y bywyd. Ánghenrhaid gan hyny, o flaen pob dim, fod genym ffydd, îe, " ffydd etholedigion Duw," a hono yn " gweithio trwy gariad," cyn der- byn yr boll ysgrythyr fel y mae wedi ei roddî trwy ysbrydolineth Duw, " cred, a chadwedig a fyddi." Mae yn hysbys i lawer o'n darllenwyr, er galar, fod rhai yn gwadu rhanau o air Duw; ereill lyfrau cyf- ain ; rhai yn gwadu y Testament Newydd, ereill yn gwadu y cwbl. Nid da gweled neb yn llithro i yml y tir hwn, y mae y maes yn rhy annuwiol i nfeb fyned yn agos iddo—gwell credu gormod nâ chredu rhy fach ; mae mwy o rân a gobaith am y rhai gydd yn credu Ilawer, nâ y rhai sydd yn credu oud ychydig. Ni chlywais i neb gael eu damnio am gredu gormod,ond elyw- ais am filoedd a gredasant rhy fach, eu bod " beb fyned i mewn i'r orphwysfa." Gan fod y gwahanol lyfrau, y gwahanol berson- au, a'r gwahanol bethau y Ileferir am dan- ynt trwy gurff y Bibl, wedi cael eu eofnodi gan "ddynion santaidd Duw," roewn gwa- hanol oesoedd a gwledydd, mewn gwahanol sefyllfaoedd cymdeithas, ac iaith ; a chan nas gellir cael gan yr un tystion a'r profion i brofi gwiredd pob hanes a phob peth a geir yn yr ysgrythyrau, gelwir arnom i ranu yr hanes, &c. ysbrydoledig i amryw ddosbarthion, (ar ba rai y gwnawn sylw- adau yn rhifynau dyfodol y Diwygiwr, os na flina amynedd y darllenwyr.) Y JDosbarth cyntaf, Fod hanes Sylfaen' ydda sylfaeniad Cristionogaeth, yn wir- ionedd, ac yn wirionedd Dwyfol, megys y cofnodir efgan yr efangylwyr, ac ysgrifen~ ydd yr Actau. Mae yr hanes a draethir yn dal agos gyssylltiad â hanesion amher- awdwyr, breninoedd, rhaglawiaid, a pher- sonau cyhoeddus, mewn gwlad ac eglwys. Ganed Iesu yr amser oedd Augustus Ctesar yn amheiawdwr yn Rhufain, ac yn yr amser yr oedd ef " yn trethu yr holl fyd," y pryd hwn oedd Herod yn frenin yn Judea. Magwyd ef pan oedd Archelaus yn teyrnasuar Judea; dechreuodd ei weinid- ogaeth gyhoeddus, yn y bymthegfed flwyddyn o amherodraeth Tiberias Csssar, pan oedd Pontius Pilat yn rhaglaw ar Judea; Herod yn detrareh (jalilea; a'i frawd Pbylip yn detrarch Iturea, a gwlad Trachonitis; pan oedd Lyssanias yn de- tracb Abilene; a phan oedd Annas a Caiaphas yn arch-offeiriaid ar y genedl Iuddewig. Coffeir gan awdwyr paganaidd, fod y rhan fwyaf o'r personau uchod yn dal y swyddi yn y Ueoedd, ar yr un amser, ag y y noda yr efangylwyr. 4drodda yr hanes- wyr santaidd enw ei fam,ei hachau hi, enw 34