Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR Rhif. 119.] MEHEFIN, 1845. [Cyf. X. DIRWEST. 1 TlIBS. V, 21.—"PSOFWCH BOB PETH : DELIWCH YR HYN SYDD DDA." <3AN Y PARCH. D. JONES, GWYNFE. Yn y cyd-destunau yn y fan hyn, ni gawn amrai o wersi byr a chynnwysfawr; gan eu bod yn fyr, maent yn hawdd i'w cofio, a chan eu bod yn gynnwysfawr, maent yn deilwng o sylw. Yn yr adnod o flaen y testun, mae'r apostol yn cynghori y Thessa- loniaid i beidio diystyru proffwydoliaethau. Ond gan fod gau-broffwydi wedi myned allan i'r byd, ni ddylasent, ac ni ddylem ninnau dderbyn yr hyn íyddo yn cael ei osod o'n blaen ar dystiolaeth dynion yn unig. Amhyny,mae'rapostoIyndywedyd yn y testun, " Profwch bob peth." Wrth bob peth yn y fan hyn, mae i ni ddeall pob atbrawiaeth a gyhoeddir, pob cyngor a roddir, a phob arferiad a orchymynir. Y maeprofi pob peth yn cynnwys o'r naill du, peidio a'o gadael yn ddisylw, peidio a dy- wedyd yn eu herbyn, a pheidio a'u gwrthud cyn ystyried a deall beth ydynt yn eu natur a'u dyben; ac o'r tu arall, i btidio a'u derbyn yn anystyriol, ac yn fyrbwyll, cyn chwilio ac ymofyn yn fanwl, a ydynt yn teilyngu eael eu derbyn, neu nid ydynt. Llawer o bethau sydd yn bod, ac y mae yn ddoethineb ac yn ddyledawydd arnom eu profi; ond mi gaf gyfyngu fy hun at un peth, sef, Dirwest. " Profwch bob peth." 1. Sylwaf ar y peth, neu yr hyn yw Dir- west yn ei chynnwysiad, ei natur, a'i dy- ben. Llawer sydd wedi cael ei ddywedyd am Ddirwest. Dywedwyd gan rai ei bod yn gynnwysedig yn y peth hyn, a chan ereill, ei bod yn gynnwysedig yn y peth arall; a dywedwyd gan lawer ei bod yn gynnwysedig mewn pethau nad yw; a thrwy hyn mae niwed mawr wedi cael ei wneyd i Ddirwest—cam-ddarluniad wedi cael ei roddi ohoni,a rhagfarn wedi cael ei chenedlu a'i mheithrin yn llawer tuag ati; gan hyny, cyn y gallaf wneyd chwareu teg â fy narllenwyr, a dangos yn eglur beth y mae Dirwest yn ei gynnwys, mae yn ang- henrheidiol i mi fyned ychydig ar ol rhai o'r dywediadau gŵyrgam sydd wedi cael eu dweyd am dani. 1. Mae rhai wedi dywedyd fod Dirwest wedi cael ei gosod i fynu i'r dyben i droi a dychwelyd pechaduriaid at Dduw, ac oblegid hyn, nad oesun anghenrheidrwydd mwy am ddylanwadau'r Ysbryd Glân. Ond nid yw byna ddim yn wir; nid yw dirwestwyr mor jryfeiliornus yn eu barn â hyna, o'r hyn leiaf, y dirwestwyr yr wyf fi yn gydnabyddus â hwy ; ond yr ydym yn golygu mai gwaith Ysbryd Duw, trwy yr efengyl, yw troi yr enaid. Ond ar yr un pryd, yr ydym yn barnu fod Dirwest yn dwyn dynion i sefyllfa mwy gobeithiol iddynt gael eu dychwelyd, nà'r un y maent ynddi, tra fyddont dan lywodraeth blŷs at y diodydd meddwawl, a thra yn fynych dan effeithiau y cyfryw wlybwr, yn amddi- fad o'u synwyr cyffredin. Gofynaf, Pwy bryd, ac yn mha le, y darfu i'r Ysbryd Glân i droi enaid o feddiant satan at Dduw, pan yr oedd ei berchenog yn feddw? ai nid tir sobrwydd yw y tir y mae gobaith i bechadur gael trugaredd i'w enaid ? 2. Dywedwyd gan ereill fod Dirwest wedi cael ei gosod i fynu yn lle yr efengyl. Ond nid felly y mae, ac nis gall hyny fud, oblegid mae Dirwest a'r efengyl (yn eì pherthynas â meddwdod) o'r un egwyddor