Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HANESION. 131 felin, cafodd gwdiad, yr hwn a ddlogelodd ; yna aetli rhag ei flaen, a chyfarfu â menyw, yr hon a yraddangosai fel mam a'i hahan dan ei niantell yn ei chûl, ond nid oedd y swyddog heb dybio fod rhywbeth a wnelai ef â'r plentyn ; ond fel yr oedd yn nesu ati, ymddangosai y plentyn yn anesmwyth erynhollol ddystaw, oblegid canai y fam " osy-hy," a churai ei gefn yn famaidd iawn; ond aeth y swyddng ati, gan ddywedyd, " Fibia. y plentyn yna !" Nid oedd eisiau deddf Solo- raon i ranu y plentyn, oblegid taflodd y fam ef i lawr, a chymmerodd y traed; ond gwaeddodd y swyddog nad gwiw fibi, ac am iddi ddangos ei phleutyn, ac yn lle bachgen tlws, cafwyd yno fwshel o frâg smuggle. Byddai yu rhad ac yn hawdd i ddynion fod yn ddirwestwyr. Arcdig am y gorcu.—Mawrth 101'ed, cyfarfu deiliaid T. D. Llewellyn, yn nihlwyf Abergwilly a Llanegwad, ar Llwyngwyn, i aredig am y goreu. Trodd tri aradr ar hugain allan yn ngwydd lluaws mawr o foneddigion a thyddyn- wyr; y bainwyroeddynt Mr. Bowen, Cwmynys, Mr. Richards, Glantowy, a Mr. Davies, Tanner- dy. Rhoddwyd y wobr flaenaf, 20s., i William Jones, Pantyrefel; yr ail, 15s., i David Jones, Hendrehebog; y trydydd, 10s., i DavidThomas, Finnant; y pedwarydd, 5s., i John Jones, Llwyn- gwyn. Hyfryd yw gweled y tyddynwyr, eu plant, a'u gweisiou yn difyru eu hunain, oni bai eu bod, fynychaf, yn gorphen y dydd yn y dafarn. Llofruddiaeth.au.—Mae Crynwr, o'r enw Johiv Tawell, wedi ei brofl yn euog, yn Aylesbury, o roddi prussic acid i'w hen forwyn, yr hon a gadwai mewn tý yn gyfagos i'w artref; a the- bygol ei fod erbyn hyn wedi ei grogi. Bu yn dal sefyllfa gyfrifal gynt mewn masnachdy yn Llundaiu ; cafwyd ef yn euog o ffugio ysgrifnod yn enw ei feistr, ac alltudiwydef am 20 mlyncdd. Ymddygodd yn weddaiddiawn yn ei alltudiaeth, fel y cafodd ffafr yn ngolwg y llywodraeth, a daeth adref yn mhen saith, wedi casglu o £30,000 i £40,000;' ac fel masnaehwrcyfododd i gryn gyfoeth, a phriododd fenyw gyfrifol o ba un y cal'odd ddau blentyn, ond ni roddodd heibio ymireled â Sarah Hart; cafodd ddau neu dri o blant o honi hi, a thebygol ei fod wed blino ei chynnal, a rhoddodd wenwyn iddi ar y laf o lon- awr diweddaf, i'w symud oddiar y fibrdd. " Fforddtroseddwyr syddgaled."—Cyflawnwyd llofruddiaeth ofuadwy arall yn Hampstead, ger Llundain. Fel yr oedd teithiwr yn croesi cae, clywai waeddi ofnadwy am gymhorth, rhedodd ef ac ereill i'r ffordd y elywai y gwaeddi, abuan y daethant o hyd i gorff yn agos i gatnfa ; caw- sant ei fod yn farw ac wedi ei friwio yn ddy- chrynllyd ; cludwyd ef i'r tafarn cyfagosaf, lle bu am rai dyddiau cyn i neb ei adnabod, ond daeth gwr y tŷ He yr arferai lettya, canfu mai un Delarue ydoedd, peroriaethwr wrth ei gelfyddyd. Yr oedd yn arferol o gyrchu ar nosweithiau i'r gymmydogaeth hono i ddysgu ei ysgolheigion cerddorol. Oddiar ryw awgrymau gafodd yr heddgeidwaid, daliasant Thomas Hocher, gwr ieuanc afradlon, meddw, a diog o'r gymmydog- aeth, yr hwn oedd dra adnabyddus â Delarue, a phob tebygolrwydd eu bod yn euog o sodomiaeth eill dau. Cafwyd oriawr a modrwy y trengedig gan Hocker ; yr oedd gwaed ar ei grys ac ar ei hugan ; cafwyd dau fotwm cot yn agos i'r corff, a dau o'r fath yn eistau wrth got Hocker. TRYSORFA YR YSGOL. Gwynfe a'i Changhenau.—Llafurysgol Gwyn- fe am y chwe' mis diweddaf, sef o ddechreu Medi hyd ddiwedd Chwefror, 1845, sydd fel y canlyn :—Nifer yr ysgolheigion, 123, o ba rai y mae un yn arolygwr ; 1 ysgrifenydd; 9 o Ath- rawon ; a 5 o athrawesau. Rhifedi y pennodau a adroddwyd yw, 417, yn cynnwys 5697 o adnod- au; adnodau gwahanol, G994 ; cyfanswm yr aduodau yw 12691. Mae hefyd amryw o beth- au buddiol ereill yn cael eu harferyd yn ddi- weddar yn yr ysgol uchod, sydd wedi bod yn foddion neillduol o adfywiad yn ein plith; ac i'r dyben o ddefl'roi, o bosibl nad anfuddiol fyddai i ryw un roddi desgrifiad manylach o drefn a Uafur yr ysgol trwy gyfrwng y Diwygiwr cyn hir, rhag fod neb yn llesg a diymdrech gyda gwaith mor anghenrheidiol ag ydyw dysgu'r ieuenctyd ac ereill yn ngair yr Arglwydd. Glanrhyd, Canghcn.—Rhif yrysgolheigion yw 66: larolygwr; 8athraw; 1 ysgrifenydd. Yr hyn a ddysgwydganddynt sydd fel y canlyn:— Pennodau 233 ; adnodau, 3735 ; adnodau gwa- hanol, 4978 ; Salmau, 158, yn cynnwys 1261. Ponlarlleche, Canghen.—Llafur yr ysgol hon o lonawr, 1844 i lonawr, 1845, sydd fel y canlyn:—Pennodau, 60; adnodau, 720; ad- nodau gwahanol, 6160. Penybiolch, Canghen.—Llafur yr ysgol hon sydd fel y canlyn :—Pennodau, 91; adnodau, 1069; adnodau gwahanol, 1003. [Ni ddaeth yr hanes uchod i law mewn pryd i'w gosod yn ei Ue priodol.—Gol ] ADOLYGIAD. Ysbryd Cuefyddol; meion Pregeth oddiwrth Luc 9, 55. Gun David Jones, Cydiceli. PrisSc. Mae y bregeth hon ar y pwnc pwysicaf o bob un arall, ac ar yr hyn sydd yn fwyaf diffygiol yn yr oes hon. Mae llawer iawn o broffesu cre- fydd, a Ilawer iawn o wneyd gyda ehrefydd, ond yn ddiweddar mae achos i ofni fod yspryd hunan-ymwadol, tirion, addfwyn, a maddeugar Crefydd Iesu Grist wedi ymadael i raddau. Gellir dweyd wrth lawer yn iaith y testun, " Ni wyddoch o ba yspryd yr ydych." Mae yn y bregeth hon wirioneddau dwys yn cael eu trin yn lled fedrus ; darlunia yr Awdwr yspryd cref- yddol, a dengys yu Ued oleu yn mhabethau mae yn gynnwysedig; ac nis gallasai wneyd hyn yn well nag wrth ddangos ysbryd lesu Grist yr hwn a adawodd i ni esiampl, fel y dilynem ni ei ol ef. Yr oedd ef o yspryd gostyngedig—hunanym- wadol—cariadlawn—addfwyn—maddeugar—cy- hoedd—bywiog—nefolaidd—tangnefeddus—selog —gwrol ac haelionus, a phan ddelo yr Eglwys i'r un ysbryd ag ef, " Daw'r ddaear hon yn ddelw gu O'r nefocdd ogoneddus fry." Gosodir y pwys o feddu yr ysbryd hwn allan yn fedrus, gan gydwau yr ysgrythyrau â'r holl osodiadau, Cynghorem'ein darllenwyr i hrynu a darllen y bregeth hon; gwnaiff ddaioni idd eu calonau.