Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 117.] EBRILL, 1845. [Cyf. X. PRYNEDIGAETH. GAN Y PARCH. U. GRIFFITHS, T Y D D E W I. Cyfarfyddwn mewn amryw fanau yn y Testament Newydd â'r geiriau prynu, a phrynedigaeth, mewn cyssylltiad â phech- aduriaid, fel eu gwrthddrychau. Y mae o bwyB i ni geisio deall yn gywir, beth a olygir wrth y cyfryw ymadroddion. Y mae y geiriau a gyfìeithir yn brynu, a phrynedigaeth, yn y Heoedd byny, yn golygu rhyddhad, neu waredigaeth pechaduriaid, ar gyftif yr Iawn a roddwyd drostynt. Y mae yn debyg fod yr ymadrodd wedi ei gymmeryd oddiwrth yr arferiad o brynu caethion, neu ryddhau rbai a fyddent mewn caethiwed trwy roddi pridwerth, yr hyn yn gyffredin fyddai yn swm o arian, am eu rhyddhad. Gwel Lef. 25, 47—51, a Nehem.5, 8. Üddiwrth hyn, y mae gwar- edigaeth dynion o'u sefyllfa druenus fel pechaduriaid, trwy Iawn Crist, yn cael ei alw yn brynedigaeth. Nid rboddiad yr Iawn yw y brynedigaeth; cyfrwng er effeithio prynedigaetb oedd rhoddiad yr Iawn. O'r ta arall, ni olygir yn y gair prynediyaeth, y waredigaeth yn unig heb olwg ar y pridwerth. Ond gwaredigaeth ar gyfrif Iawn,neu trwy daliad pridwerth, yw prynedigaeth. Y mae y gair a ddef- nyddiodd yr Ysbryd Glân yn yr aehos hwn, ac a gyíieithir yn brynedigaeth, yn golygu hyn. Geiriau ereill addefnyddir He sonir am waredu, heb gynnwys yn yr ymadrodd mai trwy bridwerth y mae gwaredigaeth yn cymmeryd lle. Gwel Mat. 27, 42; a 2 Cor. 1, 10. Cymmaint â hyny ar ystyr y geiriau a ddefnyddir. Cynnygaf yn awr ychydig sylwadau mwy neillduol, ar yr hyn aelwiryn Brynedigaeth. Yn Gyntaf. Y mae Prynedigaeth yn rhag-dybied fod dyn mewn sefyllfa gaeth, neu gyflwr o drueni. Y mae efe felly fel y mae yn becbadur. 1. Y mae yn euog,—yn droseddwr o gyfraith Duw; ac felly dan ddedfryd marwolaeth. Ac wrth ystyried perffeith- rwydd y gyfraith oedd wedi ei throseddu» ac anhyblygrwydd cymmeriad y Llywydd ; yn nghyd â pherthynas yr amgylchiad â holl ddeiliaid ei lywodraeth foesol; yr oedd y gosp yn ymddangos yn gwbl anocheladwy. 2. Y mae yn llygredig,—yn cymmeryd ei lywodraethu gan dueddiadau gwrth- wynebol i Dduw. Y mae felly, nid yn unig yn haeddu cosp, ond yn dwyn yn ei fynwes ei hun, ddefnydd ei gosp; fel na fuasai raid i Dduw ond cynnal ei fodol- iaeth, a'i adael yn gwbl iddo ei hun; a gwnaethai dyn ei hun yn berffaíth anned- wydd. Y mae pechod a thrueni, neu sant- eiddrwydd a dedwyddwch, yn anwahanol gyssylltiedig. Nid yw yn rbyfyg i ddy- wedyd nas gallai y Bod anfeidrol ei bun wneuthur bod rhesymol ansantaidd, tra y byddai felly, yn fod dedwydd. Fel hyn yr oedd dyn mewu trueni dau-blyg, ac yr oedd ei sefyllfa fel pechadur, o'r fath, fel nad oedd yn ngolwg bodau meidrol, un ffordd i'w waredu. Ond Duw, yr bwn sydd gyfoethog o dmgaredd a doethineb, yn rhag-weled er tragy wyddoldeb ei sefyllfa, a benderfynodd i'w ogoneddu ej bun yn ei acbubìaeth ; ac a Iuniodd y drefn ogon- eddus sydd yn awr dan ein sylw. Yn ail. Y mae Prynedigaeth, fel y syjiwyd, yn cynnwys fod Iawn, neu brid- 14