Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 116.] MAWRTH, 1845. [Cyf. X. Y DIWYGIAD, YN EI BERTHYNAS A LLYWODRAETH HAERI YIIL GAN Y PARCH. D. MORGAN, LLANFYLLIN. (Parhad o't Rifyn diioeddaf, tu-dal. 41.) Pan oedd y wlad oll rnewn mawr derfysg, dygwyd cyfraith allan ar fod i bawb trwy y deyrnas dyngu llẁ o ufydd-dod a ffydd- jondeb i'r brenin, fel Ilywydd gwladol a phen yr eglwys, o dan boen marwolaeth o nacáu. Achoswyd marwolaetb Syr Tho- mas More, prif ganghellydd y deymas, ac esgob Fisher, a llawer o offeiriaid, trwy iddynt ommedd cymmeryd y llẃ bwn. Bhoddodd y brenin orchymyn allan tua decfareu y flwyddyn 1537, nad oedd neb i bregethu, darllen, na chyhoeddi yr un llyfr, hyd gŵyl Mihangel nesaf, pan y gwnai ef ddwyn allan trwy yr argraff- wasg, erthyglau crefydd priodol, er iddynt ddysgu petbau crefyddol wrthynt, yr hyn a wnaeth, pa rai a gyfansoddwyd gan fwyaf ganddoeihan. Cymmeradwywyd hwy gan y gymmanfa eglwysig, a danfonwyd trwy bob rban o'r deyrnas, o dan sêl ac awdur- dod y brenin. Dyrchetìd ynddynt gredo- au yr eglwys yn gydradd â'r yserrythyr, me?ys rbeol —prawf o'r hyn oedd wir gre- fydd—cydnabyddid ynddynt fod pechadur i'w gyfiawnhau trwy ffydd,—amddiffynid traws-sylweddiad yn y Swpper santaidd, ynghyd à Uiaws o ddefodau pabaidd ereill. Yn fuan gwedi hyn, daeth allan lyfr arall trwy yr ar«raff-wasg, a elwid Gosodiad y dyn Cristionogol, neu lyfr yr esgobion, am fod llawer o honynt á llaw yn ei gyfan- soddiad. Gellir ystyried hwn y Uyfr mwy- af synwyrlawn, yn cynnwyg ynddo fwy o egwyddorion gwir ddiwyniad nag un llyfr a gyhoeddwyd, heblaw y Bibl.yn y teyrnas- iad hwn, er ei fod yn dra cbymmysglyd mewn Ilawer o bethau. Ond ni chyhoedd» wyd ef trwy un awdurdod freninol na sene- ddol, ac ni bu ac nid yw mewn ymarferiad cyffredin gan yr Eglwys Sefydledig. Tua'r flwyddyn 1532, pan ag oedd yr erlidigaeth yn boeth iawn yn erbyn anghydymffurfíad à chrefydd y brenin, fe ffodd amryw o dduwinyddion da o'r deyrnas i'r cyfaudir.; ynmhlithereillyranfarwolion Tyndala Ro- gers, pa rai a gyfieithasant yr ysgrythyrau yno i'r iaith Seisnig; aidygasant argraffiad o'r Testament Newydd allan trwy y wasg yn fuan, ac wedi hyny, yr holl FibL, o dan olygiad CoTerdale, a thyma yr argraffiad cyntaferioed a wnaed o'r Bibl yn yr iaith Seisnig, a tbaenwyd Hawer iawn o honynt yn y deyrnas hon, er fod y gyfraith yn ded- frydu pwy bynag a'u gwerthai, a'u cadwai yn eu tai, ac a'u darllenai, i farwolaeth am wneuthur felly. Ond yn y flwyddyn 1538, pan nad oedd bron yn ddichon i gadw y bobl heb air Duw, llwyddwyd gydà'r brenin i roddi gorcbymyn, ar fod i'r esgob- ion gyfieithu yr ysgrythyrau, a dwyn ar- graffiad Seisnig o honynt allan trwy yr argraff-wasg. Bernir mai Cranmer oedd a llaw benaf yn hyn, a dygwyd allan yr arsraffiad heb fod nemawr o ddim newydd ynddo, ond ychydig o welliant mewn rhaî manan ar gyfieithad Tyndal—a rhoddwyd Hyfr o hono yn mhob eglwye plwyf trwy y deyrnas. Cymmaint oedd awydd y bobl i'w ddarllen yn mhoblle, fel y rhoddwyd chwech Hyfr o honynt yn rhwym wrth gadwyni, yn St. Paul, yn Llundain, ac ym- gasglai y bobl 0 bob lle yno i'w darllen ys 10