Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. liò.] CHWEFROR, 1845. [Cyf. X. Y DIWYGIAD, YN EI BEETIIYMS HAEEI YIII. A LLYWODEAETH GAN Y PARCH. D. MORGAN, LLANFYLLIN. Daetii Harri yr VIIT. i'r orsedd yn y flwyddyn 1509, mewn canlyniad i farwol- aeth ei dad, Harri y VII. pan nad oedd ond deunaw mlwydd oed. Yr oedd ganddo bob manteision i ddwyn yn mlaeneilywodraeth mewn lledneisrwydd, a chyfiuwnder, er daioni cyffredinol i'r wladwriaeth, obletrid yr oedd ei dad, trwy ei gribddeiliad, wedi cusglu iddo gyfoeth mawr iawn, ac wedi darostwug holl wrthwynebwyr yr orsedd, fel nad oedd nebyn amheu ei hawl iddi, ac yntau ei hun gwedi derbyn manteision dysgeidiaeth a gwybodaeth, yn fwy nâ'r cyffredin y dyddiau hyny. Ond buan y dangosodd Harri ei fod yn un o'r dynion balchaf, a mwyaf annynol,a diddynoliaeth o neb a fu yn eistedd ar orsedd Lloegr, mewn un oes; a gweinyddodd ei lywodraeth mewn trais, gorthrwm, a'r ysgelerder mwyaf, o ben i'w gilydd. Ond gan mai perthynas ei lywodraeth â chrefydd y mae a wuelom yn yr ysgrif hon, ni a sylwn ar sefyllfa crefydd yn yr ugain mlynedd cyn- taf o'i Iywodraeth—y cyfnewidiad a gym- merodd le—y mesurau a arferwyd er dym- chwelyd y cyfnewidiad hwnw. Yn— I. Am yr ugain mlynedd cyntaf o deyrn- asiad Harri, yr oedd ef yn Babydd o'r mwyaf gwresog, ac arferai ei holl ddyfais, ei egni, a grym ei lywodraeth, dros y gref- ydd hono, yn ei heithafìon mwyaf, fel ag yr oedd hon, am yr amser hyny, yn ei rhwysg mwyaf yn y deyrnas hon. Er amser Harri IV. yr oedd esgobion ac offeiriaîd, wedi cael cyfraith i brofì, a chospi pawb a gyhuddid o fod yn ymadael à'u ffydd hwy yn eu Ilysoedd a'u eymmanfaoedd eílwysier, heb ddwyn eu hachos i un brawd- Iys gwladol, na bod gan y cyhuddiedig un hawl i amddiffyn ci achos mewn un Uŷs, nag o flaen rheithwyr, ond yr offeiriaid yn unig. Adfywiwyd y gyfraith hon, a gwein- yddwyd hi mewn eithaf llymdoster yn nechreuad y teyrnasiad hwD, fel yr oedd yr holl deyrnas yn un chwil-lŷs o ben i'w gilydd, trwy effeithiad yr offeiriaid. An- hawdd ydyw dirnad mawredd y cyfoeth a ysglyfaethwyd, a nifer y personau a goll- odd eu bywydau trwy y gyfraith anghyf- iawn hon, heb erioed eu dwyn i un prawf cyhoeddus y pryd hwnw; ond gwyddom am lawer a orfu ddyoddef marwolaeth am ddysgu y credo, y deg gorcbymyn, a gweddi yr Arglwydd, i'w plant, a'r golud a gym- merwyd gan yr offeiriaid. Hwythau fel heidiau olocustiaid, yn llenwi yrholl wlad mewn eithaf anwybodaeth, heb fedru dar- llen na phregethu, ond yn dilyn pob dryg- ioni, hoced, a thwyll, yn hoffi gwaradwyddo a phoeni pob dynion a ddywedai airyn eu herbyn ; yn ymdrechu trwy bob moddion i ysglyfaethu cyfoeth pawb i'w meddiant eu hunain, fel yr oedd agos i han»er golud y deyrnas yn eu gafael, nc wrth eu hewyllys. Etto yr oedd gwawr fychan o oleuni, a gododd yn amser Wickliffe, ac a gynnal- iwyd yu mlaen trwy ymdrech, ac ar draul bywydau miloedd o'r Lolardiaid, fel y gel- wid hwy, heb ei llwyr ddìleu, er cymmaint oedd ymdrech yr offeiriaid i wneuthur hyny. A pharbäaigraddauoegwyddorion rhyddid i ddal gafael yu meddyliau y bobl gyffredin,