Skip to main content

Y DIWYGIWÍL Rhif. 101.] RHAGFYR, 184& A [Cyf. ÎX. 1 PECHOD ANFADDEUADWY. GAN Y PARCH. THOMAS REES, SILOA, LLANELLI Dengys yr ysgrythyrau yn amlwg fod yn bosîbl i ddynion gyflawni math o be^hod a elwir " Y cabledd yn erbyn yr Ysbryd Glàn," neu y " peohod i fîirwolaeth," a bod y rhai a'u cyflawno mewn cyflwr nas gall- ant byth gael maddëuant. Ër denll pa beth yw y pechod hwnw, y mae yn ofynol gwneyd rhai sylwadau egrlurhaol ar yr ad- hodau hyny a fernir sydd yh cyfeirio yn bennodol ato. 1. Math. 12,31,32, ynghyd â'r testunau cyferbyniol yn Marc 3, 28, 29, 30. Llefar- Wyd y geiriau hyn gan ein Harglwydd Iesu Grist, mewn canlyniad i haeriad y Phari- seaid, mai trwy Beeteebub, penaeth y cyth- reuliaid yroedd efe yn bwrw allan gythreul- iaid. Yn yr adnndau blaenorol, dengys Hfresymoldeb y fath haeriad, gan ei fod yn tîosod satan i ryfela yn ei erbyn ei huii, yr hyn sydd beth ry afresymol i neb gredu am y fath greadur cyfrwys-ddrwj;. Yna dengys yn yr adnodau dan sylw fod llettya ÿ fath feddwl yn arwain i'r perygl mwyaf, u Am hyny, y dywedaf wrthych chwi, pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion ; ond y cabledd yn erbÿn yr Ysbryd Glân, ni faddeuir i ddynion. A phwy bynag a ddy- wedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo ; ond pwy bynag a ddywedo yn erbyn yr Ysbryd Glán, nis maddeuir iddo, nac yn y byd hwn nac yn y byda. ddaw." Golyga Doddridge mai rhybuddio y Phariseaid rhag iddynt fod yn euog o'r cabledd yn erbyn yr Ysbryd Glân, y mae ein Iachaw- dwr yma, yn hytrach nâ'u cyhnddo o, fod •ẁedi ei gyflawhi. Yn ol y golygiad hwn, yr hwn sydd debyc&ch o fod yn gywir, na thybied eu bod ẃedi ei gyflawni, gellir arall-eirio y geiriau fel y canlyn :—" Gochel- *ch lettya rpeddyliau mor ddirmygus am y gwyrthiau a gyflawnir genyf trwy nerth yf Ysbryd Glân, er profi dwyfoldeb fy anfon<- iad a'm hathrawiaeth. Pe dirmygrech fy mherson, neo fy ngweinidogaeth yn eich anwybodaeth o'i ddwyfoldeb, gallech gael maddeuant ar eich edifeirwch ; ond os dir- mygwch y gwyrthiau a gyflawnir genyffi a'm canlyhwyr, trwy y rhai yn benaf y profir dwyfoldeb fy ngweinidogaeth yn yr oes hon, chwi gauwch eich hunain allan o bob posiblrwydd i gael maddeuaut, gan mai y grefydd wyf fi yn sefydlu yn y byd syiàd i fod o hyn allan yn unig gyfrwng gwein- yddiad maddeuant i bechaduriaid." Den^ gya yr eglurhad hwn ar y geiriau, yr hwn> fel yr byderaf, tydd gywir,—mai amcan ein Iachawdwr yma, yw gosod dynion ar eu gocheliad rhag pechu eu hunain i ormod o galedwch, i'r efengyl adaél un argraffor eu meddyliau. Gelwir y pechod hwn yn '* gabledd,"am ei fod yndangos eihun mewn geiriau cableddus am bethau santaidd ; ac yn " gabledd yh erbyn yr Ysbryd Glân," am ei fod yn taro yn uniongyrchol yn erbyn ei weithrediadau ef, yn fwy neillduol nâ gweithrediadati y tad a'r Mab4 2. 1 Ioan^ ö, 16, «' Os gwel neb ei frawd yn pechu pechod nid yio i farwolaetb, efe a ddeisyf, ac efe a rydd iddo fywyd, i'r rhal sydd yn pechu nid i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth: nid am hwnw yr wyf yn dywedyd ar ddeisyf o hono.rf Mae yn hysbys i*r rhan amlaf o'r dar- llenwyr fod rhai eabonwyr yn dweyd mai wrth y pechod i farwolaeth yma, y golygir rhyw glefyd angenol a osodid yn wyrthiol ar ddynion yn yr oea apos* tolaid, am ryw bechodâu rhyfygus. Mae He i gasglu oddiwrth rai rhanau o»r ysgry- thyr fod y fath glefydau yn cael eu gonod 45