Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 90.] HYDREF, 1843. [Crp. JXr.ŵ ■f CYD-ORWEDD AC ANLLADRWYDD. GAN Y PARCH. W. EVANS, NEUADDLWYD. Bu amser pryd nad oedd ond nos yn gwisgo gwyneb yr holl ddaear. Parhaodd felly dros lawer o oesau ; ac mae rhanau ëaug o honi dan ei mentyll caddugawl etto. Yr oedd yr Arglwydd y pryd hwnwyngoddef ac yn gadael megys yn ddisylw lawer o ymarferiadau ag y mae yn awr yn dangos yr anfoddlonrwydd mwyaf tuag atynt, ac yn cyhoeddi y byirythion trymaf ar ddynion o'u herwydd. "Duw, wedi esguluso amser- oedd yr anwybodaeth hon, sydd yr awr'on yn gorchymyn i bob dyn yn mhob man i edifarhào." Wrthym ni y gellir dweyd, fel y dywedodd Paul wrth y Rhufeiniaid, " Y nos a gerddodd yn mhell, a'r dydd a nesäodd; am hyny bwriwn oddiwrthym weithredoedd y tywyllwcb, a gwisgwn arfau y goleuni, rhodiwn yn weddus, megys wrth liw dydd ; nid mewn cyfeddach a meddw- dod, nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynen a chynfigen." Pechodau y nos yw y rhal hyn. Mae cydorwedd ac anlladrwydd yn gweddu yn well i bagan- iaeth nâ Christionogaeth—yn perthyn i dywyllwch yr hen amserau, ac nid i olëuni yr oes hon. Etto, rhaid addef na bu erioed yn ein gwlad ni yn uwch ei ben nag ydyw yn bresennol. Un o brif nodwedd ein cenedl ydyw—un o brif bechodau ein pobl ipuanc ydyw. Mae galwad uchel arnom i sefyll yn ei erbyn. "Cyfod dy lais fel udgorn, a mynega i'm pobl eu camwedd, a'u hanwiredd i dŷ Israel." Dylai yr argraff wasg eodi ei llais yn ei erbyn, dylai yr areithfa ddweyd mwy am ei ddrygedd, a phob Cristion arfer ei ddoniau i'w gondemnio a'i ddileu o'u mysg. Er mwyn gweledei ffìeidd-draa'i bechadurusrwydd— 1. Ymofynwn beth a ddyiced y Bibl am dano. Hyderwn fod gan y rhan fwyaf o ddarllenwyr y Diwygiwr barch i hwn, ac na.feiddiant edrych yn ddibwys ar ddim sydd yn waharddedig ynddo ef. Mae y Bibl, nid yn unig yn gwahardd anlladrwydd, ond cyd-orwedd hefyd; nid yn unigaci fod y naill yn arwain i'r llall, ond y naill fel y Ilallyn afiendid acyn ffieidd-dra yn ngolwg yr Arglwydd. Nid yw yr ymadroddion godineb, puteindra, anlladrwydd, &c, yn arwyddo yn hollol yr un peth, ond y maent yn perthyn yn agos i'w gilydd—maent fel cynnifer o ganghenau yn tyfu ar yr un pren —yn cael eu meithrin gan yr unrbyw nwydau afreolaidd. Yr byn sydd yn cael ei ddweyd yn erbyn un a gymmerir fel yn cyfeirio yn erbyn y llall. "Na wna odineb." Mae y gwharddiad hwn yn cyrhaedd nid yn unig at halogiad y cyfammod priodasol, ond anlladrwydd yn ei ystyr helaethaf. "Pa fodd (meddai Joseph,) y gwnaf y mawr ddrwg hwn, a phechuyn erbynDuw?" Bernirgan rai, ac nid yn ddisail, maî anlladrwydd oedd un o'r prif bechodau a dỳnodd y diluw ar y byd; am y gwneir sylw neillduol o gyfeillachau anghyfreithlon meibion Duw a merched dynion, wrth son am annowioldeb y cyn- ddiluwiaid, mewn canlyniad i ba un y rhybyddiwyd Noah i adeiladu yr Arch. Ac mewn cyfeiriad at y pechod hwn mae yr Apostol yn dywedyd:—wO achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufydd-dod." Darfu meibion Israel odinebu gyda merched Moab. Pa beth a ddaeth o byny ? pa fodd yr edrychodd yr Arglwydd arno? ai yn ddiniwed a dibwys ? Nage, ond gorchymynodd grogi holl benaethiaid y bobl ar gyfer yr haul, a Iladd y merched, eu plant, a'u cenedl, a bu befyd farw bedair mil ar hugain o Israel 37