Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 98.] MEDI, 1843. [Cyf. VIII. PËCHOD GWREIDDIOL. GAN Y PARCH. J. LEWIS, HÈNLLAN, Amcan yr ysgrifenydd yn y sylwadau a ganlyn ydyw rhagbarotoi meddwl y dar- Uenydd tuag &t fyfyrio yn mhellach ar y pwnc dadleuedig sydd dan ein sylw. Ych- ydig o bynciau Duwinyddol sydd gwedi achosi dadblygiadau mwy helaeth o ffolineb ae anwybodaeth ddysgedig y meddwl dynol, nà Phechod Gwreiddiol., Yn an- foddlon i dystiolaeth syml yr ysgrythyrau mewn perthynas 1 gyssylltiad yr hiliogaeth ddynol a'i chyndad Adda, ymofyna dynion am gymhorth philosophi a gwagdwyll, er eglnro yr hyn y mae yr ysgrythyrau gwedi gadw dan y llèni 5 a " thrwy fyned yn ddoeth uwchlaw'r byn sydd ysgrifenedig," " tywyllasant gynghor à geiriau heb wyb- odaeth." Teimlwyf gryn ddyryswch yn fy meddwl wrth ymosod ar y gorchwyl o gyfleu ych- ydig sylwadau ger bron y darllenydd, gan fy mod yn methu penderfynu pa Iwybr sydd effeithiolafer eì gynnorthwyo i ffurfio barn ei hun ar y pwnc mewn llaw. Fe allai roai'r cynllun goreu fyddai cymmeryd golwg hanesyddol ar yr athrawiaeth : gosod ger- bron y golygiadau a fabwysiadwyd, ynghyd à'r cyfundraethau a ffurflwyd yn ei chylch yn ngwahanol oesau y grefydd Gristionogol. Nid oeg nemawr 0 orchwyl yn gweinyddu mwy 0 hyfrydwch ac adeiladaeth i'r me- ddwl nagolrhain athrawiaeth i'w tharddiad, a chanlyn ei rhediad a'i threigliadau ar hyd tudalenau hanesyddiaeth. Y mae yn hysbys i'r darllenydd nad yw yr ymadrodd " Pechod Gwreiddiol," yn ymadrodd ysgrythyrol; ond nid yw hyny yn un prawf nad yw y golygiadau a gys- ■ylltlr wrtho yn gynnwysedlg y.n y dat- guddiad dwyfol. Ffurfiwyd amryw ymad» roddion ereill gan dduwinyddion, megyi Trindod, &c, i ddynodi athrawiaethau ag sydd gwedi eu datguddio yn yr ysgrythyrau santaidd. Mewn pertbynas i'r priodoldeb neu yr anmhriodoldeb 0 ddilen y cyfryw ymad- roddion 0 eiryddiaeth Dduwinyddol, ni ddywedafddim yn bresennol; ond gan eu bod mewn ymarferiad dylem fod yn ochel- gar rhag cyssylltu golygiadau anysgrytbyrol wrthynt. Diau fod yr ymadrodd ,' Pechod Gwreiddiol' gwedi bod yn gynnorthwy I arwain dynion anocbelgar i ffurfío tybiau anghywir yn nghylch effeithiau pechod Adda ar ei hiliogaeth. Wrth ddarllen tudalenau hanesyddiaetb, eglwysig canfyddwn fod rbyddid yr ewyllys, canlyniadau niweidiol y cwymp, anghen- rheidrwydd Dwyfol ras er adnewyddu yr enaid, yn cael derbyniad cyffredinol yn yr eglwys yn y canrifoedd cyntaf, heb un cynnyg i gael ei wneyd er eu ffurfio yn gyf* undraethau.—(Gieseler'sEccl. Hist., vol. 1, p. 218) Dadleuon sydd bob amser yn rhoddi bodoliaeth i gyfundraethau. Yr hynaf o'r tadau Cristionogol iydd yn cyfeirio at lygredd gwreiddiol y natur ddynol yw Clemens Bomanus, yr hwn oedd yn cydoesi à'r Apostolion. Y tad hwn a ddywed fel y canlyn:—«' Etto am Job yr ysgrifenir fel hyn, ei fod yn gyfiawn, yn ddifai, yn gywir, un ag oedd ÿn ofni Duw ac yn cilio oddiwrth ddrygioni; ettoefe a gondemnia ei hun, ac ddywed, nid oes neb yn rhydd oddiwrth halogrwydd 5 nac oes, pe buasai ei fywyd ond un diwrnod." Y geiriau hyn o eiddo Job a ddyfynir 0 peoi 88