Skip to main content

Rhif. 97.] Y DIWYGIWR. AWST, 1843. [Cyf. VIII. ADDASRWYDD TREFN ACHUB GYFANSODDIAD DYN; CYDSAFIAD EI GYFRIFOLDEB A SWYDDAU Y MODDION A'R YSBRYD. GAN Y PARCH. J. ÜONES, RHYDYBONT. CREADUR MOESOL. MAE'r meddwl yn greadur abl i ddewis a gwrthod pob peth yn ngwyneb annogaethau: dyna sylfaen moesolrwydd. Mae efe yn dewis neu wrthod pob peth a gynnygir iddo: dyna ei benderfyniadau. Nis gall un o'r penderfyniadau hyn fod yn anfoesol, neu ddifoes. Nid oes dim yn foesol ond gweithred, sef y peth y gallesid ei beidio. Yr wyf yn y gweithredoedd byn yn cyn- nwys hefyd bob penderfyniad neu ysgogiad meddwl. Gan hyny nid oes un stad neu gyflwr meddwl yn foesol: euog neu gyf- iawn yw pob creadur cyfrifol o ran ei stad. Nid yw moes yn dreigladwy ; hyny yw, nis gellir byth dynu ansawdd un weithred a'i chylymu wrth weithred arall. Nid peth moesol ywy meddwl; canys nidy weithred y w y gweithredydd; achosydd o'r moes yw y meddwl, ac nid y foes ei hun. Ni phenderfynodd meddwl erioed yn foesol, nas gallasai efe benderfynu yn groes i'r hyn a wnaeth ; ac os na allasai, yr oedd efe yn rhwym wrth benderfyniad rbyw un arall; ac yna, nid eì benderfyniad ef ei hun oedd efe. Meddwl anabl ì benderfynu yn ol ei ewyllys, nid yw foesol; os nad moesol, yna nid deiliad deddf; ac os nad deiliad deddf, nid deiliad cyfrif y ddeddf hono. Gan hyny, meddwl rbydd o bob greddf, neu dueddion anianyddol, sef anifeilaidd, sydd íeddwl rhydd i ddewis a phenderfynu bob amser, bob rhyw betb, fel y myno. Gan hyny, y mae pob peth a wna efe felly yn weithrediadau, neu foesol benderfyniadau priodol iddo ei hun ; a chyflawn eu cylymu wrth ei gymmeriad, a'i farnu yn ol ei weith- redoedd; onide, anghyfìawn fyddai. DYLANWADAU MOESOL. Ond y gofyniad mawr yw : Pa beth sy'n peri y penderfyniad meddwl? neu, pa achos effeithiol sydd i bob ewyllysiad ? Unig atebiad rheswm a mentalphilosophers yw: mai yr achas amcanaiol yw yr un effeithiol; neu, mai yr olygfa sydd gan y meddwl ar y manteision a sicrheiriddodrwy ei benderfyniad sy'n cynnyrchu y pender- fyniad hyny. Dyna yw y modd mwyaf priodol a gofalus o osod i lawr yr athraw- iaeth gyffredinol hon ; sef mai yr annogiad sy'n achosi ewyllysiad. Gellir dywedyd mai y Hew a ganfyddwn draw yw yr achos eithaf neu benaf o'n harswyd ; ond y can- fyddiad o'r llew yw yr achos agosaf, ac o ganlyniad yr achos cyfryngol o'n harswyd. Fel hyn i'r annogiad, (motive}) sef y daioni a gynnygir oddiallan i ni, y gellir priodoli yr ewyllysiad neu benderfyniad yn yr ystyr eithaf; ond i'r golygiad a gymmer y meddwl o hono, yr hon olygiad sydd yn cael ei ffui öo i raddau helaetb yn ol y cyf- ansoddiad naturiol, a'r arferiaeth gyffredin o ffuiflo golygiadau, ac yn ol deng mil o achosion gwahanol ereill; ac i'r pethau hyn y mae'r ewyllysiad a'r penderfyniad i'w priodoli fel achosion mwyaf agos a chyf- ryngol. " Yr hauwr a aeth allan i hau," &c.: yr hau oedd yr achos eithaf, ond yr oedd yno wahanol achosion cyfryngol. Mae'r athrawiaeth hon, sef mai annogaeth, (fel y deonglir y gair,) sy'n cynnyrchu ew- yllysiad, yn cael ei chadarnhau gan eln 29