Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 96.] GORPHENAF, 1843. [Cyf. VIII. RHIFEDI A NATUR SWYDDAU EGLWYSIG. PARCH. MOSES ELLIS, MYNYDDYSLWYN. ' Ciiwyddai ein Traethawd i ormod meith- dir ar rifedi a natur Swyddau Eglwysig, pe sylwem yn fanwl ar swyddogion y gwa- hanol gyfundraethau a osodir i fynu yn y byd, naill ai trwy awdurdod wladol, neu oddiar fympwy dynol: y gosodwyr o ba rai a ddewisant ei galw wrth yr enw Eglioys, pryd mewn gwirionedd, na ddygant fwy o debygolrwydd i Eglwys Crist yn y Testa- ment Newydd, nâ'r gyfundrefn baganaidd ei hun, er wedi ei gwisgo ag enw Cristiou- ogol. Mewn rhai o'r cyfundraethau hyn, ni gawn restr faith o swyddogion cyhyd â chynffon ei santeiddrwydd o Rufain ei hun; mewn ereill gwelwn hwy wedi eu cwtegi, nes yn agos eu llwyr ddileu, a gwadu eu hanfodiad. Mae' manwl ddilyn rheol y gair yn nghylch gosodiad a threfn swyddau Eglwysig o bwys, er gosod i fynu Eglwys y Testament Newydd yn y byd. Ond i ddychwelyd at y testun: mae i Eglwys Crist rifedi pennodol o swyddau ; a phwy bynag a ychwanega atynt, neu a dyno oddiwrthynt, sydd mewn perygl o syrthio dan bwya y ddedryd, Dat. 22,19. O barth i rif y swyddau, nodwn, mai nid yr un ydyw„ ag oedd ar y dechreuad. Gwedi i Ben yr Eglwys dderchafu i'r uchel- der, mewn cyflawniad o'r addewid foreuol, dywed yr apostol iddo roddi rhoddion i ddynion, a thrwy hyny "roddi rhai yn apostolion, a rhai yn broffwydi, a rhai yn efangylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac yn ath- rawon; i berffeithio y saint i waith y weinidogaeth, i adeiladu corff Crist," &c, Eph. 4,11. Enwir agos yr un gofrestr o «wyddwyr yn Hythyr Paul at y Corinthiaid; "A rbai yn wir a osododd Duw yn yr Eglwys; yn gyntaf apostolion, yn ail pro- ffwydi, yn drydydd athrawon, yna gwyrth- iau, wedi hyny doniau i iachâu, cynnorth- wyau, rhywiogaethau tafcdau," 1 Cor. 12, 28. Wrth edrych ar y cofrestrau hyn, dichon ei bod yn lled anhawdd i ni yn bresennol roddi darluniad cywir o honynt, na dywedyd yn eglur yn mha bethau yr oeddynt oll yn cyduno ac yn gwahaniaethu oddiwrth eu gilydd; eithr y mae yn bur amlwg fod yn yr Eglwys yn yr oes hono, Sioyddau Anghyffredinol, a rhai Stoyddau Cyffredinol; acifody Swyddau Angbyff- redinol ag oeddynt y pryd hwnw yn yr Eglwys i ddarfod, ac i derfynu yn y person- au hyny a psodwyd ynddynt; ond fod y Swyddau Cyffredinol ì aros ac i barhau dros amser ymdaith yr Eglwys ar y ddaear. Bellach, ni welwn y pwys ar fod genym ryw faen-prawf neillduol, wrth ba un y gallwn benderfynu pa rai ydyw y Swyddau Anghyffredinol ag sydd wedi terfynu, a pha rai ydyw y Swyddau Cyffredinol ag sydd yn parhau yn yr Eglwys hyd y dydd heddyw, ac i barhau hyd ddiwedd amser. Ymddengys mai yr unig reol wrth ba un y mae i ni benderfynu yn nghylch y ddau fath hyn o Swyddau ydyw, trwy gadw golwg, fod yr Arglwydd ei hun wedi eadw gosodiad y rhai Anghyffredinol yn eu Swyddau, yn hollol yn ei feddiant ei hun ; nid yw wedi gosod i'w Eglwysyn y gair,un- rhyw enghraifft, na rheol, am eu dewisiad, na'u cymhwysderau i'w swydd. Ac mae yn ddiamheu fod gwaith rhaio honynt yn lled anadnabyddus i'r Eglwys yn bresennol; ond pe buasent i barhau fel y Swyddwyr Cyffredinol, buasai Dwyfol ddoethineb wedi rhoddi i'w Eglwys hob cyfarwydd- iadau anghenrheidiol yn eu cylch ; ac felly, pwy bynag sydd yn hòni, ac yn maentumio iddynt eu hunain i fod yn yr Eglwyg yu