Skip to main content

Y DIWYGIWR. ÍÍHIF. 95.] MEHEFIN, 1843. [Cyf. VIII. TEYRNASIAD PERSONOL CRIST AR Y DDAEAR, YNGHYD A DYCHWELIAD YR IUDDEWON I WLAD CANAAẄ GAN Y PARCH. J. DAYIES, GLANDWR. Dat. xx, 4.—" A hwy a füant fyw ac a deyrnasasant gyda Christ fil o flynyddoedd." Luc xvn, 20.—*' Ni ddaw teyrnas Dduw wrth ddysgwyl." Act. iii, 21.—" Yrhwn sydd raidi'rnefei dderbyn hyd amseroedd adferiadpob peth." Rhagddywedwtd am Grìst cyn ei ddy- fodiad ; rhagfynegodd Duw gyfnewidiadau mawrion ereill cyn iddynt gymmeryd lle. Anhawdd i ni feddwl y daethai Person mor anghyffredin i'r byd yn ddisymwth, heb ddim hysbysiad blaenorol am dano. Barn- odd Duw yn gymhwys fod son am dano cyn ëi ddod, fel y cyffroid dynion i'w ddysgwyl, ac y byddent barod i'w roesawi pan ddelai. Sonir am dano wrth wahanol enwau, yn desgrifio gwahanol berthynasau â'r byd yn y rhai yr oedd i sefyll. Yn mhlith enwau ereill a roir ar Orist, sonir yn aml am dano fel Brenin, Tywysog, un mewn llywodraeth a blaenoriaeth. Darllenwn am hyn yn iaith broffwydoliaethol a boreu yr Hen Destament: ** Efe a ysiga dy ben," Gen. 3, 15. " Ac ato Ef y bydd cynnulliad pobl- oedd," Gen. 49, 10. " A bydd y Uywod- raeth ar ei ysgwydd Ef, a gelwir ei enw Ef, Tywysog tangnefedd," Es. 9,6. " ö honot ti y daw allan i mi un i fod yn Llywydd yn Israel," Mic. 5, 2. Yn cyfateb i'r hysbys- iadau hyn y cawn dystiolaeth y Testament Newydd; sonir yma am dano wrth yr un enw, neu wrth enwau a osodasant allan yr un swydd; sonid am dano gan yr angel fel un i'r hwn y rhoddai Duw orseddfa ei dad Dafydd, Luc 1, 32. Gelwid ef hefyd gan yr angel, Crist yr Arglwydd, Luc 2, 11. Dywed am dano ei hun, fod pob barn wedi ei rhoddi i'r Mab, ac nad yw y Tad yn barnu neb, Ioan 5, 22. Soniai yr apostol- }on yn eu hysgrifcniadau hwythau am dano wrth yr un enẁ. Paul a ddywed, Ö herwydd pabam, Duw a'i tra-dyrchafodd yntau, &c, Phil. 2, 9—11. Canys efe á ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef, 1 Cor. 15, 27. Pedr yn Actau 2, 36, a'i geilw yn Arglwydd ac yn Grist; ac yn ei lythyr, 3, 22, dywed ei fod ar ddeheulaw Duw, ac angylion ac awdurdodau wedi eu darostwng iddo. Gan i'r proffwydi rag-ddywédyd am dano fel Brenin, anhawdd fuasai i'r Iu- ddewon lai nâ dysgwyl am dano wrth yr enw hwn. Rhyfedd fuasai, wedi i Dduw son am dano wrth un caracter, iddynt ei ddysgwyl wrth garacter arall. Ond dys- gwyliwyd am dano fel brenin, eithr nid y fath frenin äg a addawodd Duw, y fath frenin ag oèdd gymhwys iddo fod, brenin ar feddyliau a chrefydd dynion. Dysgwylient ef yn frenin arnynt hwy yn unig, yn frenin daearol, fel y breninoedd fu iddynt o'r braen, ac fel y breninoedd oedd i'r cenedl- oedd eréill. Dysgwylient ìddo èf yn ber- sonol aros mewn llỳs breninol yn Jerusalem, y ddinas santaidd, dinas y brenin mawr, a gosod i fynu Iywodfaeth wládol a daearol, Hywodraeth a atebai yr un dyben â Hywod- raethau gwladol ereill, er diogelwch i ber- sonau a meddiannau dynion. Edrychai yr Iuddewon gyda hoffdèr ar y fath freniniaetri â hon, breniniaeth a roîsai iddynt oruchaf- iaeth ar eu holl elynion. Pèl y maê per- sonau yn feilchion, felly y mae cenedloedd hefyd, a mawr fel y porthid balchder tf 21