Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 94.] MAI, 1843. [Cyf. VIII. AMCAN MARWOLAETH CRIST. GAN Y PARCH. J. GRIFFITHS, TYDDEWI. Y mab yn ffaith auwadadwy fod y fath berson â Iesu Grist wedi bod yn y byd : ac iddo ddyoddef a marw trwy iddo gael ei groeshoelio. Y mae yn eglur hefyd i bob darllenydd ystyriol, a diduedd, fod yr ys- grythyrau santaidd yn gyffredinol yn llef- aru am y person hwn, nid fel am ryw ber- son cyffredin, ond mewn iaith nad ellir ei defnyddio wrth ddywedyd am un arall. Dywedir mai Priod Fab Duw—gwir lun ei berson, a dysgleirdeb ei ogoniant oedd: trwy yr hwn y gwnaethpwyd y bydoedd,— pob peth a'r a wnaethpwyd : fod holl ang- ylion Duw wedi cael gorchymyn i'w addoli ef, gan yr un awdurdod ag oedd wedi dy- wedyd, " Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac efe yn unig a wasanaethi." Dywedir hefyd am dano, gwedi iddo ddyfod i babellu yn mhlith dynion, mai un santaidd oedd,— un dihalog a didoledig oddiwrth bechadur- iaid oedd ; ac nad adnabu bechod. Nid oedd ynddo ef ei hun felly, ddim yn galw am ddyoddef a niarw. Naturiol yw gofyn gan hyny, Pa fodd y bu, neu paham y darfu i'r fath berson gogoneddus ddyoddef a marw? Dywedodd ef ei hun, nad oedd neb yn dwyn ei eìnioes oddiarno ; mai efe oedd yn ei dodi hi i lawr o hono ei hun. Rhaid fod gauddo ryw ddyben, neu ddy- benion pwysig, teilwng o'r fath berson, mewn golwg yn hyn. Mae iaith eglur yr ysgrythyraú yn dangos hefyd mai nid marw fel merthyr tros y gwirionedd, a thrwy hyny i roddi siampl i ni, oedd ei unig na'i brif ddyben. Dywedir yno ar y mater hwn fel y canlyn: ei fod wedi marw drosom ni;—ei fod ef, y Cyflawn, wedi dyoddef dro8 yr anghyfiawn;—iddo gael ei osod yn Iawn, ac mai efe yto'r laum dros ein pech- odau ni;—iddo roddi ei hun yn bridicerth dros bawb;—iddo gael ei wneuthur yn bechod drosom ni,felÿn gwnelid ni yn gyf- iawnder Duw ynddo ef: ynghyd à llawer o ymadroddion eyffelyb. Yn awr, ymofyniad cymhwys iawn i rai a gymmerant y Bibl yn unig reol eu ffydd, a phwysig iawn yn ei berthynas â ni yw, Beth ydyw gwir ystyr ac amcan y cyfryw ymadroddion? Cyn- nygaf gyda'r gostyngeiddrwydd a'r difrif- oldeb a weddaì i mi, ei ateb. Y raaent yn eglur yn ein dysgu fod Iesu Grist wedi dyoddef a marw, mewn rhyw ystyrdros, neu yn lle, pechaduriaid. Ni chaf fi sylwi dim ar olygiadau ereill,—y rhai a ymddangosant i mi yn dra chyfeil- iornus a niweidiol—ond mi a sylwaf yn unig ar yr hyn a ymddengys i mi yn fwyaf cyson â rhediad cyffredinoì yr ysgrythyrau. Ystyriwyf Fab Duw, yn ei osodiad gan y Tad, a'i ymroddiad gwirfoddol efei hun; yn ei ddyfodiad i'r byd ; ac yn yr hyn oll ayn wnaeth ac a ddyoddefodd, ynghyd â'i farw- olaeth ; yn un ddarbodaeth (expedient) ogoneddus, o eiddo anfeidrol ddoethineb, i ogoneddu Duw yn ngweinyddiad trugaredd iddynfel pechadur, yn gj son ag anrhyd- edd ei lywodraeth. I geisio gwneuthur y pwnc hwn yn fwy dealladwy ac eglur i'r cyffredin, galwaf eu sylw at y pethau can- lynol:— 1. Gosododd Duw ddyn yn ol ei greu, dan ddeddf,-^deddf gymhwys i'w sefyllfa a'i alluoedd. Yr oedd hyn yn beth cym- hwys ac anghenrheidiol. Yr oedd holl ranau creadigaeth Duw dan ryw fath o ddeddf,—heb hyn ni buasentynatebdyben eu creadigaetb : yr oedd bodau sylweddol, —bodau tyfiannol,—bodau anifeilaidd, oll 17