Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 92.] MAWRTH, 1843. [Cyf. VIII. Y DYLANWADAU DWYFOL. GAH Y PARGH. D. HUGHES, TRELEGH. Mae yn ddrychfeddwl ac yn wirionedd mawreddig ac arddunawl, mai y " Bendig- edig a'r uni<r Benaeth," ydyw ffynnonell yr lioll amryfath ddylanwadau a dreiddiantac a- weithredant trwy holl ddosbarthiadau amrywiog y bydysawd ëangfaith. Dylan- wadau naturiaethol, tyfiadol, bywydol, deallol, celfyddydol, gwyrthiol, ysbrydol- iaethol, moesol, ysbrydol, &c.—deilliant oll oddiwrth " yr un a'r unrbyw Ysbryd." " Y mae amryw weithrediadau, ond yr un yw Duw, yr hwn sydd yn gweitbredu pob peth yn mhawb," ac yn mliob peth. " O hono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef y mae pob peth." Ond wrth ymdrin á'r pwnc gor- bwysfawr hwn, mae yn anghenrheidiol gwahaniaethu rhwng athrawiaeth " Dy- lanwadau Dwyfol/'agathrawiaeth " Dylan- wadau'r Ysbryd." Mae'r atbrawiaeth flaenafyn cynnwys holl weithrediadau ac effeithiolaetli y Duwdod, inewn creadig- aeth, rhagluniaeth,a phiynedigaeth. Ond yr ail a gynnwys yn unig y dylanwadau a weithredir gan yr Ysbryd Glân ar bech- aduriuid, er eu hadferiad a'u hadnewydd- iad i heddwch a delw Duw, Hun yw'r athrawiaeth a gyfenwir, " Dylanwadau'r Ysbryd," a hon yw testun y traethawd hwn. Er mwyn eglurder, dosranwn ein sylwadau arni, i'r drefn ganlynol:— GeirioJaeth yr athrawiacth. " Dylan- wadau Dwyfol, a dylanwadau'r Ysbryd." Tardda y gair "dylanwad" o " dy" a "llanw," y weithred o lenwi, ac y mae yn gy/ieithiad llythyrenol o'r gair Seisnig, i»fluencc, a hwnw yn tarddu yn wreiddiol o'rLladin, " influo," "llifo i mewn," ond wedi treiglo i'r Seisnig o'r Ffrancaeg. Mae'r gair yn arwyddo, " gallu neu weith- rcdiad yn rhoddi ysgogiud, gogwyddiad, r,eu dueddiad, i'r meddwl a'r ymddygiad . Dywedwn " Dylanwad Dicyfol," oblegid mai Duw sydd yn ei weithredu, ac i'w wa- hauiaethu oddiwrth ddylanwad bôdau a phethau ereill; a " Dylanwad yr Ysbryd" oble^id fod ei weithrediad yn perthynu i'r Ysbryd Glàn yn ei gymmeriad swyddol yn nbrefn iechydwriaeth. Naiur yr athrawiaeth. Mae gwahanol olygiadau o barth i natur dylanwad yr Ysbryd; riiai yn g< lygu mai anianyddol (physical,) ereill mui moesol ydyw. Wrth ddylanwad anùinyddol y golygir, " dylan- wad gweithredo) ac uniongyrchol ar yr enaid, trwy'r hyn y cyfrenir rhyw beth newydd i'r enaid, a elwir, yn blaniad neu ffurfiad anian newydd." Wrth ddylanwad moesol y polygir, "dylanwad ar y meddwl trwy foddion moesol, ymresymiadau, an- nogaethau, a chymhelliadau." Pan y creodd Duw ddyn ar y cyntaf " mewn cyf- iawnder a gwir santeiddrwydd," gallwn feddwl fod ei ddylanwad y pryd hyny o natur anianyddol yn bytrach nâ moesol. Nid cael ei dueddu a wnaeth trwy annog- aethau i fod yn greadur santaidd, mwy nag i fod yn greadur rhesymol. Ond amheuaf yn gryf a ydyw " dylanwad yr Ysbryd" yn cyfateb i'r hyn a elwir genym " anianyddol na moesol." Os ydyw yn anianyildoì, mae naill ai yn greadigol, neu yn gelfyddol, neu yn wyrthiol. Os ydyw yn greadigól, yna mae rhyw beth yn cael ei ychwanegu at yr enaid, ac y mae'r pechadur yn gyfansodd- iadol ac anghenrheidiol amddifad o hono, ac yn gunlynol nid yw yn gyfrifolam ei ab- sennoldeb. Os ydyw yn gclfyddol, yna nid yw yn ysbrydol na moesol. Ac os ydywyn icyrthiol, yna nid yw y cyfnewidiad a gan- *\ lyn yn ddyledswydd y dyn. Os moesol yn \