Skip to main content

Y DiWY&ÍWR. Rhif. 91.] CHWEFROR, 1843. [Cyf. VIII. ETHOLEDIGAETH. GAN Y PARCH. D. MORGAN, O LANFYLLIN. Er bod cyn gymmaint gwedì ei ddweyd yn yr ysgrytbyr, ac er pa mor eglur y dy- wedir hyny, etto, adrlerìr ean bawb dynion ystyriol, fod anhawsdra lled fawr i ddeall atbrawiaeth EtholediL'iaeth yn gywir, ac yn ei chysondeb, a'i b»d yn nn o ddyfnion bethau Duw. Ac fel y mae wedi dygwydd braidd i bob athrawiaeth o'r Dati*uddiad Dwyfol, fod llawer o dywyllwch a dyrys- wch gwedi ei ddwyn i berthynas â hwy trwy ymyraeth dynion, felly hefyd y mae yr athrawiaeth dan sylw. Ond er amcanu gwneyd ein meddwl yn eplur yn y llinellau canlynol, ni gawn osod i Iawr yr hyn ydym yn ddeall wrth Etholedigaeth—ymdrechu dangos fod hyny yn ysgrythyrol—cynnygir symud ymaith yr hyn dybir fod yn anghy- son yn hyn, á rhanau ereill o'r Datguddiad Dwyfol. Yn— I. Amcenir gwneyd yn ddeallus yr hy|i ydym yn olygu wrth Etholedigaeth. V mae ethol, neu ddewis, yn eiriau cyd-ystyr, yn golygu rhydd-weithrediad meddyliol bôdau deallawl tuag at wahanoi bethau,neu bersonau a ymddengys yn bresennol mewn ymddangosiad, neu yn dybiol iddynt. Pa le bynag byddo rhwymiad, neu raid, ni ellir dweyd fod yno etholiad neu ddewisiad. Yr ydym yn deall yn yr ystyr o dan sylw, wrth etholiad yn ei pherthynas â Duw, ei rydd- benderfyniad meddyliol i weithredn yn iachawdwriaeth y rhai gedwir i fywyd tragywyddol; neu fwriad tragywyddol Duw i weithredu yr oll y mae yu wneuthur yn sicrhâd cadwedigaeth yr oll o'r hil ddynol a gedwir. Canys gweithredoedd Duw mewn amcan, ydyw ei fwriad, a'i fwriad mewn cyflawniad ydyw ei weithredoedd. ^' olygir genym, fod dim gwahaniaeth rhwng arfaeth Duw, ac Etholedigaeth, ond yn unig fod arfaeth rai gweithiau yn y gair, yn golygu bwriadaa Duw i wneuthur yr oll y mae yn wneuthur yn rasol tuag at bawb; ac wrth Etholedigaeth, ei bod yn golygu ei weithredoedd neillduol, a weith- reda efe yn unig tuag at, neu yn y rhai cadwedig. Ni amheuir fod y gair ethol, neu ddewîs weithîau yn cael ei gymhwyso at roddiad o freintiau, neu fendithion neill- duol, a dygiad gweithredol o bersonau î fwynhau hyny; ond fynychafo lawer yr arferir ef yn ei ystyr priodol, yn golygu gweithrediad meddwl yn penderfynu gweithredu, yr hyn y mae yn wneyd mewn amser yn sicrhàd achubiaeth y rhai a gedwir ; a phob amser yr arferir ef yn yr ystyr fiaenaf, y mae yn rhag-dybied yr ystyr olaf a enwasom ; gan hyny, yr ydym yn deall wrth Etholedigaetb, gweithred ddewisol o ochr Duw yn unig. Arferir dy- wedyd yn fynych, ac nid yn anmhriodol, mai Etholedigaeth ydyw-gwaith Duw yn dewis nifer o'r hil syrthiedig i ogoniant tragywyddol fel dyben, trwy santeiddiad yr Ysbryd, ac ufydd-dod i'r gwirionedd, fel moddion i gyrhaedd y dyben hwnw. Ond er mwyn eglnrdeb ar y pen hwn, y mae i ni sylwi nad ydym yn deall fod Duw wedi arfaethu, neu ethol dynion i gredu yr efen- gyl neu i edifarhau am bechod, neu i bar- hau ar Iwybr ufydd-dod hyd eu diwedd; oblegid teimladau a gweithredoedd dynion ydyw hyny, ac nid gwrthddrychau arfaeth uniongyrchol Duw ydynt. Canys yr hyn oll y mae ef yn weithredu y mae efe wedî arfaethu, a'r hyn oll y mae wedi arfaethu y mae yn weithredu. Myned tu allan ?r cylch hwn, sydd o'r perygl mwyaf; oblegid