Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 90.] IONAWR, 1843. [Cyf. VIII. CALENIG l'R CRISTION. Blwyddyn newydd dda i ti, ddarllenydd ! Yrnynudau byrion hyny, y rhai a dreuliaist mor ddifeddwl, a'r rhai a lithrasant o dy afael fel dwfr ar y goriwared, ydynt wedi chwyddo i'r swm o flwyddyn gyfan, a horio ysywaeth, wedi dianc yn anadferadwy o'th feddiant. Tra yr ydwyt yn sefyll inegys ar draeth y flwyddyn newydd, ac yn hollol anwybodus o'r dygwyddiadau sydd yn gorwedd yn guddiedia- o'th flaen yn myn- wes dyfodiant, yr wyf yn attolwg arnat, i gyrnmeryd hamdden i ddarllen ac adfyfyrio yn ddifrifol ar yr hyn a ganlyn :— I. Yr wyfyn cynnyg yr adeg hon i'th sylw, fel amser prìodol a chyfleus iaion, i adolygu gioaith a dygwyddiadau y flicy- ddyn flaenorol. Er fod 1842 wedi ehedeg drosodd yn llwyr,ac ynymsuddo yn gyôym atei chymdeithion i agendorangof, beddrod oesau ; etto, y mae dy fod yn ddeiliad o lywodraeth Duw, yn dy wneuthur yn atebol am yr holl weithredoedd a gyfranogent o duedd a nodwedd foe'soí, y rhai a gyflawn- wyd genyt o'i dechreu i'w diwedd; ac heb- law dy addasu erbyn dydd brawd, fe wna adolygiad manwl a diduedd o'r tymmor a aeth heibio dy alluogi i gynllanio yn well erbyn yr amser dyfodol. AVrth daflu golwg ar y flwyddyn a aeth heibio, cynghoraf di i edrych yn y lle cyntaf, ar yr amlygiadau lluosog a gefaist o ddaionus ofal dy Dad nefol; y cysuron naturiol, iechyd, dyddanwch teu- luaidd, a thrugareddau, i gynnal a gwneu- thur bodoliaeth yn hapus, y rhai a lifasant yn ddiymbaid i'th gwpan, am drì chant a thri ugain a phump o ddiwrnodau. Tra yr ydoedd St. Domiogo yn cael ei hysgwyd gan y ddaeargryn ddinystriol; y Negro twymgalon yn cael ei ledrata o fynwes ei deulu, a'i werthu yn gaethwas ; a'r Chiniad yntan yn crwydro yn ffoadur o'i artref an- wyl, i ochelyd gelynion ei wlad, cadwodd llaw dirion Rhagluniaeth bob trychineb o'r fath yn mhell oddiwrth dy annedd a'th ber- son di, gan dy adael i dawel fwynhau ben- dithion bywyd gwareiddiedig yn ngwlad dy deidau. Gorchwyl afreidiol fyddai galw dy sylw at y cnwd toreithiog, a'r tywydd rhagorol a gafwyd, o herwydd yr wyf yn credu, nas gelli fod mor anystyriol a chalon- galed, á'u hanghofio hwynt eisioes. Nid wyf am gyfyngu dy sylw ychwaith, i'r dos- barth yma o dosturiaethau a chyfraniadau dy Arglwydd yn unig; y mae dosbarth arall o freintiau, ardderchocach a phwysic- ach nâ'r rhai a enwyd yn flaenorol geuyt, i roddi cyfrif am danynt. Cefaist fwynhau dros hanner cant o ddyddiau cyssegredig í wasanaeth Brenin breninoedd y flwyddyn ddiweddaf. Dyddiau, y rhai yr oedd ei Fawrhydi grasol, trwy ddeddf bendant, wedi rhyddhau marwolion oddiwrth eu rhwymedigaeth i lafurio y ddaear, a dilyn eu goruchwyliaethau bydol arnynt. Dydd- iau, ar y rhai yr oedd y Brenin ynymddan- gos yn ei rodfeydd, i addysgu pererinion nefoedd, a'u cysuro yn ngwyneb ti-allodau byd y cystudd mawr; i arllwys olew yn eu briwiau; i arlwyo iddynt wleddoedd yr iechydwriaeth, gan osod ger eu bronau ddwfr y bywyd, a bara angylion. Ac nid oedd pererinion truenus dystryw ychwaith, heb gael rhan o sylw tosturiol ei Fawrhydi Dwyfol ar y dyddiau hyn, (fel pob dydd arall,) yr oedd yn cyhoeddi ei gyfraith dan- llyd uwch eu penau, yn lledu darlun y pwll diwaelod o flaen eu llygaid, yn cau eu llwybrau tuag yno â drain, ac yn cynnyg iddynt nid yn unig eu bywydau, cithr der- byniad hefyd i'w flafr a'i gyfeillgarwch, a mwynhad o ddedwyddwch oesawl y nef yn