Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 88.] TACHWEDD, 1842. [Cyf. VII. MERTHYRDOD PROBUS. Wedi ei dalfyru o Lythyrau Lucius M. Piso, o Rufain, at Fuusta, yn Palmyro. Y dydd pennodedie er gosod Probus i f'arwolaeth a ddaeth : ni thywynodd yr haul erioed yn ddysçleiriach ar ddinas Rhufain ; ymddengys fel pe bai rhyw uchel- wyl fawr wedi dyfod ; mae holl Rufain ar droad : cyhoeddwyr a dramwyant trwy'r heolydd, gan hysbysu marwolaeth Probus, Felix, a Christionogion ereill, yn y Fflaria, am hanner dydd. Ar gongl pob heol, ac yn mhob man cyhoeddus, y geiriau " Pro- bus y Cristion, dedfrydedig i'r anifeiliaid," a ganfyddir. Yn hir cyn dyfod aroser yr aherth, yr oedd yr arweinfeydd i'r Theatre, a'i holl gymmydogaeth, yn orchuddiedig gan y miloedd cyffroedig a ymdyrent i fod jn dystion o'r olygfa. Ychydig degwch, cyfoeth, rhwysgfawredd, ac urddasrwydd oecîd yn Rhufain, a'r nas arddangoswyd yn y dyrfa luosog a lanwent eisteddleoedd yr Amphitheatre fawr. Dywedai Probus wrthyf, yn fy ymweliad olaf ag ef, " Piso, Rellwch ei ystyried yn wendid ynof, ond dyrounwn fod un, o leiaf, yn meddu yr un "ydd á minnau, ac yn teìmlo ei galon yn curo fel yr eiddo fy hun, gyda mi yn yr awr ddiweddaf; dymunwn yr awr hòno weled u" Hygad a allo daflu pelydr cyfeillgarwch atí»f; bydd yn rfynnonell nerth i mi ; ac n's çwn faint o nerth fydd eisiau arnaf." Addewais gydapharodrwydd wneyd yrhyn a ofynndd, er, fel y gellwch farnu, y dy- rounwngael fy arbed rhag y fath brawf. Ac felly cefuis fy hun yn nghanol y dorf, yn cael fy nwyn tua chanolfa'r olygfa o ddy- ^defaint a marwolaeth. *elyroeddwn yn nesu yn mlaen, clywn a,s tra adnabyddus i mi yn fy nghyfarch, cwedi troi fy ngolwg, canfyddais Isaac yr luddew,—" Oni ddywedais wrthyt, Piso," ebe fe," mai pan fyddo y Crìstion yn ci gyfynffderau, y cait yno weled yr Tuddew yn edrych, ac ymddigrifu ? Dyma i Pro- bus y diwedd yr edrychais am dano : a pha fodd lai ? a y w efe i fyw a llwyddo pan yn cynnyg at fywyd yr hyn y rhoddodd Duw fôd ac awdurdod iddo? A gaiff efe flodeuo mewn balchder a gogoniant, yr hwn a gyn- northwyodd i dyriu lawr yr hyn a adeilad- odd Duw ? Nid felly, Piso. JVid rhyfedd fod y Cristionogion yn awr yn y fath galedi, nis gall fod yn wahanol; ac yn mhob congl o'r adeiladaeth fawr hon y gweli rai o'm cenedl i ynedrych ar yrolygfa, neuyncyn- northwyo yn yr aberth ; ond fel y gwydd- ost, nid wyf fi yn eu mysg. Oes dim gob- aith am Probus, Piso?" " Dim, Isaac; nis gall holl Rufain ei achub." " Gwir," ebe'r Iuddew, "y mae efe yn ffau'r llewod; etto, fel y gwaredwyd y Proffwyd Daniel, gall fod felly gydag ef: mae Duw uwch pawb." " Y mae Duwyn wir uwch pawb," atebwn innau, " ond gâd ni i'n tuedd a'n rheswm naturiol, i wneyd ein ffordd trwy'r byd, ac yr ydym yn well o hyny." Diam- heu," ebe Isaac, " etto ar brydiau, pan nad edrychom ni am waredieaeth, ac na freu- ddwydiom o ba le, gwaredigaeth a ddaw. Felly y bu eydag Abraham, pan feddyliodd fod yn rhaid iddo ladd ei fab, Isaac, â'i law ei hun. Ond paham y dywedaf bethau fel hyn wrth Gristion ? A fyddi di yn edrych- ydd, Piso ?" " Byddaf, yn ol taer° ddeisyf- iad Probus ei hun." M Byddaf finnau hefyd yno, cuwn weled felly beth fydd y canlyniad." Tra'n dywedyd felly, symudodd tua'r ís- gelloedd ; esgrynais inneu'r grisiau tua'r lle yr arferui Aurelian eistedd. Ni ddaethai'r Arnherawdwr etto, ond yr oedd yr Amphi- theatre wedi ei Ilanw gan ei iuiloedd cyn- 42