Skip to main content

Y DIWYGÍWR. Rhif. 87.] HYDREF, 1842. [Cyf. VII. ^HANES DEMOSTHENES. "Capiose loquens sapientia."—Cicero. Y mae yn ffaith deilwng o sylw, bod llyw- odraeth y byd wedi bod yn symudol o'r riaill wlad i'r llall, er ys mwy nâ pbedair mil o flynyddau; ac mae yn ffaith mor deilwng â hyny, bod tymhor llywodraeth pob gwlid wedi bod yn nodedig o ran an- niogelwch, ansicrwydd, a byrdra. Unwaith gwelwyd Babilon yn cyhwfanu ei baniar dros dir a môr, a'i brenin yn hèrio dyn neu Dduw i'w orchfygu. Gwedi hyny, gwelwyd y Mediaid a'r Persiaid yn ysgubo y wlad, ac yn cymmeryd meddianto'r deyrnwiaîen. Nid hir cafodd Persia ymffrostio ei bod yu arglwyddes y gwledydd, cyn i'r Groegiaid, o dan arweinyddiad Alexander Fawr, ddar- ostwng pob brodor o honi, a hawlio iddynt eu hunain y fraint olywyddu y byd. Braidd gyda bod y goron ar ben amerawdwrGroeg gwywodd ei blodau, a syrthiodd ei gogon- iant i ddwylaw y Rhufeiniaid. Er cym- maint fu ymdrech Rhufain i gadw ei han- rhydedd i fynu, gorthrechwyd hithau o'r diwedd gan y Gothiaid a'r Vandaliaid, a throsglwyddwyd amerodraeth y byd i Ger- mani. Cyn hircymmerodd aden drosodd i'r Yspaen. NiorphwysoddnesneidioiFfrainc; ac ar ol ymdrech maith achreulawnrhwng Ffrainc a Lloegr amyr oruchafiaeth, trodd y glorian o du Lloegr, yr hon sydd yn awr yn dangos ei llymanau braidd yn mhob Porthladd yn amerodraeth ddaearol Iôr. Ond wrth ddarllen tu-dalenau llyfr ha- «esyddiaeth, canfyddir fod pob gwlad, yn araser ei llwyddiant a'i gogoniant, gwedi c.vnnyrchu nifer o ddynion y rhai a anfar- wolent eu henwau trwy gyflawnu gorchest- 10n cofadwy drwy oesau y byd. Yd mhlith y rhai hyn mae Groeg a Rhufain wedi bod W'la'r mwyaf ffrwythlon. Ni fagodd un *d erioed filwyr mwy dewr, athronwyr mwy treiddiol, feirdd mwy hedegog, ac areithwyr mwy hyawdl, nà'r lleoedd uchod; a gall jrwrthddrych y byw-graffiad hwn gymmeryd ei eisteddle yn y rhestr flaenaf o'r rhai diweddaf. Os gellir yn briodol alw AIexander yn dywysog y rhyfelwyr—Arŵ- totle yn sylfeinydd yr athronwyr—a Ho- mer yn dad y beirdd, gellir, gyda'r un pri- odoldeb, alw Demosthenes yn benaeth yr areithwyr. Heblaw Demosthenes, gall- asaiGroegyn ddiau ymffrostioyn eiCimon, ei Thucidides, ei Pericles, ei Hyperides, ei Phocion, ei Demades, &c.—gallasai Rhu- fain ymffrostio yn ei Cicero, ei Csesar, ei Brutus, ei Anthony, &c.—a gall Prydain etto ymffrostio yn ei Canning, ei Mackin- tosh, ei Burke, ei Pitt, ei Peel, ei Brou- gham, &c.; ond cytuna pob beirniadydd meddylgar fod yr hawl o gael ei alw yn brif areithydd y byd yn perthyn yn unig i Demosthenes. Cyn cychwyn i roddi desgrifiad o fywyd ein cawr, dyfynaf ychydig o frawddegau o weithiau y beirniaid goreu, er rhoddi eng- raifft i'm darllenydd o'i nodwedd fel areith- iwr. Dywed Hume, yn ei draethawd an- farwol ar " Hyawdledd," ar ol dangos rhagoroldeb ei ddull ar eiddo Cicero, " Pe gellid cynelwi ei ddullwedd, byddai ei heff- aith yn anffaeledig ar gynnulleidfaoedd yr oes bresennol. Mae yn gynghanedd cyf- lym, hollol gymhwysiadol i'r synwyr; mae yn ymresymiad treiddiol, heb un awgryra o gelfyddyd; mae yn ddirmyg, gwg, eon- dra, rhyddid, cydblethedig â ffrwd gysson o ymresymaeg; ac o holl gynnyrchiadau dynoliaeth.areithiauDEMOSTHENEsarodd-, ant y portrejadau agosaf at berffeithrwydd." Dywed Longinus, wrth ei gydmaru â Hype- rides, "Cyrhaeddodd Demosthenes gyn- 38