Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 86.] MEDI, 1842. [Cyf. VII. COFIANT MR. LLEWELYN JOIIN, BRYNDDAFAD. Y cofiant mwyaf ardderchog, y marwnad mwyaf effeithiol, a'r bedd- adail mwyaf parhaus, yw lle yn serch- iadau, a pharch yn meddyliau ein cyrnraydogion a'n cydnabod. Nid yw byw-graffiad ond marw-graffiad, lle nad oes parch i'r person; na galar- gân ond llawen-gân, pan na boserch at y gwrthddrych; na bedd-adail ond ogof meudwy, lle nad oes hir- aeth am y marw. Uchel yw cym- nieriad hwnw y mae siarad hiraeth- lon ei gymmydogion yn gofiant iddo, ocheneidiau ei olafìaid yn farwnad iddo, a'i rinweddau ysblenydd yn gof-adail iddo. Pan mae rhai yn marw, y maent yn dechreu byw: ail-gofio eu cynghorion, ail-deimlo eu gweddiau, ac ail-weled eu rhin- weddau, sydd yn gadaelcoffaparchus am danynt; maent wedi marw yn byw, wedi tewi yn llefaru, wedi gor- wedd yn y bedd yn rhodio ar y ddaear, ac wedi gorphwys yn mhlith y meirw yn gweithio yn mhlith y byw. Er nad oedd eu dylanwad yn °ang, mae yn hir; na'u swn yn uchel, niae yn para. O am fyw fel y bydd- 0111 yn ddefnyddiol wrtìi fy w, ac wedi marw. Un o'r rhai mae cofFa parchus am dano, a hiraeth dwys ar ei ol, oedd LlewELyn John, Brynddafad; a thebyg y Dydd cwyno o'i golli tra y J}° y rhai oedd yn ei adnabod ef yn yw« Derbyniwyd ef yn aelod eg- wysig yn y Maendy, cyn codi y CaPel, oddeutu dwy flynedd a deu- gain yn ol, gan y Parch. Iíowell Powell, yr hwn oedd weinidog y lle y pryd hwnw. Tarawodd maes gyda chrefydd mewn amser gwresog iawn, ac yn wresog iawn ei hun yn canu ac yn moliannu ar hyd y ffordd adref o'r oedfeuon. Yr oedd Uawer o'r peth a elwir mwynhau yn bod yn y byd y pryd hwnw, a chafodd yn- tau ran o hono; Ilawer gwaith y chwareuodd gerbron arch Duw Is- rael fel Dafydd; parhaodd yn dwym gyda chrefydd am ei oes. Mae teimladau twyrn a gwres crefyddol ogymhorthmawriddwyn crefydd yn mlaen. Mae a allo ei gael am dano; ond mae ambell un, (fel llwynog yn y berllan,) wedi ffaelu ei gael, yn troi yn ei erbyn. Yn mhen ychydig flynyddau neill- duwyd ef yu swyddog yn eglwys y Maendy ; cadwodd ci swydd, a gwas- anaethodd hi yn ffyddlon hyd angeu. Yr oedd ef yn flaenor, ac yn cael y flaenoriaeth: nid ymwthio iddi, ac aros ynddi, wrth gadw rhai ereill yn ol oedd ef, fel ambell un; nid yn cymhell ei hun, ond cael ei gymhell; ond nid oedd yn anufydd; nid trwy gymhell, nac yn cymhell. Yr oedd efe yn un plai?i, diddi- chell, didderbyn wyneb, ac addfwyn a thirion; byddai ef yn dweyd ei feddwl yn rhwydd a gonest; a godd- efid mwy ganddo ef nâ neb arall. Mae rhai, wrth geisio ceryddu, yn caledu dynion; ond yr oedd ef yn ystwytho dynion heb dori eu hes- 34