Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 81.] EBRILL, 1842. [Cyf. VIII. COFIANTAU. MR. THOMAS MORGAN, Twynyberllan, Llanymddyfri. Ganwyb a raagwyd Mr. Thomas Mor- gan, gwrthddrych y cofiant hwn, yn agos i Gefnarthen, ger Llanyroddyfri. Ymun- odd â'r Bedyddwyr Neillduol er ys agos i ddeng mlynedd ar hugain yn ol, a bu yn offerynol i adeiladu capel i'r enwad uchod o Gristionogion yn agos i'r fan lle y der- byniwyd ef yn aelod. Bu hefyd yn cadw ei le fel aelod, ac yn gweinyddu ei swydd fel diacon, dros amryw flynyddau, yn y lle a enwyd, ar ol dyfod i fyw i'w dŷ ei hun, sef Twynyberllan, yn y dref hon ; ond yn teimlo ei natur yn adfeilio gan henaint, hysbysodd ddymuniad i ymuno, fel aelod achlysurol, û'r Annibynwyr yn Salem, Llan- ymddyfri, yr hyn a ganiatawyd gyda'r ewyllysgarwch parotaf, ac ni bydd yn edi- far genym byth am hyny, canys efe a ym- ddygodd yn dra addas i'r efengyl yr holl flynyddau y bu ef byw yn ein plith. Er nad oedd Mr. Morgan yn berffaith, etto yr oedd yn ymestyn at fod felly ; ac yr oedd ynddo lawer o bethau teilwng o sylw ac efelychiad pawb Cristionogion. 1. Yr oedd yn hynod o ddiwyd fel dyn a Christion; ac ar bwys y rhinweddau hyn, casglodd lawer o drysorau y byd hwn a'r hwn a ddaw. " Llaw y diwyd a gyfoethoga." 2. Yr oedd yn ddyn a Christion gostyng- edig a huuan-ymwadol; canys er ei fod yn ddyn o gorff lluniaidd, o synwyrau cryfion, o foddiannau helaeth, ac o arwyddion duwioldeb mawr, ni chlywid mo hono ef un amser yn ymffrostio yn wageddus mewn dim ag oedd yn ei feddu. "Aostyngo ci hun a ddyrchefir." 3. Yr oedd yn onest a didwyll yn ei holl ymwneyd [ù. Duw, a'i fasnachu â dynion; fel hyn ymdrechai " gadw cydwybod rydd a dirwystr tuag at Dduw a dynion." 4. Yr oedd hefyd yn elusengar iawn i'r tlodion. Rhanai Iwythi cyfain ei bedrolfen fawr o lô rhwng tlodion y dref hon, bob blwyddyn, tuag amser oer a chaled Nadolig. Am hyn "yr Arglwydd a'i nerthodd ef ar ei glaf wely." 5. Yr oedd yn gyfranydd helaeth a serchog ar bob achos crefyddol. Am hyn hefyd llanwyd ei ysguboriau â digonoldeb. 6. Yr oedd yn meithrin meddyliau tyner am wahanol enwadau o grefyddwyr; ffi- eiddiai ragfarn bleidiol yn mhawb. Da fyddai gan yr ysgrifenydd pe byddai pawb Cristionogion yn debyg iddo ef yn hyn. Er fod gan y gwenyn eu llestri priodol, etto y maent yn dra chytuuus â'u gilydd, wrth gyd-gasglu defnyddiau eu mêl a'u hym- borth ar hyd llysiau a choed y maes. 7. Fel priod yr oedd yn hawddgar; fel tad, yn dyner; fel cymmydog, yn gy- mwynasol; ac fel Cristion, yn selog, ufydd, a diragrith. Dyoddefodd bwys ei holl fiinderau yn ei fywyd, a'i hir, blin, ac aml gystudd diweddaf, fel milwr da i Iesu Grist. Cafodd yr hyfrydwch o weled ei ddwy ferch a'i wyres fechan ynaelodau heirdd yn Salem cyn ei symud. Yr Arglwydd fyddo yn Dad iddynt hwy, ac yn Briod i'w weddw hawddgar, yr hon hefyd sydd aelod ddef- nyddiol yn yr eglwys uchod. Dafydd, ei unig fab, dilynwch er adnabod yr Arglwydd Dduw eich Tad. Trefnodd Mr. Morgan ei dŷ, a holl amgylchiadau ei gladdedig- aeth, fel nad oedd eisieu dim arall ond dilyn ei gyfarwyddiaduu o Dwynyberllan i fynwent Llanfair-ar-y-bryn, ac felly y bu. Pregethodd yrysgrifenydd a Mr. Stephens, o'r Brychgoed, yn Salem, i dyrfa fawr o'i 14