Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 80.] MAWRTH, 1842. [Cyf. VIII. COFIANT Y PARCH. D. DAVIES, PENYWAIN. " Non omnis moriar; multaquo pars mei Yitabit Libitinam."------IIorace. Gyda y priodoldeb mwyaf y dywedodd y doethaf o ddynion, "Coffawdwriaeth y cyf- iawn sydd fendigedig." Mae hanes y mil- wr dewr-galon a ymladdodd ryfeloedd ei frenin—a wynebodd y pylor tanllyd, y pelenau hedegug, a'r cleddyf gloyw—ac a drengodd ar faes y gwaed, er amddiffyn iawnderau ei wlad, yn llanw y meddwl o barch at y gwrthddrych; mae hanes yr athronydd synwyrgall a dreiddiodd i inewn i ddirgeledigaethau anian—a ddygodd i olwg dynion bethau cuddiedig yn amher- odraeth Ion, yn ein taro â syndod braidd annirnadwy; ond y raae hanes y cyfryw a ryfelodd o blaid achos y Cyfryngwr—a darawodd yn erbyn cestyll cedyrn pechod a diafol—a ddadblygodd ddirgelion gras i bechaduriaid—ac a gyflwynodd ei dalentau a'i lafur i wasanaeth y groes, yn gorlenwi y meddwl â'r ameyldeb gwresocaf at ei goff- adwriaeth ; ac nid yn rhy aml gellir codi y cyfryw i olwg y byd, fel y gallo ereill efelycha eu rhinweddau, a throedio yn eu camrau, Un o'r nodweddiad diweddaf oedd gwrthddrych y cofiant hwn, ac mae y cof am dano yn fendigedig gan bawb a'i had- waenent. Ganwyd Mr. Davies yn Ffynnonygog, yn mhlwyf Llanfihangel-Rhosycorn, swydd Gaerfyrddin, ar y 14eg o Fedi, yn y flwydd- yn 1791. Ei rieni, Dafydd ac Elizabeth Lewis, oeddynt yn amaethwyr yn y lle uchod, ac yn aelodau yn rahlith yr Anni- bynwyr yn eglwys y Gwernogle. Yr oedd- ynt yn ddynion o gymmeriad da. Bu idd- ynt ddau o blant, Evan a Dafydd, y rhai a gawsant eu maethu "yn addysg ac ath- rawiaeth yr Arglwydd." Bu Dafydd, yr ieuangaf, yn byw gyda'i rieni ar y fferm, fel ereill yn gorfod ymgyfranogio effaith y bygythiud hòno am bechod : "Trwy chwys dy wyneb y bwytäi fara." Yr oedd, fel Timothi, " er yn fachgen yn gwyb»d yr ysgrytbyr lân." Arweiniodd fywyd tebyg idd ei gyfoedion yn gyffredin, hebddim yn rhyfygus ac anfoesol yn ei ymddygiad, ond etto heb arwyddion neillduol o deimladau crefyddol, nes ydoedd oddeutu pymtheg mlwydd oed, pryd yr ymwelodd Duw â'i gyflwr, a daeth dan deimladau dwysiou am fater ei enaid, i ymofyu y ffordd tua S'ion. Ymunodd â'r eglwys yn y Gwernogle, a dangosodd yn ei ymarweddiad raai "gwlad well ydoedd yn ei chwennych, a hono yn un nefol." Yn mhen ychydig amser, wrth weled ei ymddygiadau diargyhoedd a'i gyn- nydd crefyddol, annogwyd ef gan ei frodyr i arfer ei ddawn yn gyhoeddus yn eu plith ; cydsyniodd â'u cais, a barnwyd yn fuan ei fod yn " llestr etholedig i ddwyn enw Duw gerbron y cenedloedd." Oddeutu pen dwy flynedd, aeth i Ysgol Rammadegol Caer- fyrddin; bu yno o ddwy i dair blynedd, pan ei derbyniwyd yn gyflawn i'r Athrofa dan ofal y Parch. Mr. Peter. Cynnyddodd yn rhyfeddol mewn gwahanol ranau o ddysg- eidiaeth; a rhagorodd yn neillduol yn y gelfyddyd o rif a mesur (mathematics). Gwedi treulio pedair blynedd yn anrhy- deddus yn yr Athrofa, danfonwyd ef gan ei athraw i ardal New Inn, ger Pontypwl, swydd Fynwy, ar ddeisyfiad y Parch. Tho- mas Waters, i gydlafurio agef yn y gynnull- eidfa gynnulledig yn y fan hòno, lle y bu tua blwyddyn yn cadw ysgol, a phregethu yn gynnorthwyol. Yno fe gafodd ei siomi i raddau yn ei ddysgwyliadau ; ni fwriadai Rhagluniaeth iddo sefydlu yn New Inn ; o 10