Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 79.] CHWEFROR, 1842. [Cyf. VIII. " COFIANT MR. GEORGE LEWIS DAVIES, MAB HYNAF Y FARCH. EDWARD DAYIES, ATHRAW YN ATHROFA ABERHONDDTJ. GANWYD y gwr ieuanc duwiol a doniol hwn yri Llanfyllin, swydd Drefaldwyn, ar yr lleg o fis Mai, 1821. Cyflwynwyd ef, yn dri mis oed, i'r Arglwydd, trwy fedydd, gan ei daid, y Parch. Dr. George Lewis, yn ol enw yr hwn y cawsai ei alw. Cafodd ei ddwyn i fynu yn grefyddol, mewn parch i Dduw, a chariad at ei wasunaeth; ae, fel Timothy, yr oedd, "er yn fachgen, yn gwy- hod yr ysgrythyr lân, yr hon oedd abl i'w wneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth." Fel yr oedd yn cynnyddu mewn oedran,nid anmhriodol fyddai dywedyd ei fod yn cyn- nyddu mewn gras, ac mewn fiafr gyda Duw a dynion. Amlygai, er yn blentyn, lawer o hawddgarwch meddwl, ac addfwynder ysbryd, yr hyn a barai iddo fod yn hoíf ac anwyl gan bawb a'i hadwaenent. Dangosai yn foreu ystyriaeth o fawredd Duw, a'i bre- sennoldeb, ac ofnai wneuthur yr hyn oedd feius yn y dirgel, fel yn y cyhoedd ; ac yr oedd digio Duw yn beth, yn ei olwg, i'w ochelyd, fel digio ei rieni. Yn y modd hyn yr oedd o'i febyd yn rhoi arwyddion ei fod dan argraffiadau crefyddol—yn fwynaidd o ran tymher—yn dyner o ran cydwybod— ac yn ofalus o ran ymddygiad. Byddai bob amser yn dra gofalus i ymgadw oddi- wrth gymdeithion anaddas, ac er nad oedd neb yn fwy serchus a siriol gyda'i gyfeillion detholedig, ymwrthodai yn llwyr â'r dryg- ionus a'r anfoesgar. Amlygodd yn fuan, dan arweiniad ei dad, gyrnhwysderau nod- edig i ddysgu ; ac nis gallasai ei rieni lai nà llawenhau, wrth weled arwyddion mor foddhuol y buasai yn enwog mewn gwybod- aeth, yn gystal ag mewn rhinwedd—yn anrhydedd i grefydd, uc yn addurn i ddyn- oliaeth. Erbyn bod yn ddeuddeg oed, yr oedd yn hynod gyfarwydd, nid yn unig â changhenau cyflfredin dysgeidiaeth, ond â daearyddiaeth, hanesyddiaeth, ahenieith- oedd Groeg a Rhufain, yn y rhai y darllenai yn rhwydd y beirdd Virgil a Homer, a'r awdwyr rhyddiaith Csesar a Cicero. Ei elfen oedd dysgeidiaeth, yn yr hon yr oedd fel yn ymhyfrydu byw ; ac nid oedd ei ym- gyrch ar ol gwybodaeth yn cael ei gyfyngu o fewn cylch awdwyracysgrifenwyr yrhen oesoedd, ond yr oedd ei awyddfryd yn cym- meryd i mewu feddyliau pob oes, ac ysgrìf- eniadau pob cenedlaeth ; o herwydd hyny, yr oedd fel hanesydd yn dra nodedig; a dy- munol iawn fyddai i bob un sydd yn edrych yn mlaen at y weinidogaeth, ymdrechu fod yn gyfarwydd â hanes yr hiliogaeth ddynol, yn ei hamrywiol berthynasau a chyflyrau, gan nad oes un peth mor fuddiol i addurno ac amaethu'r meddwl, ac yn gynnorthwy i gynnyddu yn mhob rhan arall o ddysgeid- iaeth. Cyn bod yn bedair-ar-ddeg oed, yr oedd Mr. G. L. Dayies yn gwybod yr Hebraeg i fesur helaeth, ac wedi cynnyddu i raddau mawr yn y gelfyddyd o rif a mesur (mathematics), yn yr hon yr oedd yn cym- meryd mawr hoffder. Yn y flwyddyn 1835, mis Awst, cafodd ei anfon i ysgol Mile Hill, gerllaw Llundain, ac yma efe a nodwedd- odd ei hun yn fawr mewn rhinwedd adysg- eidiaeth. Gosodwyd ef, ar ei dderbyniad i'r ysgol gyfrifol hòno, yn y dosbarth nesaf i'r uwchaf, yn yr hwn y darllenid Horace a Homer, Herodotus a Cicero. Cafodd ei syniud yn fuan i'r dosbarth uwchaf, yn yr hwn y darllenent Pindar a Juvenal, Thu- cydides a Livy. Aeth dros yr oll o rifydd- iaeth Uythyregawl (aìaebra), a daear- fesuryddiaeth (geometry), vn ol Euclid.