Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 77.] RHAGFYR, 1841. DYSGYBLAETH EGLWYSIG [Cyf. V PREGETH ODDIAR MATHEW XVIII, 15—18. CParhad o du-dalen 330 J 4. Er cadw trefn iawn ar eglwys Grist- ionogol, anghenrhaid cael onestrwydd di- wyro, affyddlondeb diffuant yn y gweinidog a'r aelodau-—Ni ddylai fod ofn dyn ar y gweinidog nes ei faglu a'i rwystro i draethu holl gynghor Duw, heb attal dim o'r pethau daionus, nac i'w luddias i esbonio yn ddi- dderbyn-wyneb holl gyfraith y tý, i an- nog y dyledswyddau gorphwysedig ar yr aelodau, a dynoethi pob pechod yn ddiwa- han. O herwydd anffyddlondeb y gwyl- iedyddion, a'u hawydd mwy i foddloni nag i aflonyddu ac argyhoeddi, y mae llawer gwreiddyn chwerwaidd yn tyfu i fynu, lla- wer pechod yn cael ei geseilio, a llawer dyledäwydd yn cael ei hesgeuluso; ac o ddiffyg ffyddlondeb yn yr areithfa, mae arferiadau llygredig wedi eu hanner cyf- reithloni, a phechodau fyddant yn cau miloedd o'r nefoedd yn cael eu goddefyn eglwys Dduw. Os estyn gwr ei law at eiddo ei gymmydog, ysgymunir ef bendra- mwnwgl, heb siarad gair âg ef, nac yn ei gylch ; ond os bydd wedi meddwi ar nos y cyfrif, neu nos y ffair, nes methu cerdded adref, anfonir y diacon i ymofyn pa fodd y bu, ac i'w faldodi a'i gwyno o herwydd ei anffawd, ac os bydd y troseddwr yn lled hyawdl i adrodd yr hen stori, " Nad yfodd ond ychydig—ei fodyn wag pan yr yfodd, &o; a'i fod yn edifeiriol iawn o herwyddyr cmffawd, a sicrhau na ddygwydd y fath beth byth mwy," bydd y cwbl ar ben, Os crefyddwr a yspeilia ddyeithr ar ben y ffordd, bydd cywilydd ar yr eglwys addef ei fod wedi bod yn perthyn iddi erioed, ond geill yspeilioei wraiga'i blanto'u hymborth a'u cysuron, trwy ddiotta a chyfeddach, a bod yn benaf gwr wrth fwrdd y cymundeb. Pan attalio gwr gyflog y cyflogedig, cer- yddir ef; ond edrychwyd ar y cybydd cyf- oethog,a attaliodd oddiwrth Dduwa'i waith am ugain mlynedd yr hyn a ddyjasai off- rymu, fel gwr boneddig, a pherchir ef yn aml á swydd yn nhŷ y Duw, ac yn yml y gweinidog, a ysbeilia bob dydd. O herwydd i'r gwyliedyddion gysgu, mae rhai pechod- au yn blaguro yn yr eglwys heb neb yn sylwi arnynt. Y mae diotta, cyfeddacb, meddwdod, a chybydd-dod ar ddrws y nef, fel na chaiff y cyfryw sydd yn euog o hon- ynt etifeddu teyrnas Dduw; ond mewn llawer eglwys nid oes modd i'w condemnio, am na cheir rheithwyr (jury) i daflu càreg atynt, gan eu bod wedi ymlithro i arferiad gyffredin. Mae yn hanfodol anghenrheid- iol hefyd i ymddwyn yn onest tuag at bob dyn. Rhagwelai Iago (pen. 2, 2,) duedd- garwch i faldodi y gwr â'r fodrwy aur. Os clamp o dyddyn, neu heolaid o dai, fydd yn crogi wrth odreu gwr, rhydd yr eglwys y perthyna iddi, yn fynych, drwydded iddo i rodiana a chwareu á themtasiynau ; a phan lithro i bechod gwarthus, trinir ei archoll- ion ef â menyg sidanaidd. Pan unwaith yr oedd boneddiges gyfoethog dan gerydd, tòrodd dynes dlawd allan i foliannu, gan waeddi. " Diolch, O diolch." Synodd pawb, a gofynodd rhai iddi, *' Paham y diolchwch, druan? gwaith gofidus sydd genym heddyw." " O, (ebe hithau) diolch am fod yn dlawd 'rwyf íi—mae genyf eitnaf chwareu teg am fy enaid. Bum yn euog o'r un trosedd à'r wraig yna, ac yn union brathodd hanner dwsin o honoch eich bys- edd i waelod fy nghlwyf, ac y mae wedi gwellayn braf yn awr; ond y mae menyg sidan am eich dwylaw heddyw, ac yr wyf 45