Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 76.] TACHWEDD, 1841. [Cyf. yy: COFIANT BENJAMIN WILLIAMS, BRYNMAEN. CAFODDgwrthddrych y Cofiant hwn hir flynyddau i fyw, ond y mae wedi marw, a hyny mewn oedran teg. Yr oedd yn fab i William Christrnas, a Catherine ei wraig, o Bantyfyda, yn mhlwyf Llanybydder, yn swydd Gaerfyrddin, y rhai oeddentyn wr a gwraig grefyddol, ac o ymarweddiad rheolaidd a duwiol iavvn, ac felly fe gafodd Benjamin eu mhab ei ddwyn i fynu mewn teulu crefyddol, a than addysgiadau crefyddol o'i febyd. Ond heb dreulio amser yn ofer, na chadw Ue ar du-dalenau y Diwyg- iwr gyda phethau diadeiladaeth, mi adawaf dymhor ei ieuenctyd yn mro dystawrwydd, ond yn unig hys- bysu y darllenydd fod ei ymddyg- iadau dros y tymhor hwnw yn serchog, yn garedig, ac yn ddiniwed tuag at ei berthynasau a'i gymmyd- ogion, a phawb ag y byddai a wnelai ef â hwy, ac fel un yn gwisgo y cymmeriadau uchod, byddai yn cael ei barchu a'i gymmeradwyo gan bawb a'i hadwaenai. Ond pan yn bedair-ar-hugain oed, daeth i deimlo yn fawr yn achos ei enaid, fe lynodd saethau Brenin S'ion yn ei galon, a'r canlyniad fu, iddosyrthio wrth draed y Meddyg mawr, i ymofyn amiachâd ac esmẁythder. Ỳn fuan ar ol hyny 'e gafodd ar ei feddwl i ymuno ag eglwys Crist yn mhlith yr Anymddi- bynwyr, a ymgynnullent yn Nghapel ísaac, ger Mynyddbach, Llandilo; yn mhen oddeutu tair blynedd ar ol hyn, cafodd annogaeth gan yr eglwys i arfer ei ddawn fel cenad dros Grist at ei gyd-bechaduriaid; yn y fan fe roddodd ufydd-dod i gais yr eglwys, ac mewn modd gwylaidd ac hunan-ymwadol, a phenderfynol, fe wynebodd ar y gorchwyl, yn y cyf- lawniad o'r hwu y treuliodd weddill ei oes, yn ddiwaradwydd iddo ei hun, yn ddiofid i'r eglwys, ac yn ddiddol- ur i'r weinidogaeth. Bu yn llafurus iawn am wybodaeth yn ol y manteis- ion oedd ef yn feddu, a thrwy ei ymdrech a'i lafur cyrhaeddodd olyg- iadau lled fanwl ar bob athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb, a gellir dy- wedyd fod corffo dduwinyddiaethyn ei feddwl. Yr oedd ganddo ddawn helaeth mewn gweddi, a byddai yn alluog i osod pob achos yn drefnus gerbron yr Arglwydd, a hyny gyda theimladau tyner ac mewn ysbryd drylliog, yn fynych gyda byn yr oedd yn meddu ar gymhwysder mawr i gynnal cyfarfodydd neillduol yn yreglwys; yroedd ganddo lygad craff, meddwl parod, a chrefydd brofiadol ei hun, ac oblegid hyn yr oedd yn gallu ymdrin â gwahanol gyflyrau a phrofiadau gyda medrus- rwydd, er budd, addysg, ac adeilad- aeth i bawb a fyddai yn bresennol. Yr oedd o ymarweddiad duwiol iawn, yn ymhyfrydu yn nghyfraith Duw o ran y dyn oddimewn, a'i bleser penaf oedd byw yn grefyddol, yn ddiglwyf i'r achos, a bodyn rhywgynnorthwy i deyrnas Iesu i fyned yn mlaen. Fe ymroddodd i weddi a gweinidog- 42