Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 72.] GORPHENAF, 1841. [Cyf. VI '/ COFIANTAU. MR. JOHN JONES, MAB Y PABCH. D. JONES, ABER. JohnJones a gafodd ei egwyddori er yn blentyn o dan dywysiad ei dad tirion, gufal yr hwn oedd yn fawrdrosto; a phan yn ddeuddeg oed derbyniwyd ef i gymundeb y saint yn y Neuaddlwyd, lle y treuliodd ddwy flynedd a hanner i dderbyn manteis- ion dysgeidiaeth, dan ofal yr hybarch Dr. Phillips; a phan yn un-ar-bymtheg oed, dechreuodd lefaru yn gyhoeddus yn yr eg- lwysi oddiamgylch Caerfyrddiu, lle hefyd y treuliodd agos i ddwy flynedd a hanner, dan olygiad y Parchedig D. Peter; ac oddiyno derbyniwydef yn roesawus i goleg Rother- ham; ond yn mhen ychydig amser pallodd ei iechyd, barnwyd y buasai yn marw cyn y gallasai gyrhaeddyd tŷ ei dad ; a barn physygwr enwog o'r wlad hòno ydoedd, nad oedd ei gyfansoddiad yn ddigon cadarn i ddal fel astudiwr yn y lle caeth hwnw er treulio ei amser allan yno, yna dychwelodd 1 wlad ei enedigaeth, a threuliodd y gweddill °'iddyddiau yn y gwasanaeth clodwiw o addyggu piantj ac amrai mewn cyflawn faintioli, ynghyd â phregethu yr efengyl yn ^hlysurol a chynnorthwyol i weinidogion W gwmpas. Cafodd garedigrwydd nid °ychan gan foneddigion a ffermwyr Llan- sadwrn, lle yr anadlodd yr anadl olaf, a cher y fan ue yr anadlodd yr anadl flaenaf, sef caniatau iddo ugain punt y flwyddyn er tysgu nifer bennodedig o blant tlodion y y Plwyf, heblaw yr hyn a allasai wneuthur °adiwrth blant boneddigion a ffermwyr; ac y° y naw wythnos o'i gystudd caled, dan- fo°d°d<Ì preswylwyr y pentref a'r ardal ei °a yn Uunw ei swydd fel athraw er mawr foddlo nrwydd iddynt,drosyr amser a dreul- iodd yn eu gwasanaetb, yr hyn nid anghofir yn fuan, yn enwedig gan dad y trancedig, gan ddymuno ar i bawb o'r plwyfolion dder- byn ei ddiolchgarwch gwresocaf am eu hyn- awsedd caredig. Yr oedd John Jones o dymber naturiol fwynaidd a charuaidd, ac arwyddion hel- aeth o deimladau crefyddol yn moreu ei ddydd ; ac er na threuliodd ei oes grefyddol drwyddi heb gyfarfod à gauaf profedigaeth- au a dirywiad, etto yr oedd—yn ol barn y brodyr a'r chwiorydd yn Hermon, lle yr oedd yn aelod, ac yn gynnorthwyol i min- nau pau dan yr anghenrheidrwydd o fod yn gweini mewn mannau ereill, a derbyn- iem ei gynnorthwy pan yn bresennol— ysbryd briw a bywyd diwygiadol wedi ga- faelyd yn ein brawd trancedig ychydig am- ser cyn iddo gael ei gymmeryd yn glaf gan ei glefyd olaf; ac am yspaid naw wythnos gorweddodd yn ei wely nes treulio ei natur allan gan y darfodedigaeth. Cafodd y bro- dyr o wahanol enwadau crefyddoJ, a aml ymwelent ag ef, foddlonrwydd mawr o'i amynedd a'i ddyoddefgarwch, a'i hunan- gyflwyniad parhaus o hono ei hun yn ddir- gelaidd i'r Arglwydd. Weithiau tòrai allan mewn gweddi a diolchgarwch, gan gyfeirio at addewidion tra pherthynol i'w sefyllfa. Pan ddywedodd brawd wrtho unwaith fod ei gystudd yn trymhau ; atebai, " Ydyw, y mae, ond mae yr addewidion a'u cyflawn- der yn aros: yr hwn a ddywedodd, ' Yn dy ddydd y bydd dy nerth, a digon i ti fy ngras i;' mae efe yn yr ymyl, a digon yw." Mwrth 27, cyfnewidiodd yn yr hwyr, y peswch a gryf haodd, yr anadl a fyrhaodd, a'i nerth oedd yn ymadacl bob anadliad, Trodd ei olwg at y rhui a'i gwyliai, a dy- wedui, " Nid oes modd byw yn hwy, ' Ond 25