Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 71.] MEHEFIN, 1841. [Cyf. VII. í- COFIANTAU. Mlt. DAVID NICHOLAS. Oblegid fy mod o'r un farn ag ereill o'm brorlyr, am y priodoldeb i gyhoeddi i'r cy- lioedd, ychydig o hanes bywydau a marwol- aethau amryw o ymdrechwyr Sion, yr ydwyf yn cymmeryd y cyfleusdra presen- nol iroddiychydigo hanes David Nicholas, gof, wrth ei gelfyddyd, o Heol-Senny, plwyf Dyfynnog, yr hwn, er nad oedd yn ddyn cyhoedd, nac yn troi mewn cylch mor ëang á llawer, er hyny ni fu y pellaf yn ol yn llanw ei gylch, a gwneuthur daioni crefyddol; gan hyny, dichon na bydd rhyw gymmaint o'i hanes grefyddol yn an- fuddioli'rDywysogaeth. Cafodd eidueddu i fyned at grefydd er ys tuag wyth mlynedd a deugain yn ol, pan ydoedd yn gwrando pregeth ar Luc 15, 5, " Ac wedi iddo ei chael, efe a'i dyd hi ar ei ysgwyddau ei hun yn llawen." Wrth wrando'r bregeth, gwelodd ei gyflwr ei hun fel pechadur, yn nghyd ag addasrwydd y Gwaredwr ar ei gyfer, nes iddo benderfynu rhoddi ei hunan i'r Arglwydd yn gyntaf, wedi hyny i eglwys Crist yn y Brychgoed, yr hon oedd y pryd 5lyny dan'ofal gweinidogaethol y Parch. Peter Jenldns. Cafodd y fraint o fod yn %ddlon iawn i'w gyd-gynnulliad trwy ei oes, hyd o fewn i saith wythnos i'w farw- «laetb, pan y gwaelodd ei iechyd i'r fath raddau, nes iddo orfod cadw ei annedd, a chadw ei orweddle y rhan fwyaf o'r amser yma, ond yn y cyfamser, y pethau y siaradai 'wyaf am danynt, ydoedd pethau enaid, a'r Pethau yr ymserchai fwyaf ynddynt, yd- oedd y pethau sydd uchod ; ac nid oedd yn anhawdd adnabod ei fod yn tynu tua'r ter- fi'n. Hydref 23, 1840, ar ol ffarwelo à'i wraiga'iblant, buodd farw yn yr Arglwydd, (fel yr ydym yn hyderus) yn y 71 o'i oedran. Ar y Llun canlynol, ymgasglodd lliaws mawr o'i geraint a'i berthyuasau i'rdyben i wneyd y gymmwynas ddiweddaf i'w ran farwol; cyn cyfodi'r corfl'allan darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. W. Williams, Tredwstan; yna awd yn araf tua'r Brych- goed, pan ar ol gweddio, yr anerchwyd y dyrfa gan weinidog y lle, oddiwrth Luc 15, 5, sef y testyn oeddid yn pregethu arno pan y tueddwyd ef i ddyfod at grefydd, a thyna p'am ydoedd am i'r cyfryw fyddai yn pregethu yn ei angladd i ddweyd ychydig oddiwrtho, wrthy rhai a fyddent bresennol ; yna ar ol câhu awd á'i gorff i dŷ ei hir gar- tref, lle ei gadawyd ef gan ei ystyried yn gymmwynas yn yr hen ddaeari'w dderbyn, a'i gadw, hyd nes byddo galw am dano; yn y pryd hwnw gall ddywedyd, ° Gelwi a mi aatebaf;" daw i'r làn yn well eiagwedd nag yr aeth i lawr; 1 Cor. 15, 43. Yn awr wedi dilyn ein hen gyfaill hyd y bedd, a gorfod boddloni i'r drefn er mor groes i deimladau ydyw ; er hyny nid ydym fodd- lon, ac nid oes eisieui ni ymfoddloni chwaith i bob peth oedd ynddo i gael eu claddu yr un diwrnod ag y claddwyd ef; gwir yw bod ynddo ryw bethau y byddai yn dda eu gochelyd,a gobeithiomai felly bydd hî gan bawb a'i hadwaenai; mae mor wired â hyny bod ynddo lawer o bethau y byddai yn dda eu bod yn mhob crefyddwr yn y wladj sef yn— 1. Awydd ac ymdrech mawram wybod- aeth grefyddol; yr oedd yn cwbl gredu " nad yw yr enaid heb wybodaeth ddim yn dda;" gan hyny, llafuriai yn ddiwyd, ac ymdrechai lawer er cyrhaedd mesur o 21