Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 66.] IONAWR, 1841. [Cyf. VI. DYCHRYNLLYD DDIWEDD WILLIAM POPE. CParhad o Rifyn Rhagfyr dìweddaf, tu-dal. 367.) Ar yr 21ain, Mr. Iihocjes, gwedi dychwelyd o'r wlad, a aeth drachefn i weled W. Pope, ac y mae yn rhoddi yr hanes ganlynol am ei yrnweliad: " Mi a'i cefais ef mewn sefyllfa druenus iawn,efe a'm cyhuddodd o ddweyd celwydd wrtho, yn fy ymweliad o'r blaen, pan ddywedais fy mod yn credu fod tru- garedd iddo; minuau a atebais mai nid celwydd oedd hyny; ond fy mod yn credu mewn gwirionedd fod trugaredd iddo, os derbyniai efe hi. Erbyn hyn yr oedd mewn storom o gynddaredd ac anobaith: ei olwg, ei ing, a'i eiriau dychrynllyd, nis gellir eu hadrodd. Yr oedd llefaru wrtho am dru- garedd, neu am Geidwad, yn ymddangos fel pe buasai yn ychwanegu dychrynfeydd xi feddwl. Pan y dywedais i wrtho am nerth yr Hollalluog; ' Mae Duw,' eb efe, 'yu hollalluog i'm damnio i; mae efe wedi selio fy namnedigaeth eisoes, ac yr wyf yn hiraethu am fod yn uffern!' Pan oedd dau neu dri o honom yn gweddio drosto, efe a daflai atom beth bynag a allai gael gafael arno: yr oedd ei gyflwr a'i ymddangosiad yn ddychrynllyd brawf o wirionedd, a chyfiawnder, a hanfod y Duw- dod,—fod enaid anfarwol mewn dyn, a bod pechod yn ddrwg annhraethadwy. Pwy ond y Duw cyfiawn a allasai weini y fath gospedigaethau ? Beth ond pechod a all- asai eu haeddu hwynt? A pha beth ond enaid deallgar, anfarwol, a allasai ddyoddef y fath loeson ? Y dydd canlynol, galwodd Mr. Rhodes drachefn i weled W. Pope. Yr oedd y storom o gynddaredd a llid, fel pe buasai hi gwedi tawelu. Yr oedd yn ymddangos yn llawn llwfrdra ac ofn, mewn dychryn parhaus rhag galluoedd y tywyll- wch, yn ofni eu dyfodiad i'w lusgo ef ym- aith i drigfanau trueni: er hyny nid oedd un arwydd o wir edifeirwch yn ymddangos arno, dywedai ei fod yn llawn cabledd, a'i fod yn gosod ei law ar ei enau rhag iddo dori allan, ac achwynai ei fod yn cael ei orchfygu ganddo!" "Prydnawn y 24ain, galwodd Mr. Bara- clough drachefn i edrych am dano. Dros ryw amser ni ddywedai ddim; ond gwedi gofyn iddo amryw weithiau, pa fodd yr oedd yn teimlo ei feddwl, atebodd, 'Drwg, drwg.' Dywedodd Mr. B. fe all Duw ei wneyd yn well. 'Fy ngwneyd i yn well? yr wyf yn dywedyd wrthych, Na wna,—yr wyf gwedi gwneyd y weithred ddychryn- llyd, ac nis gallaf ei hail wneyd. Yr wyf yn teimlo fod yn rhaid i mi ddywedyd wrthych am ba beth yr wyf yn dyoddef. Y Sanctaidd! y Cyfiaion! mi ail-groes- hoeliais Fab Duw, ac a farnais yn aflan waed y cyfammod. O! y weithred ddryg- ionus, ddychrynllyd hòno; cablu yn erbyn yr Ysbryd Glàn- Gwn i mi ei chyflawni; am hyn yr wyf yn dyoddef poen adychryn- feydd euogrwydd, a theimlad o lid Duw.' " Yna yn ddisymmwth efe a edrychodd tua Uawr yr ystafell, ciliodd yn ol, crynodd, a rhinciodd ei ddannedd, gan lefain allan, (Oni welwch chwi ef, oni welwch chwi ef ? mae efe yn dyfod i ymofyn am danaf; aiff y diafol ymaith â mi; tyred, O ddiafol, cymmer fi!' Yn yr amser hwnw daeth Mr. G. Eskrick i'r ystafell, wrth yr hwn y dywedodd William, 'George, yr wyf yn golledig.' Atebodd Mr. Eskrick, «Na ddy- wedwch felly, o'nd gweddiwch yn daer ar Dduw, am roddi i chwi wir edifeirwch: pwy a ŵyr na wared yr Arglwydd chwi heddyw o afael pechod a Satan ?" Efe a atebodd, 'Nis gallaf weddio! na, 'na, nis gweddiaf ddim: oni ddywedais i wrthych