Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 64.] TACHWEDD, 1840. [Cyf. V. YCHYDIG O HANES BYWYD A MARWOLAETH Y DIWEDDAR JOHN GRIFFITHS, MYFYRIWR YN UNIYERSITY COLLEGE, LLUNDAIN.* Mr. Gol„—Gobeithio na bydd i mi anfoddloni eich derbynwyr lliosog, trwy osod ger eu bron yr ychydiglinellau canlynol o hanes un yn perthyn mor agos i mi: yr oeddwn yn gweled nad oedd neb arall yn meddu yr un manteision i'w wneuthur, mewn modd cywir, ag oedd genyf fi. Yr ydwyf yn meddwl yn sicr, na buaswn wedi meddwl am ei gynnyg i sylw y cyhoedd, oni buasai fy mod yn golygu fod ynddo duedd i wneyd daioni, yn neillduol i ddynion ieuainc ; ac yn benaf i rai yn wV- nebuar y weinidogaeth. J. G., Tyddewi' Ganed John Grifpiths yn Llanferan, plwyf Dewi, yn sir Benfro, ar y 27ain o Ionawr, 1819. Gwnawd cyflwyniad buan o honoi'r Arglwydd, mewn modd cyhoedd- us, trwy fedydd, gau y Parch. W. Harris. Nid oedd dim yn hynod ynddo tra yn blen- tyn. Dangosodd yn bur foreu ei fod yn meddu galluoedd da i ddysgu. Cafodd ei osod pan yn go fychan mewn ysgol gydag un yn y gymmydogaeth i ddysgu rhifyddiaeth. Byddai gan y gwr hwn yr arferiad canmol- adwy o gânu a gweddio gyda'r plant, cyn eu gollwngynyrhwyr; abyddai J. Griffiths bob amser yn arweinydd y cânu. Aeth yn mlaen yma mewn rhifyddiaeth, mor belí á Cube Root. Tybiodd ei rieni mai awydd am ei foddio ef, a hwythau, oedd yn peri i'w feistr ei adael i fyned yn mlaen mor bell, ac nad allasai fod yn deall yr hyn oedd yn ei wneuthur; ond pan alwyd ef gerbron, i'w brofi, cafwyd ei fod yn deall yr oll oedd efe wedi myned drosto. Tystiai ei feistr ei fod yn myned yn mlaen yn ddidra- fferth iddo ef, yn fwy nag edrych dros ei waith;—nid oedd byth eisiau ei gymhell, ac anaml iawn oedd eisiau dangos dim iddo. Bu yn ol hyn yn Hwlffordd, gyda Mr. B. Howells. O ddiffyg cyfleusdra, bu am gryn amser wedi hyn, heb fod mewn un ysgol: yr hyn a fu o niwed iddo mewn mwy nag un ystyr:—collodd ei archwaeth at * Mab y Parch. J. Griffîths, Tyddewi.—Gol. ddysgu, a thyfodd blys at chwareu. Aeth wedi hyn i Lanboidy, at y Parch. W. Dayies. Ni ddangosodd yma mor eglur ei alluoedd i ddysgu; a'r achos, mae'n debyg, oedd yr hyn a grybwyllwyd. Yn ol dychwelyd oddiyno, aeth am ychydig o amser at un Mr. James, yn Tyddewi; yr hwn a dystiai na welodd ef ei gydradd. Yn ol hyn, bu drachefn yn H wlffordd, dan olygiad y Parch. J. Bulmer. Dywedai Mr. B. yn mhen blynyddoedd wedi hyn, " Mi a fyddwn fodd- lon i gadw ysgol o hyd, pe cawn y fath ysgolheigion ag oedd John Griffiths." Wedi hyn aeth ef (ynghyd â Mr. James Williams, mab i'r diweddar Barch. W. Williams, Wern,) at ei frawd, H. Griffiths, yr hwn oedd bryd hyny yn weinidog yn Cowes, yn yr Isle of Wight. Ymddangos- odd ei darawiad myfyriol ef yma; a chyn- nyddodd ei syched am wybodaeth yn fawr. Yr oedd yn naturiolo dymherau serchiadol, a chyfarfu yma ag amryw gyfeillion, y rhai a arwyddent hoffder neillduol ynddo, a dan- gosasant lawer o garedigrwydd iddo. Pan oedd ar ymadael oddiyno, rhoddodd un o honynt ddau sovereìgn iddo, fel arwydd o'i serch ato. Oddiyma aeth i Coward College, Llundain, yn mis Awst, yn y flwyddyn 1836. Ar ei fynediad i'r lle hwn, ac yn aml mewn llythyron gwedi hyn, y ddau beth a ym- drechwyd yn benaf i'w gwasguar ei feddwl, i ofalu yn ncillduol am danynt, oeddynt, metthriniad crefydd bersonol, ac iechyd 42