Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 6e3.] HYDREF, 1840. [Cyf. V. COFIANT JOHN WATRINS. Y rhesymau dros gyhoeddi cofiant i'r brawd ieuanc hwn, ac yntau yn berson anghyhoedd, ydynt y rhai canlynol:—• 1. Fody rhinweddol yn deilwng o gael ei gofnodi, er annog ereill i efelychu ei esiamplau. 2. Fod llawer o rinweddau yn cyd-gyfarfod yn John, er pan ydoedd yn faban, trwy y rhai yr hynodwyd ef, ac y rhagorodd ar holl blant yr ardal hon, mewn rhinwedd a daioni. 3. Fod cofnodau o ymdrechion duwiol un mor ieuanc, yn foddion tra chymhwys i effeithio ar bobl ieu- ainc, ac i'w denu idd ei efelychu. 4. Fod y Bibl yn awgrymu y bydd cofnodiadau o rinweddau'r duwiolion yn dderbyniol gan yr oesau a ddel— " Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fen- digedig—y cyfiawn a fydd byth mewn coffadwriaeth." Ganwyd gwrthddrych y cofiant hwn, Awst 16, 1824?, mewn tý bychan a elwir Park-hensol, yn mhlwyf Aberdare, oddeutu dri chwarter milldir islaw gwaith haiarn Hirwaun. Ei rieni oeddynt Thomas a Mary Watkins, y rhai sydd etto yn fyw, ac yn dra galarus ar ol eu hanwyl blentyn. Fe ymddengys fod crefydd wedi gwneyd argraff ddofn ar feddwl John, pan ydoedd braidd yn ei gyflwr maban- aidd ; dangosai fod ganddo feddyliau uchel a pharchus am dani, pan yd- oedd rhwng pump a chwech mlwydd oed. Mae yn dra thebygol mai trwy cldylanwad addysgiadau ac esiamplau ei fam a'i chwaer, yr effeithiwyd yr argraff hon ar ei feddwl, oblegid gwnaethant hwy broffes gyhoeddus 0 grefydd yr amserhwnw, a pharhant yn anrhydedd iddi hyd yn awr. Yr ydoedd John yn yr oedran hwnw gwedi ymserchu cymmaint yn yr Ysgol Sabbothol, a chyfarfodydd crefyddol ereill, fel yr anfoddlonai yn fawr wrth ei chwaer a'i fam, os aeth- ent heb yn wybod iddo i'r odf äon, yr hyn oeddent dueddol i'w wneu- thur rai prydiau, o herwydd ei fod yn analluog i gerdded yr holl ffordd ei hunan heb ychydig gynnorthwy. Teimlai John ei hun yn sychedig am ddysgeidiaeth a gwybodaeth grefydd- 01 yn foreu iawn, ac ymroddodd yn benderfynol i ddysgu darllen, a chofio gair Duw, yn yr hyn y bu yn fwy llwyddiannus nâ neb o'i gyfoed- ion yn yr ardal hon, oblegyd dysgodd ac adroddodd yr holl Salmau, cyn ei fod yn ddeg oed; dysgodd hefyd lyfr y proffwyd Jona, heblaw ugeiniau o bennodau ereill, y rhai a ddysgai yn achlysurol, i adrodd wrth ei ath- raw, oddeutu yr un amser, a chafodd Fibl ac amryw draethodau yn wobr am ei lafur diflino. Nid llawer o blant a geir morglosyn eu mheddwl â John, ond amlygai y cwbl i'w fam, yr hon a hoffai yn fwy nag y mae plant yn gyffredin yn hofli eu mhamau. Dywedai yn aml wrthi fod yn ei fryd i ddyfod yn bregethwr,a phreg- ethai lawer iddi hi, ac idd ei chwaer, 38