Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 61.] AWST, 1840. [Cyf. V. COFIANT Y PARCH. EMMANUEL DAVIES, HANOYER, SWYDD FYNWY. Ganwyd gwrthddrych y Cofiant hwn yn agos i Brynberian, yn swydd Ben- fro, ar y 3ydd o Fawrtb, 1758. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys gynnulleidfaol yn Brynberian, pan yn 15eg mlwydd oed. Wrth ganfod ynddo bob addasrwydd i droi mewn cylch mwy cyhoedd yn yr eglwys Gristionogol, anfonwyd ef i'r ysgol yn Glandwr, dan ofal y Parch. Mr. Griffìths. Ar ol treulio peth amser yn Glandwr, symudodd i Athrofa Croesoswallt, dan olygiad yr enwog Dr. Williams. Cymmaint oedd ei syched am wybodaeth, fel y daeth yn fuan yn adnabyddus â'rieithoedd Hebraeg, Groeg, a'r Lladinaeg. Ar- ferai, yn mhen blynyddau ar ol ym- adael a'r Athrofa, gyfeillachu â rhai o'i hen gyfeillion trwy lythyrau yn y Groeg a'r Lladin, fel na byddai i ffrwyth ei lafur boreuol gaet ei golli. Pan ymadawodd Mr. Davies â'r Athrofa, cymmerodd daith trwy sir Fynwy, heb wybod fod gan Ben yr eglwys naw-a-deugain o flynyddoedd iddo weithio yn y cwr hwnw o'r dywysogaeth. Pan ddaeth i Han- over, sylwyd yn fuan ar ei agwedd synil, ac ar ei dduli trefnus ac ar- dderchog yn pregethu'r efengyl. Wedi derbyn galwad unfrydig oddi- wrth yr eglwys idd ei llywodraethu yn yr Arglwydd, aeth atynt yn mis Ebrill, 1789, ac yn mis Hydref, yn yr un flwyddyn, neillduwyd ef i waith pwysig y weinidogaeth. Y gweinidogion presennol ar yr achly- sur oeddynt y Parchedigion Lloyd, Brynberian, (hen weinidog Mr. D.;) Grifiìths, Glandwr; Griffiths, Aber- gaveni; Bowen, Maes-yr-Onnen; Evans, Drewen ; Thomas, Penymainj a'r hen brofFwyd Cymreig, sef Jones, o'r Tranch, ger Pontypool. Yn mhen ychydig amser, priododd Mr. Davies â Miss Harries, merch y diweddar Barch. Mr. Harries, Pwll- heli; cawsant naw o blant, wyth o ba rai a ymostyngasant yn foreu i gymmeryd arnynt iau Crist; neill- duwyd dau o honynt i waith y wein- idogaeth, un o ba rai a aeth flynyddau o flaen ei dad oddiwrth ei waith at ei wobr, a'r llall (y Parch. T. Davies) sydd yn bresennol yn weinidog yr eglwys gynnulleidfaol yn Ludlow, sir Amwythig. Anhawdd gweled un dyn yn llanw pob cylch mor gyf- lawn â Mr. Davies. Fel dyn, yn ei berthynas â'i deulu a'r ardal, yr oedd yn briod sirioi a hawddgar, yn dad tyner a gofalus, yn gymmydog a gerid ac a berchid yn fawr gan bawb; Uanwai ei le yn mhalasau y mawrion ac yn anneddau y tlodion, heb gymylu ei swydd fel gwas yr Arglwydd; byddai bob amser yn ymhyfrydu gwneyd daioni i'w gym- mydogion: yr oedd yn deall y gyf- raith wladol yn dda, fel y cadwodd lawer gwr penwan rhag gosod ei arian yn llogell y cyfreithiwr; yr oedd yn hanesydd rhagorol, fel yr oedd ei gyfeillach bob amser yn fuddiol ac adeiladol; ac yn feddyg 30