Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 60.] GORPHENAF, 1840. [Cyf. V. HOMER. Homeu gyfrifir yr enwocaf o'rpryd- yddion Cenedlig, a'r hynafo'rysgrif- enwyr cyfí'redin. Yr oes yn yr hon y blodeuodd nid yw gwbl hysbys. Gesyd rhai ef tua 168 mlynedd ar ol rhyfel Troia; tra mae ereill yn ei gyfrif tua 168 mlynedd cyn sylfaen- iad Rhufain ; tyb arall fabwysir yw iddo flodeuo C. C. 968; neu 884 yn ol Herodotus, yr hwn dybiai ei fod yn gyfoeswr â Hesiod; eithr y tyb- iant cyffredinaf a thebycaf i'r gwir yw iddef flodeuo C. C. 1000, neu 1100. Y raae yr amrywiaeth hwn raewn barn yn profi hynafiaeth Ho- mer; ac y raae yr un annilysdeb hefyd yn hanfodi o barth lle ei en- edigaeth. Nid llai nâ saith dinas glodfawr hawlient yr anrhydedd o roddi genedigaeth i benaeth pryd- yddion, sef Smyrna. Chios, Colophon, Salamis, Rhodes, Argos, ac Athen, at ba rai gallid chwanegu Pylos, ac Ithaca. Gelwid ef Melesigenes, her- wydd y tybid iddef gael ei eni ar gy- ffiniau yr afon Meles. Mceonides oedd gyfenw arall roddid iddef, her- wydd, yn raarn rhai, iddef gael ei eni yn Moeonia, neu o blegid mai enw ei dad oedd Mceo. Dywedir iddef, yu y rhan olaf o'i fywyd, sefydlu ysgol yn Chios; ac achiesir y tyb hwn gan drigolion presennol yr ynys, y rhai, mewn yraff'rost a ddangosant i ddy- eithriaid y meinciau lle yr eisteddai yr athraw hybarch a'i efrydyddion, raewn ceudod craig, yn nghylch pedair milldir oddiwrth brif ddinas ddiweddar yr ynys. Ni symudwyd yr anhawsderau hyn, er i AristoÜe, Herodotus, Plutarch, ac ereill, gym- meryd eu hysgrifellau yn eu dwylaw i ysgrifenu hanes ei fywyd. Yn ei ddwy bryddest odidog, a elwir yr Iliad, a'r Odyssea,* dan- gosodd Homer yr wybodaeth ber- fi'eithiaf o'r natur ddynol; ac anfarw- olodd ei hun trwy ardduniant, tân, melusder, a thlysni ei brydyddiaeth. Teilynga fwy rhyfeddod byth pan ystyriom iddo ef gyfansoddi heb un- rhyw gynllun o'i flaen, amgen ei grebwyll \ a'i ddarfelyddf ei hun, ac nad allodd neb o'i efelychwyr prydyddol ragori ar, neu efallai, gys- tadlu â'u hathratf clodforus. Od oes rhyw feiau i'w canfod yn ei brydydd- iaejh, y maent idd eu priodoli i'r oes yn yr hon yr oedd yn byw, yn hyt- rach nag iddef ei hun; a dylid sylwi bod y byd yn ddyledus i Homer am Virgil, ei ganlyniedydd ffodus. Yn yr Iliad darlunia y prydydd ddigter Achiles, yn nghyd a'r canlyniadau angeuol a ddygwyddasant i'r Groeg- iaid am i'r arwr wrthod ymddangos ar faes y rhyfel o fláen rauriau Troia; * Pam y gelwir y gerdd hon yn Odyssey mewn llawer ysgrif Gymreig,nisgwn, oddi- eithr fod y çyfryw ysgrifenwyr yn barnu mai dull y Seison ddylid ganlyn yn mhob peth, ac mai ySeisonaeg y\v perffeithrwydd yr ieithoedd! Yr enwa roddodd ei hawdwr iddi oedd OSv<r<rtia; a.diau mai gwirach fyddai i'r Cymro ei efelychu, yn hytrach nâ dynwared y Seison yn eu hafreoledd. t Inventio?i. t Imagination. 26