Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f /Y /l/ f/rt^e <=/ Rhif 57.] Y DIWYGIWR. 'ì EBRILL, 1840. [Cyf. V. COFIANT THOMAS JONES, BANK, LLANSAWEL. Diamheu fod enwau llawer yn cael eu codi i du-dalenau hanesyddiaeth er trosglwyddo eu coffadwriaeth i'r oesau dyfbdol, nad oedd yn eu bywydau ddim braidd yn werth i grybwyll am dano. Y peth hynotaf yn un oedd ei fod yn berchen llawer o aur ac arian, ond etto heb eu defnyddio i wneyd fawr o ddaioni yn ei fywyd. Y peth neillduol oedd yn addurno y lla.Il oedd ei ddysgeidiaeth, er na ddarfu yr oes yn mha un yr oedd yn byw, ennill fawr trwyddi. Y prif beth gododd y trydydd i sylw, oedd ei fedr i drin arf- au, a'i wroldeb i arwain byddinoedd i faes y gwaed. Ond er na feddai y brawd uchod un o'r pethau yma, etto yr oedd yn berchen yr hyn sy'n tra-ragori arnynt oll, sef gwir grefydd. Bu yn aelod yn Abergor- lech am yn agos i 12 mlynedd, ac yn yr yspaid hwnw cadwodd ei ddillad heb eu halogi, llafuriodd yn ddiwyd yn ngwinllan ei Arglwydd; yr oedd ei fywyd yn canmol y grefydd a broffesai; cyflawnodd ei ddyled- swyddau yn y modd mwyaf diflin, ac yn awr yr ydym yn hyderus gredu ei fod yn mwynhau ei wobrau yn gyf- lawn yn ngwlad y purdeb tragywy- ddol—yr oedd ynddo lawer o bethau teilwng iawn i grefyddwyr ac ereill i'w efelychu. 1. Nid oedd byth yn cysgu yn y cwrdd. Er mai corff afiach oedd ganddo, ac fel gweithiwr yn gorfod codi yn foreu a dilyn yn hwyr, etto, yr oedd bob amser yn wrandawr astud ac effro yn nhŷ yr Arglwydd. Mae yn drwm meddwl am lawer, byddai delwau o goed a cheryg yn rhoi cymmaint o addoliad i Dduw, ag maent hwythau yn roi. Mae achos i ofni bydd rhai yn edifarhau pan fyddo hi yn rhy ddiweddar—rhai anmharod i wynebu barn yw cysg- aduriaid yn nhý Dduw. 2. Yr oedd ynddo ymdrech mawr am wybodaeth. Ychydig o fanteis- ion a fwynhaodd yn ei ieuenctyd, trwy yr Ysgol Sabbothol yn unig yr oedd wedi dod i ddarllen, ond yr oedd wedi ymdrechu cymmaint fel yr oedd yn gymhwys i ddysgu ereill. Yr oedd ynddo lafur mawr i ddeall y Bibl, yr oedd yn meddu golygiadau goleu a chysson ar athrawiaethau yr efengyl, yr oedd ei gynnydd yn eglur i bawb, i'e, yn syndod i bawb a'i hedwaenai. Mae dynion yn yr eg- Iwysi yr un faint eu gwybodaeth o un deg mlynedd i'r llall—ond nid un o'r rhai hyn oedd ef. 3. Yr oedd yn ostyngedig, hunan- ymwadol, a thangnefeddus iawn. Mae'r dyn balch a f'o yn ymofyn ei weled bob amser, yn derfysglyd, oble- gid y mae yn tramgwyddo ac yn ffromi eisiau na byddai pawb yn dyfod ac addoli ger ei fron ef, na byddai'rbyd yn aberthu ar ei allor ef, mae ef â'i law yn ^rbyn pawb, a phawb â'u llaw yn ei erbyn yntau. Ond nid amcan ein brawd oedd cael ei weled gan ddynion, nid oedd byth yn ym- 14