Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif» 56.] MAWRTH, 1840. [Cyf. V. COFIANT ANNE PHILLIPS, WAUNHELYGEN. " Ac mi a glywais lef o'r nef yn dywedyd wrthyf, Ysgrifena, Gwyn eu byd y meirw y rhat sy'n marw yn yr Arglwydd o hyn allan, medd yr Ysbryd, fel y gorphwysont oddiwrth eu llafur, a'u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt" Mae cofiant rhagorolion y ddaear yn tu- eddu yn fawr i beraroglu y byd, i buro ar- chwaeth darllenwyr, i feithrin duwiolfryd- edd yn mynwes bywiolion, ac i ennyn taerineb mewn gweddi, ar fod Arglwydd mawr y cynhauaf yn codi ereill i lanw gwagleoedd y rhai a syrthiasant i diriog- aeth angeu. Ysgrifenir y llinellau canlynol er cof am Anne, merch John Phillips, o Waunhe- lygen, yr hwn sydd ddiacon yn Eglwys CristynNgharmel, Rendle." Ei rhieni.sef, Catherine a John Phillips, ydynt yn gwas- anaethu Arglwydd Dduw Israel, a chawsant y fraint o weled Anne, gwrthddrych y Cofiant hwn, ynghyd ag ereill o'u plant sydd yn awr yn fyw, yn moreuddydd eu hieuenctyd yn canlyn Crist. Ond Anne a adawodd fyd o gystudd a gofid, ac a ddi- angodd i drigfànau dedwyddwch a gogon- iant ar yr 1 leg o Ionawr, 1840, yn y nawfed flwydd ar hugain o'i hoedran. Cafodd fyned i ddechreu Sabboth tragywyddol gyda Duw a'r Oen, ac ni wel un dydd Llun o alar na chystudd, na phoen mwyach. Derbyniwyd hi yn aelod o Eglwys Crist yn Ngharmel, Kendle, gan y diweddar Barch. S. Evans, o Soar, cyn cyrhaedd yr ugeinfed flwyddyn o'i hoedran. Bu yn aelodhardd oddeutu un mlyneddarddegyn ngwinllan Mab Duw; glynodd yn ei phro- ffes hyd angeu, er nad oedd ond gwanaidd ac aflach o ran ei phabell briddlyd, ac mewn nychdod yn fynych, etto byddai yn ffyddlon yn moddion gras, diwyd a selog y cyrchai i gyssegr Duw, ac nid yn ofer y bu ei llafur yn yr Arglwydd. Pan yn ei chystudd di- weddaf, ac arwyddion prysur o ddadfeiliad y tý o bridd gerllaw, tawel ymostyngai tan alluog law ei Thad nefol, " Crist yn bob peth" oedd ei phrif destun. Pan yr ym- welais â hi y tro diweddaf ar y ddaear hon, cyn i'w henaid ymadael i'r breswylfa dawel, dilyn ei thestun yr oedd Annb, gan ddy- wedyd, " Mae Ef yn ddigon, y mae yn abl i gadw yr hyn a roddir ato," â'i llais gwan- aidd hyd y parhaodd a ddyrchafodd ddigon- olrwydd y Ceidwad bendigaid, ac yna, hun- odd yn yr Iesu. Ar ddydd ei chladdedigaeth ymgasglodd tyrfa luosog î wneyd y gym- wynas ddiweddaf â'u hanwyl chwaer. Yn nhŷ ei thad, cyn codi y corff, dechreuwyd y gwaith santaidd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. Stephenson, o Rehoboth, pregethoddy Parch. Pritchard, Hermon, (Bedyddiwr) oddiar 2 Tim. 4, 7, 8, sef testun a roddwyd iddo ar yr achlysur. Ar ol gosod y corff ar yr elor, canwyd pennfll, a chych- wynwyd â'i rhan farwol tua Charmel. Cyn rhoddi ei chorff yn y dystaw fedd i orwedd, cyflawnwyd y gwasanaeth yn y tý cwrdd, trwy ddarllen a gweddio, gan y Parch. J. Edwards, (Bedyddiwr), a phregethwyd gan ysgrifenydd y Cofiant hwn oddiar Col. 3, 11, sef, " Crist yn bob peth, ac yn mhob peth," ac yna aw'd â'r corff tua'r pentwr i orwedd, hyd foreu mawr udganiad yr udgorn di- weddaf, "Gwerthfawr yn ngolwg yr Argl- wydd, yw marwolaeth ei saint ef." Yn awr, cyn terfyuu y Cofiant hwn dywedaf,yn— 1. Wrthych chwi, Rieni. Mae genych achos mawr i fod yn ddiolchgar i Dad y trugareddau eich bod yn y mesur Ueiaf wedi cael arwydd fod eich anwyl blentyn yn gadael byd y cystudd mawr, ac yn myned i deyrnasu gyda Christ mewn gogoniant, ni chewch glywed un newydd drwg am dani hi, i beri i'ch penwyni syrthio i fro dys- tawrwydd mewn tristwch—"Angeu a lync- wyd mewn buddugoliaeth." Byddedyrun 10