Skip to main content

Rhif 55.] Y DIWYGIWR. CHWEFROR, 1840. [Cyf. V. PREGETH ODDIWRTH 1 COR. XVI, 22, " Od oes neb nid yw yn earu yr Arglwydd Iesu Grist, bydded Anathema, Maranatha." Paul, yn mhob rhan o'i ysgrifeniadau, a ddangosai yr anghenrheidrwydd o gariad, a'i ragoroldeb ar holl rasusau y Cristion ; ac yn yr Epistol hwn, inewn modd neiîlduol, y mae yn gosod allan ei rinwedduu, ac yn dywedyd ei fod " yn hirymarhous, yn gym- wynasgar," &c; ac yn yr adnod dan sylw, y mae yn dangos sefyllfa druenus y rhai sydd yn amddifad o hono tuag at wrth- ddrych mor ogoneddus ac mor deilwng â Christ; ac yn eglur gyhoeddi y ddedryd uwch eu penau, os felly y bydd iddynt bar- hau,—u Bydded Anathema, Maranatha:" h. y. yn ysgymunedig neu yn felldigedig, a'u diarddel oddiwrth ganlynwyr Crist os buasai eu gwrthgiliad yn weledig yn eu hymddygiad. Mae Maranatha, yn yr iaith Syriaeg, yn arwyddo dyfodiad yr Arglwydd, —byddent felly hyd neu ar ddyfodiad yr Arglwydd, os heb gariad at Grist y parhant i fyw yn y byd. Ond i'r dyben i ddangos yr anghenrheidrwydd o feddiannu yr egwy- ddor hon, ni a sylwn arno yn y modd can- lynol:— I. Teilyngdod Crist i gael ei garu. II. Natur y cariad y mae yn ei geisio. III. Tystiolaeth neu brawfycariad hwn. IV. Y canlyniadau dychrynllyd o fod yn amddifad o hono. I. Teilyngdod Crist i gael ei garu. Hyn a ymddengys, yn— 1. 08 ystyriwn yr hyn ydyw ynddo ei hun, ac os ystyriwn ei fawredd a'i ogoniant: Llywodraethwr doeth y bydoedd, Ffynnon dedwyddwch yr holl fydysawd, Rhoddwr ein holl gysuron, Awdwr natur ag sydd yn ein ffrwytho â bendithion; a thystiolaeth Paol ei hun y w, ei " fod yn ddysgleirdeb ei ogoniant ef, ac yn wir lun ei berson ef, ÿn eynnal pob peth drwy air ei nerth;" pwy ynte, all uttal cariad i un mor ogoneddus â Christ? 2. Os ystyriwn yr hyn a wnaeth fel Cyf- ryngwr rhwng Duw a dynion. Y gwaith a gyflawnodd sydd un o'r pethau rhyfeddaf a gymmerodd le, (a'r a wyddom ni,) o fewn i greadigaeth Duw. Amryw ydoedd yr ar- wyddion a gymmerasant le yn Methlehem a'i chylchoedd pan y daeth cyflawnder yr amser i Grist i ymddangos yn y byd—cen- adau a anfonwyd o'r drydedd nef i fynegu ei enedigaeth i fugeiliaid, er dangos nad ydoedd ei deyrnas i fod o'r byd hwn ; u holl amgylchiadau ei fywyd a brofasant yr un gwirionedd. Ei holl nerthol weithred- oedd, a'r gwyrthiau a wnaeth, ynghyd â'r erlidigaethau a'r dyoddefiadau a fu danynt, oeddynt ag uchel lais yn tystio mai cariad anghymharol tuag at fyd o golledigion a'i cymhellodd i ddyoddef y pethau hyn; a pha beth yn fyr o hyn a allasai ei wueu- thur yn foddlon i ddyoddef y gwawd, y poeredd,a'rcernodiaua gafodd ynei fywyd; ac i fod mor isel, fel nad oedd ganddo le i roddi eiben ilawr? acmor rhyfedd oedd ei galedi, fel ag yr oedd yn chwysu megys defnynau o waed ! ac ar fynydd Calfaria crochwaeddodd, u FyNuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist?" Ac O ! ddyfnder y cariad a'i cymhellodd i waeddi allan, " Gorphen- wyd.'* Pwy galon mor galed, yute, na ddywed ei fod yn deilwng, yn ngwyneb y pethau hyn, o'n cariad gwresocaf, a'n hyfudd-dod gostyngeiddiaf, i reolau mor rhesymol â'i efengyl Ef? 3. Ei deilyngdod a ymddengys, os ystyr- iwn yr hyn a addawodd ei wneuthur i'w eiddo. Aml a gwerthfawr ydyw addewid- ion yr efengyl:—Oni addawodd Crist i roddi i'w ganlvnwyr ei dangnefedd, ei Ys-