Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif, 54.] IONAWR, 1840. [Cyf. V. COFIANT MR. SIMON EVANS, PENYGROES. " Gwell yw enw da nagenaint gwerthfawr." Mae hanes buchedd y duwiol yn llesiol i'r rhai a ddeuant ar ei ol : rhydd addysg, gwroldeb, a chysur i'r rhai a^bhw.ennychant gyrhaedd yr orphwysfa sydd yn ol i bobl Dduw. Hyn a'm cymhellodd i anfon atoch ychydig o hanes un a fu yn fFyddlon yn y winllan am fwy nâ hanner can mlynedd, sef Simon Evans, Dytí'- ryn-mawr, Eglwyswen, Dyfed. Simon a anwyd yn y flwyddyn 1764, yn y Dyffryn, líe y treuliodd ei oes i gyd- Ei dad, Dafydd, ydoedd aelod gyda'r Presbyteriaid, yn Llech- ryd, ac yr oedd yn pregethu yn eu plith; ei fam, Mary, ydoedd aelod gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Capel-Newydd. Fe gafodd Simon addysgiadau crefyddol gan ei rieni, ac ychydig o fanteision dysgeidiaeth. Teimlai ar amserau ry w anesmwyth- der yn nghylch ei enaid, nes addun- edu troi at Dduw a1i bobl, ond ym- laddodd yn erbyn argyhoeddiadau hyd onid oedd yn 20ain mlwydd oed ; y pryd hyny ymunodd â'r eglwys Annibynol yn Nglandwr, pan dan ofal gweinidogaethol yr hybarch John Griffiths, tad y diweddar Barch. William Griffiths. Yr.oedd cym- deithas o bobl grefyddol,/el cangen o eglwys Glandwr, yn cynnal modd- ion yn Mhenygroes, ond ni byddid yn derbyn aelodau nac yn trin dys- gyblaeth yno y pryd hyny ; ond pan osodwyd pethau i fynu mewn trefn yno, glynodd y trengedig wrth y gymdeithas fechan hòno, a bu yn ddefnyddiol iawn ynddi trwy holl ystod ei fywyd, mewn pethau tym- horol ac ysbrydol. Tua'r fi. 1790, cymhellwyd ef gan yr eglwys a'r gweinidog i arfer ei ddawn i breg- ethu, à hyn y cydsyniodd, ac yn hyn y parhaodd hyd o fewn pum wythnos i'w farwolaeth ; yr oedd yn barchus a derbyniol iawn fel pregethwr yn mhlith ei frodyr a'i gymmydogion oddeutu gartref. Ni flinwyd eí' erioed gan awydd myned oddigartref i bregethu, ac nid wyf yn tybied iddo anfon ei gyhoeddiad i un man, drwy hyd ei oes, ond elai wrth ei gymhell, os deallai y byddai rhyw fan mewn angen am bregethwr; llanwodd lawer o fylchau fel hyn yn mhell ac agos. Yn y fl. 1802, ymunodd mewn priodas ag Elizabeth, unig ferch Mr. Wm. Griffiths, Gilfach-ddofn, Llan- dysilio; yr hon, wedi bod yn ymgel- edd gymhwys iddo am 37ain o flyn- yddoedd, sydd yn awr yn weddw alarus, yn hiraethu ar ol ei phriod serchiadol a thyner. Ni bu un plen- tyn iddynt. Mae ei hamgylchiadau tymhorol hi yn gyfleus, a byddai yn hoff ganddi weled cenadon hedd yn galw heibio fel o'r blaen. Nid y w drws y Dyffryn etto wedi ei gau, a gobeithiaf na chaiff ei gau yn erbyn pobl ac achos yr Arglwydd byth, ac natheflir arch Duw dros y drws, pwy bynag fyddo yno yn cyfanneddu— parhaed yr annedd yn fan cyssegr- edig i Arglwydd Dduw y lluoedd. O ran ei olÿgiadau arbynciau syl-