Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 41.] RHAGFYR, 1838. [Cyf. III. COFIANT YR ENWOG JONATHAN EDWARDS, Arhjwijdd Prif Ysyol Jersey Newydd, Connecticnt, America. Mae yr enwogEüWARDS o America, drwy ei ragoroldeb fel Cristion ac fel Duwinydd, wedi ennili iddo ei hun enw nad anghofir yn ddiau tra y pery parch a sylw i gael eu dangos gan Gristionogion, i'r rhai sydd yn eu teilyngu. Llawer yn ddiau o ddarllenwyr y Diwygiwh aglywsant ei enw yn cael ei grybwyll, etto, efallai nad oes ganddynt fawr hys- bysrwydd yn ei gylch. Felly, gan hyderu y bydd darlleniad o'i hanes yn ateb rhyw ddyben Uesiol, cyfieith- wyd a ganlyn allan o'i Fywgraflìad gan ei fab, o'r un enw ag ef ei hun ; yr hwn hefyd a lanwodd yr unrhyw swydd oruchel mewn dysgeidiaeth. Mr. Jonathan Edwards, a an- wyd Hydref 5ed, 1703, oedd fab i'r Parch. Timothy Edwards, gweinidog yr efengyl o'r tu dwyreiniol i'r afon Connecticut, Windsor, yn Nhalaeth Connecticut, un o Daleithiau Cyf- unol America. Dechreuodd ei dad breswylio aphregethu yn Windsor yn •ais Tach., 1694; cafodd ei ordeinio yno Gorph. 1698; a bu farw Ion.27, 1758, yn 89 mlwydd oed, nid dau fis 0 flaen ei fab, gwrthddrych y cofiant hwn. Efe a berchid yn gyffredinol fel dyn cyfiawn a duwiolfrydus, teil- wng o efelychiad yn ei ymddygiadau, ac fel gweinidog ffyddlon ) r efengyl. Ganwyd ef yn Hartford, yn y Da- laeth uchod, Mai 14, 1669. Cafodd ei anrhydeddu gan brif ýsgol Caer- grawnt, Lloegr Newydd, drwy gael y graddau o Wyryf ac Athraw y Celfyddydau, yn yr un dydd, un y boreu a'r llall y prydnawn, y 4ydd o Orphenaf, 1694. Ar y 6fed o Dachwedd, 1694, efe a briodwyd â Meistresan Esther Stoddard, merch y Parchedig a'r enwog Solomon Stoddard o Northampton ; galluoedd mawrion a brwdfrydedd yrhwn dros grefydd brofiadol, sydd adnabyddus yn yr holl eglwysi yn America drwy ei ysgrifeniadau gwerthfawr. Buont yn cydfyw yn y sefyllfa briodasol dros 63 o flynyddau ; bu iddynt un- arddeg o blant, y rhai a fuant byw oll i oedran teg, sef deg o ferched ac un mab, ychydig o hanes yr hwn a ganlyn:— Mr. Jonathan Edwards a aeth i brif ysgol Yale, yn y flwyddyn 1716, yn 13eg oed, ac a dderbyniodd y radd o A. B. yn 1720. Cafodd ỳ cymmeriad o ddyn ieuanc sobr ac ysgolhaig da tra yn yr ysgol uchod. Yn yr ail flwyddyn o'i ysgol, darllen- odd Locke ar y " Deall Dynol" gyda llawer o bleser a llesiant. Ei athry- lith rhagorol, yn yr hon yr oedd í'el wedi ei naturiol gyfansoddi at fanyl- dra meddwl a dwfn dreiddiad, a ddechreuodd yn awr weithredu ac ymddangos. Er iddo wneuthur cyr- haeddiad da yn yr holl wyddorion a'r celfyddydau, etto athroniaeth foesol oedd ei hoffus fyfyriaeth. Yn foreu yn hon efe a wnaeth flaen-fynediad mawr. Wedi iddo ef gymmeryd ei raddio gyntaf, efe a arosodd yn yr ysgol agos 46