Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 40.] TACHWEDD, 1&38. [Cyf. III. C O F I A N T J O H N R I C H A R D, GWERNO, PLWYF BEDWAS, SIR PYNWIf. Ganwyd gwrthddrych y cofiant hwn yn Blaen-gwawr, plwyf Eglwys Uan, sir Forganwg, yn mis Mawrth, 1774. Ei rieni ef oeddent ill dau yn ddigre- fydd, a thrwy hyny ni chafodd ef ddim manteision addysgiadau cre- fyddol pan yn blentyn, yr hyn yn ddiddadl sydd yn golled fawr i blant; ac ni chafodd fanteision dysg ych- waith, o herwydd dibrisdod ei rieni ef, (fel yr oedd rhieni yn gyffredin yn y dyddiau hyny,) yr hyn a fu yn anfantais fawr iddo trwy hŷd ei oes. Fe dreuliodd y rhan foreuol o'i fywyd heb ymarfer gwrando yr efengyl ond yn anaml, hyd nes y daeth y Parch. G. Hughes yn weinidog i'r Groes- wen, yn llawn o dân a zel i gyd, nes tỳnu sylw yrholl ardal oddiamgylch, ac yn mhlith ereill fe aeth John yno i wrando y pregethwr newydd ; ac ni fu y gair a bregethwyd yn oíer iddo, oblegid yn y gauaf canlynol efe a ymunodd ag eglwys Crist yn y Groeswcn, sef yn y flwyddyn 1797, ac ohyny hyd ddiwedd ei oes, fe rod- i°dd yn ddiargyhoedd, fel na chafodd eglwys Crist un gofid oddiwrtho erioed. Yn y flwyddyn 1802, ymun- °dd mewn priodas â Mary, merch rhonias aMary Lewis, o blwyf Llan- •abon; yr oedd hi ae yntau yn ael- odau o'r un gymdeithas grefyddol. Mae Mary yn awr yn weddw alarus *r ei ol. Hwy a aethant i fyw Mredi nJ'ny i Gwm-yr-Aber, i gadw tyddyn 0 dir, ac a fuont yno am dair-ar-ddeg 0 flynyddoedd; ac yn y flwyddyn 1815, symudasant oddiyno i Gwerno, yn mhen uchaf plwyf Bedwas, lle nad oedd ond ychydig o bregethu Crist, gan weinidogion yr Anymddibynwyr, cyn iddynt hwy i ddyfod i fyw yno; a buont yn cyrchu oddiyno i'r Groes- wen, ond byddent yn gwrando ynaml gyda'r Methodistiad yn yr ystod, hyd nes adeiladu Tabor, yn yflwydd- yn 1829, yna hwy a'u píant a wran- dawent, ac a ddilynent yr ysgol Sab- bothol, yn. Tabor, Ue y darfu iddynt aelodu eu hunain, ac urddwyd ef yn swyddog yn y lle. Fe fwynhaodd John iechyd lled dda dros y rhan fwyaf o'i oes, nes oedd ei yrfa yn tỳnu tua therfyn, pan y dyoddefodd boen dirfawr yn ei glin dros dair blynedd ; ond gwellhaodd oddiwrth y peth hynj', a mwynhaodd iechyd gwych hyd o fewn i chwech mis cyn ei farwolaeth, pryd y dyoddefodd gystuddtrwm, gydag amynedd mawr, yn y clefyd a elwir y Dyfrglwyf, (Dropsy,) ac er i feddygon medrus wneyd eu goreu, methwyd ag arbed ei fywyd. Ar y 5ed o fis Hydref, 1837, bu farw, yn agos i 63ain oed, gwedi treulio deugain mlynedd gyda chrefydd mab Duw. Gadawodd wraig ac wyth o blant i alaru ar ei ol; ac nid oes ond un o'r plant yn pro- ffesu bod yn ddysgybl i fab Duw ; ond gobeithio fod yr amser bron gwawrio, ag y deuant oll i ymofyn am Dduw eu tad. Ar ddydd ei angladd fe ymgasgl- odd tyrfa liosog ynghyd o'i gymmyd- 42