Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif 39.] HYDREF, 1838. [Cyf. III. B Y R - G O F I A N T A M I O A N M I L T O N. MiLTON—icith high and haughty stalhs, Unfetter'd, in majestic nunibers walhs : No imlgar hero can his muse engage. See! See! he upicard springs, and, tow'ring high Spurns the dull province of mortality; Shakes heav'n's eternal throne with dire aìarms, And sets th' Almighty Thunderer in arms ! --------- Addisoît. Nid oes un enw yn hanesion ein gwlad yn anwylach i wladgarwch, rhyddid, athrylith, a phrydyddiaeth gyssegredig, nâ'r eiddo Milton. Dilys yw fod dynion o'i fath ef yn cael eu defnyddio gan Dduw er lles- iant a bendith i ddynolryw; er alltudio gormes a gorthrwm o'r byd ; ac er adferyd eu breiniau a'u defion i gre- aduriaid moesol. Yn ymwybodol o hyn, cymmerais mewn llaw y gorch- wyl o gasglu y Byr-gofiant canlynol am un a ymdrechodd, osyd, fwy nâ neb mewn unrhyw oes, dros egwy- ddorion diwygiad a daioni cyífredinol. Ioan Milton a anwyd yn Llun- (1ain, yn y flwyddyn 1608; ei rieni, loan a Sarah Milton,* oeddynt yn oyw mewn sefyllfa gyfrifolac anrhyd- eddus; bu iddynt dri o blant, o ba rai gwrthddrych ein cofiant oedd yr hynaf. Anwyl-ddyn ei dad oedd |oan; yr hwn wrth ganfod ei gyn- "eddfau cryfion, a'i gyrhaeddiadau §°didog, a geisiodd athraw teuluaidd 1(M ei addysgu ; i'r hwn, am ei ofal a' gymhwysder neillduol fel athraw, yr efrydydd ieuanc a gânodd gerdd ljadinaidd ragorol mewn ífordd o ^iimoliaeth. Yn ei egwyddoriad, (l)wedir ei fod yn dilyn ei lyfrau Hanai ei fam o deulu Cymreig. gyda'r fath ddiwydrwydd 'diflin, fel mai anfynych y ceid ganddo adael ei fyfyrdodau cyn hanner nos; yr hyn nid yn unig a'i gwnaeth yn ddaros- tyngedig yn fynych i ddolur pen gerwin, eithr hefyd a achlysurodd y fath wendid yn ei lygaid, yr hyn a derfynodd mewn hollol ymddifadiad o'i olwg. O addysgiad teuluaidd, symudwyd ef i ysgol St. Faul i orphen ei adnabyddiaeth â'r awduron dysg- edig, dan olygiaeth un Dr. Gill; ac yn fuan wedi hyny, pan nad oedd etto ond pymtheg oed, anfonwyd ef i Goleg Crist yn Nghaergrawnt, lle yr hynododd ei hun yn fawr yn mhob cangen o ddysgeidiaeth a berthynai i'r cyfryw Goleg. Parhaodd yn y sefyllfa hon hyd y flwyddyn 1631, pryd, gan adael y brif-ysgol, y dych- welodd at ei dad, pa un oedd yn byw yr amser hwnw ynHorton, ynswydd Buckingham, yn yr hwn le y par- haodd gyda ei fyfyrdodau gyda dyfalwch a llwyddiant anarferol. Ymddengys raai aracan ei riaint ar y cyntafoedd ei ddwyn i fynu i'r wein- idogaeth .yn yr Eglwys Sefydledig; eithr yr oedd ef er yn ieuanc yn hollol ffieiddio pobmatho sefydliadgwládol o grefydd, fel y dangosodd yn amlwg yn ei ysgrifeniadau lliosog wedi hyny. Gwedi treulio rliai blynyddau yn 38