Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 38.] MEDI, 1838. [Cyf. III. COFIANT MRS. JANE REES, TREWYDDEL. Jane Rees ydoedd ddiweddar wraig y Parch. Ll. Rees, Trewyddel, sir Benfro, a merch i Thomas a Mar- garet Phillips, Cwmconell; ei rhieni oeddynt yn byw mewn fferm fawr, mewn amgylchiadau bydol da. Yr ydoedd Jane yn un o bedwar o blant—hi a gafodd gymmaint o ddysgeidiaeth ar lyfr a'i galluogodd i fedru ddarllen yn bur dda, yr hyn oedd yn lled anaml yn y dyddiau hyny yn Nghymru. Arferai ei rhieni a'u plant fyned i wrando yr efengyl i Bethel, Addoldy yr Anymddibynwyr yn mhentref Trewyddel, tan weinid- ogaeth y diweddar Barch. T. Phillips. Gwnaeth moddion gras, tan fendith Duw, ddwys argraffar feddyliau Jane jn ei hieuenctyd, modd y tuedd- wyd a nerthwyd hi yn moreu-ddydd ei hoes i ymgyfammodi à'r Arglwydd ac â'i bobl, yn yr addoldy crybwyll- edig; cymmerodd hyn le mewn am- ser hyfrydlawn iawn ar eglwys Dduw yn y lle, pan oedd yno ddiwygiad nerthol^ a helaeth iawn ar grefydd, Nais cân a moliant yn adseinio y ^yffryn a'r ardal, unodd hithau â'r 'iuaws dysgyblion i gyd-foliannu y Arglwydd, gan ddywedyd, "Ho- sanah i Fab Dafydd." Dechreuodd «Une broffesu Crist yn gyhoeddus Pan oedd tua dwy-ar-hugain oed; a P»an oedd wedi cyrhaeddyd tua saith ^■hugain oed, ymunodd mewn pri- ^as â'r dywededig Ll. Rees, yr hwn yud yn bresennol yn dra hiraethlon ; glarus o'i golled fawr o un ag °m yn « amgeledd cymhwys iddo." Parhaodd yr undeb priodasol hwn tua deunaw mlynedd-ar-hugain— ffurfiwyd ef yn ol dymuniadau a serchiadau naturiol, a pharhaodd yr undeb cariadus a thangnefeddns hyd pan gwahanodd angeu hwy. Dech- reuodd Jane Rees glafychu o'r cys- tudd a ddygodd ymaith ei 4>y wyd, er ys tua blwyddyn yn ol. Boreu Sab- both wrth fyned i'r addoliad, gwlych- odd yn ddirfawr yn y gwlaw oedd yn ymdywallt o'r nefoedd, bu yn ei dillad gwlybion dros amser yr oedfa ac nes myned adref, ni bu awr yn iach o'r dydd hwnw allan. Bu am- ryw feddygon, pell ac agos, yn rhoddi iddi eu cyffeiriau ; ond bu y cwbl yn aflwyddiannus i symud ymaith ei hafiechyd. Yn ol dyoddef hir a thrwm gystudd, gyda gradd mawr o amynedd a thawelwch y sbry d, bufarw yn esmwyth megys un yn cwympo i hun cwsg ar y 30ain o Ebrill, 1838. Ar ddydd ei chladdedigaeth ym- gasglodd tyrfa fawr o berthynasau a chyfeillion i Benywaun i wneuthur iddi y gymmwynas olaf—i'r dorf gynnulledig yno, pregethoddy Parch. Dl. Davies, Aberteifi ar destun a ddewiswyd ganddi hi flynyddau cyn . marw, sef, Job 3, 25, " Canys yr hyn a fawr ofnais a ddaeth arnaf, a'r hyn a arswydais a ddygwyddodd i mi." Gobeithir a hyderir y caiff y testun a'r bregeth ddwfn effaith yn barhaus ar feddyliau y gwranda^wyr. Yn ol codi y corff allan o'r tŷ, cychwynwyd tua'r llan tan gerdded yn araf nes cyrhaeddyd yno, a chladdwyd hi yn 34