Skip to main content

Rhif. 37.] AWST, 1S38,- ÍCyf. III. COFIANT WR. GRIFFITH HUGHES, DIWEDDAH FYFYRIWR YN ATHROFA IIACKNEY, LLUNDAIN. Parhad o'r rhifyn dìiceddaf Wedi arfer ei ddawn fel yma dros dro, penderfynodd fyned i rywfan i gael rhagor o fanteision dysgeid- iaeth, yn y Classics; ac i'r dyben o weled byd, dynion, a moesau, tueddid ci feddwl i fyned i ryw gẁr o Loegr ; ac fel yr oedd dymuniad parhaus ynddo er ys amry w flynyddoedd am weled Llundain, ei gwychder, a'i manteision, penderfynodd fynedyno; ac ar y 4-ydd dydd o Fedi, 1834, cychwynodd tuag* yno, gyda llawn fwriad i gynnal ei hun mewn ysgol yno, hyd eithaf ei foddion. A chan ei fod yn myned i ddinas bell, a hollol ddyeithr iddo, yn yr hon nid oedd yn dysgwyl cyfarfod â neb a adwaenai, rhoddai y Parch. Arthur Jones, Bangor, lythyr o arweiniad iddo, at y Cymro gwiwglodus a hael- frydig hwnw, Daniel Edwards, Ysw- aìn, 13, Heol y Frenines, Cheapside, pan y cyrhaeddai ben ei daith. Mae y dyfyniad canlynol o'r llythyr cyntaf a anfonodd at ei rieni, o'r brif-ddinas, yn rhoddi hanes ei daith, a'i arosiad ynddi:— "Anwyl Rieni,—O ganol Llundain fawr ysgrifenwyf atoch, mewn gobaith i hyn eich cyfarfod yn iach, megys y mae Dwyfol Ragluniaeth wedi gofalu am danaf finnau, a'm cadw felly. Cychwynais o Pangor am hanner awr wedi wyth o'r gloch boreu Iau, cyrhaeddasom yr Amwythig erbyn saith yn yr hwyr yr un dydd a Llun- dain erbyn hanner awr wedi deg yn yr hwyr y dydd canlynol. Cefais lawer iawn obleser pan yn dyfod ar ben y cerbyd, ẅrth syllu ar freision faesydd Lloegr, a thegwch cywrein- waith lawer a welais; nis gallwn lai ná gwenu peth fêl Brytwn o ymyl creigiau Eryri lwydion eu gwedd, wrih weled ambell i faes gwenith egindew yn awr, a rhai niaesydd cyfain tan fresych i gyd. Myfyr- dodau hyfryd a gefais lawer tro wrth hasio gwychder a chyfoeth daear, trwy geisio credu mai pethau fy Nhad oeddynt, a chan hyny y cawn ddigon o fwyd hyd fy nyfod- iad i'm hoed. Weithiau, wrth sylwi ar gŷflymder y cerbyd, meddyliwn am ger- bydau Pharaoh ; bryd arall, wrtb wrando ar gŵn yn cyfarth amom yn y cerbyd, y rhai ni allent ein niweidio,—dim ond dan- gos mai cèn oeddynt,—meddyliwn os oedd- wn yn Nghrist fy mod yn ddiogel; cyfarthed cŵn uffern a fynont, na wnant ond dangos i bwy yr oeddyht yn perthyn. Dydd Sadwrn, y boreu, daethum i dŷ un Mr- Edwards, meddyg,at yr hwn yr oedd genyf lythyr oddiwrth y Parch. Arthur Jones, Bangor. Cefais y Cymro clodwiw hwn yn ddyn mor garedig a ffyddlawn, fel nad oes arnaf ofn, wrth ysgrifenu ei gymmeriad, ddweyd na all dyn caredicach fod. Dydd Llun aethum i dŷ y Parch. C Morris, yr hwn a gefais yn gyfaill caredig a groesaw- gar nodedig,—yn gymmaint felly, fel y dy- wedodd wrtbyf am gymmeryd ei dŷ ef yn rhydd i fyned a dyfod iddo fel fy ngartref; dywedodd y cawn y llyfr a fynwn a feddai ef i'w ddarllen, ac y gwnai ef ei oreu er fy naioni yn mhob ystyr! Nid oes genyf, yn nghanol y cwbl, ond codi fy Uygaid i'r man lle y cododd fy Mrawd henaf ei lygaid o'm blaen, a gwaeddi Diolch'." Am ei fynediad i'r Athrofa yn Hackney, meddyliwyf nas gellir cael ÔO