Skip to main content

Y DIẄYGIWR. Rhif. 36.] GORPHENAF, 1838. [Cyf, III. COFIANT MR. GRIFFITH HUGHES, DIWEDDAR FYFYRIWR YN ATIIROFA HACRNEY, LLUNDAIN. 'Vt\ftioOíiç ív oXtyu> £7rX)jpw(T£ ^povovç p.aicpovç. ApeffTT} yap r\v Kvpuo n ỳti\n avrov êia tovto tairtvatv.—Sap. IV, 13, 14. -Sed omnes ùna manet nox Et caleanda semel via leti.—HoB.. Lib. 1, 28. Mae cofiant dynion a ragorant naill ai mewn gwroldeb, gwybodaeth, dysg, neu gywreinrwydd, yn ddosparth o hanesiaeth ag sydd yn gyffredin yn peri difyrwch, weithiau addysg, ac yn aml adeiladaeth i'r darllenydd, oblegid y mae siampl yn addysg fywiol, yn ngoleuni yr hon yr amlwg-welir rhin- weddau a cholliadau y bywyd dynol. A phan y mae drwg a da, gwirionedd a chyfeiliornad, a rhinwedd a bai, yn cael eu gosod o'u blaen, y mae rhe- swm, cydwybod, ac ysgrythyr yn cyd-alw arnom i ddewis y da ac ym- wrtìiod ar drwg. Ac os yw gwrol orchestion rhyfelwyr, clodfawr gyn- Huniau gwladeiddwyr,* a mawrion anturiaethau tir a môr-deithwyr, yn werth eu coffadwriaethu, llawer mwy y teilynga enwau rhyfelwyr y groes, amcanion gweinyddwyr y saint, a theithwyr tir Immanuel, gael eu bytholi, fel y gallo eu holynwyr, wrth deithio yr anialwch eu hefelychu yn eu rhinweddau, a'u dysglaer rasau, 7 rhai a addurnai eu bywydau def- nyddiol. Fel creaduriaid rhesymol a chymdeithasol, y mae yn naturiol genym fawrhau coffadwriaeth ein «anwyl gyfeillion, yn enwedig y rhai yny> y rhai oeddynt yn eu bywydau ì'n addurn i gymdeithas, yn anrhyd- ead yn y wlad, ac yn dystion bywiol 0 ^irionedd y grefydd Gristionogol; Pan ystyriom eu cymmeriad di- frychau, eu gwroldeb glewaidd dros y gwirionedd, eu diflin lafur i wneyd daioni, a'u goddefgarwch dan eu croesau, eu tawel ymorphwysiad ar eu Tad nefol, ynghyd â'u dedwydd ymadawiad â'r byd hwn, i'r trigfanau dedwydd, byddwn yn teimlo awydd i fod yn debyg iddynt, a dywedyd fel y dywedai Balaam gynt, " Marw a wnelwyf o farwolaeth y cyfìawn, a boed fy niwedd i fel yr eiddo yntau." Mae'n wir na chafodd gwrthddrych y cofiant hwn ond oes fer ar y llawr, ni bu amser ei ymddangosiad ar chwareufwrdd gweithrediad ond fel tarth yn ymddangos, ac wedi hyny disymwth ddiflanu; ac er iddodreulio rhan fawr o'r amser a benuodid iddo gan Ragluniaeth i fod yma ar y ddaear, mewn diwyd a dwys fyfyr- dodaeth i addasu ei hunan i droi mewn cylch cyhoeddus o ddefnydd- ioldeb, yr hyn ni chaniatäwyd iddo ganRagluniaethy nef; etto, megys yr edrycha y llysieuydd medrus gyda hyfrydwch a phleser ar y blodeuyn, pan heb gwbl ymddatod o'r bywellyn, fbud,J pan y dychymmygai wrth ei wedd siriol, am ei lun a'i faintioli pan y cyrhaeddai oedran addfedrwydd, er efallai na thyfai byth i'w faintioli, i ddadblygu ei lun prydferth, i arddan- gos ei liw hawddgar, ac i wasgaru ei berarogl hyfrydlawn; felly meddyl- iwyf finnau, i'oú Hawer o bethau yn 26