Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 34.] MAI, 1838. [Cyf. III. MABOLIAETH CRIST. Mr. Gol.—Yn rhifyn Awst, 1837, gwelais ofyniad ar y testun uchod,yn cael ei gyfeir- iaw at y Parch. H. Jones a minnau. Gan fy mod yn gwybod yn dda am gymhwysder fy nghyfaill, Mr. Jones, i ymdrin â'r pwne, dysgwyliais y byddai iddo gymmeryd y gorchwyl mewn llaw ; ond gan nad ydyw efe wedi gwneuthur felly, mi agynnygaf, yn orcu gullaf, i wneuthur ychydig sylwadau arno. Yr wyf yn ystyried mai gyda llawer o wylder santaidd, ac mewn modd tra gochel- gar, y mae yn gweddu i ni ymdrin â'r hyn sydd yn perthyn yn uniongyrchol i'r Duw anfeidrol; ac ni weddai i neb haeru dim mewn perthynas iddo ef yn mhellach nag y mae cfe wedi amlygu am dano ei hun. Nid ydwyf yn gwybod yn sicr pa betk a allasai fod yn benaf mewn golwg gan y gofynydd, ond sylwedd yr hyn sydd wedi bod mewn 'ladl yn mhlith duwinyddion, mewn per- thynas i Faboliaeth Crist, ydyw hyn; sef, —A ydyw Crist yn cael ei alw yn Fab ar gyfrif rhyw beth naturiol a hanfodol ber- tliynol i'r Person hwn; neu, a ydyw yn cael ci alw felly ar gyfrif ei neillduad i ei swydd a'i waith fel Cyfryngwr? Gallwn yma gymmeryd y gofyniad yn fwy cyffredinol. A ydyw yr enwau, neu yn hytrach y «odweddiadau, Tad, Mab, ac Ysbryd Glân yn perthynu o anghenrheidrwydd i'r per- sonau Dwyfol; neu ynte, nodweddiadau Perthynol iddynt, fel y maent yn cael eu hystyried yn yr ysgrythyrau santaidd mewn gwahaniaethol sefyllfaoedd, ac yndwyn yn 'nlaen wahaniaethol ranau o drefn iechyd- wriaeth, ydynt ? Mewn trefn i gael golwg Sywir ar yr hyn sydd mewn dadl, byddai yn •inteisiol i ni nodi, yn flaenaf, y pcthau" y lae y ddwy blaid yn cyduno yn eu cylch. 1. Y maent yn cydolygu fod yr ysgry- thyrau santaidd yn ein dysgu ni i gredu, fod Duw yn hanfodi yn. dri o wahaniaethol bersonau, y rhai a elwir yn y gair, yn Dad, Mab, ac Ysbryd Glàn. Nid ydyw y naill na'r lla.ll yn cymmeryd arnynt egluro, na deall,/?a/oí/f/y mae y Bôd anfeidrol hwn yn hanfodi felly. Cydystyriant mai ein dylcdswydd ni yw credu yr hyn y mae efe yn amlygu am dano ci hun, er nas gallwn amgyffred y modd y mae felly. 2. Cydolygant fod y personau Dwyfol yma yn gyhyd-dragywyddol, ac yn ogyf- uwch yn mhob gogoniant, heb na blaenaf- iaeth nac uwchafiaeth yn perthyn i un, fel y cyfryw. Y maent yn cyduno yn hollol yn y pethau yma. Ond y maent yn gwahan- iaethu yn hyn:—Y naill blaid a olygant fod y nodweddiadau yma, Tad, Mítb, ac Ys- bryd Glân, yn perthynu o anghenrheid- rwydd i'r Personau Dwyfol, pe na buasai dyn, nac angel, nac un creadur arall, wedi ei greu. Dywed un fel hyn,—" Duw'r Tad a genhedlodd ei Ddwyfol Fab Icsu Grist, trwygenhedliad tragywyddol, anghenrhcid- iol, a naturiol." Felly ystyrir fod Crist yn cael ei alw yn Fab ar gyfrif ei dragywyddol genhedliad. Y mae y blaid arall yn golygu fod y nodweddiadau crybwylledìg wedi eu cymmeryd gan y Personau Dwyfol yn eu perthynas û'r sefyllfaoedd a'r gwaith a briodolir iddynt yn y gair, ac nid gyda go- lwg ar ddim hanfodol i'r Personau Dwyfol ynddynt eu hunain. Yn awr, y mae y golygiad olaf hwn yn ymddangos i mi yn Uawer mwy cysson nà'rllall. Mewn trefn i eglurohyn,— 1. Ceisiaf ddangos nad oes genym le i olygu fod y cyrryw nodweddiadau yn per- thynu o. anghenrheidrwydd i'r Personau 18