Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 32.] MAWRTH, 1838. [Cyf. III. COFIANT MRS. JONES, GWRAIG Y PARCH. M. JONES, BETHESDA, MERTHYR. Gan fod cymmaint o ymdrech yn mhawb dynion y byd i oesi enwau eu cyfeillion, pryd y mae eu teilyngdod yn y cyffredin yn amheus, paham na bydd i ni eu hefelychu, ie, eu blaen- ori mewn gwresog ymdrech, i an- farwoli enwau y rhai y tystir fod eu "coffadwriaeth ynfendigedig." Di- amheuol y dylem ymdrechu gwneyd y rhai ag oedd yn berarogl Crist yn berarogl y byd, fel y byddo i'w " ffydd gael ei dilyn." Gwrthddrych y cofiant dan sylw ydoedd yr hynaf o chwech o blant i Dafydd a Mary Evans, Felingernos, plwyf Llangynllo, Ceredigion. Pryd nad ydoedd ond deuddeg mlwydd oed gwnawd ei thad yn weddw, a'i blant oll yn amddifaid, pryd y syrth- iodd holl ofal mamol ei chydblant ar ein gwrthddrych, hyd o feẁn ychydig i'r dydd yr ymadawodd â thŷ ei thad, drwy uno mewn priodas â'r hen ber- erin ag sydd yn awr yn hiraethus alaru ar ei hol. Deallir ei bod wedi ennill iddi ei hun radd helaeth o barch yn y sefyllfa ofalus hòno; me- gys ag y gwnaeth yn mhob man ag y bu wedi hyny. Yn mhen ychydig 0 fisoedd ar ol claddu ei mham, ym- ^asgodd at ddysgyblion Crist ag ydoedd yn ymgynnull i addoli yr Arglwydd mewn lle adnabyddus ger- üaw yno, sef, Horeb; y pryd hwnw <?an ofal gweinidogaethol y diweddar *j«jjh. Jonathan Jones, Rhydybont. ^ddurnodd ei chrefydd nid a r un odaiallan, o blethiad gwallt, ac am- gylch osodiad aur, neu wisgad dillad, eithr mewn cuddiedig ddyn y galon, mewn anllygredigaeth ysbryd, add- fwyn a llonydd, yr hyn sydd gerbron Duw yn werthfawr ; yr hyn sydd yn gweddu i wragedd a fo yn proffesu duwioldeb ac ymarfer gwreithred- oedd da. Pan oddeutu un-ar-hugain oed, ymunoddmewn priodas â'rgwrhwnw ag y mae ei glod yn yr holl eglwysi, y Parch. Methusalem Jones, presen- nol weinidog yr Anymddibynwyr yn Bethesda, Merthyr, genedigoi o'r un ardal â hitha.u Yn mhen ychydig flynyddoedd ar ol hyny, symudodd Mr. Jones i sir Forganwg, i gymmeryd gofal gweinidogaethol yr eglwys gyn- nulleidfaol yn Llangynwyd, gerllaw Penybont-ar-ogwy, lle y treuliasant naw mlynedd a hanner. Ei hymar- weddiad yno hefyd oedd gyfryw ag a deilyngai un yn troi yn nghylch cyfrwng gwraig gweinidog Ymneill- duedig. Ar ol treulio yr yspaid uchod yn Llangynwyd, cawn wrth- ddrych ein cofiant yn symud gyda'i phriod i Ferthyr Tydfil; yma hefyd y cawn liosogrwydd o dystiolaethau fod Mrs. Jones yr ün ag y desgrif- iwyd hi yn barod, a hyny yn mhob amgylchiad. Rhagorai yn mhell mewn un peth neillduol a theilwng ar y rhan fwyaf o wragedd Cymru, sef mewn darllen ei Bibl yn neillduol, ynghyd â llyfrau da ereill. Yn aml yr eisteddai i fynu am awr neu ddwy i ddarllen ar ol i bawb fyned i'w 10